Swyddog Cerbydau NPORS (N403)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    CIST-Llangefni
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    1 diwrnod

Gwnewch gais
×

Swyddog Cerbydau NPORS (N403)

Cyrsiau Byr

Disgrifiad o'r Cwrs

Rhoi gwybodaeth a dealltwriaeth o'r meysydd canlynol:

  • Dealltwriaeth sylfaenol o'r diwydiant a'r ddeddfwriaeth berthnasol, peryglon gweithio yn y diwydiant a chyfrifoldebau swyddog cerbydau
  • Gwybodaeth ymarferol o lawlyfr y gwneuthurwr ar gyfer y cerbyd / peiriant dan sylw
  • Dealltwriaeth dda o arwyddion a signalau, arwyddion llaw cydnabyddedig a gwahanol ddulliau cyfathrebu
  • Nodi a chynnal y cyfarpar diogelu personol (PPE) sy'n briodol ar gyfer dyletswyddau swyddog cerbydau
  • Cynnal yr holl wiriadau diogelwch angenrheidiol yn y man gwaith, yn cynnwys blociau atal a mannau tipio
  • Sefydlu ardaloedd gwaharddedig ar gyfer dadlwytho
  • Tywys peiriannau ymlaen ac yn ôl yn ddiogel ac yn effeithlon, gan gynnwys mewn mannau cyfyng a mannau lle na ellir gweld yn glir
  • Ystyriaethau amgylcheddol
  • Cyflawni'r holl dasgau sydd eu hangen wrth orffen sifft, parcio a diffodd peiriannau

Gofynion mynediad

  • Wedi cwblhau prawf Sgrin Gyffwrdd CSCS yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf
  • Mae trwydded yrru'n ddymunol ond nid yn hanfodol
  • Dealltwriaeth dda o Saesneg llafar ac ysgrifenedig

Cyflwyniad

  • Cyflwyniadau yn yr ystafell ddosbarth
  • Arddangosiadau ymarferol
  • Ymarfer o dan oruchwyliaeth tiwtor

Asesiad

  • Asesiad ymarferol
  • Arholiad theori

Dilyniant

Cyrsiau hyfforddi eraill ym maes peiriannau trwm ac adeiladu a fyddai'n galluogi'r dysgwyr i weithio ac ehangu eu sgiliau yn y diwydiant adeiladu.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Byr

Lefel: 2