CAMVA
Biwro Cyflogaeth a Menter yw CAMVA sy'n darparu cymorth ac arweiniad gyda'ch camau nesaf i gael gwaith, creu eich busnes eich hun neu ddod o hyd i brentisiaeth.
Rydym yn ymfalchïo mewn paru busnesau â’r genhedlaeth nesaf o weithwyr naill ai trwy gyflogaeth uniongyrchol neu gyfleoedd prentisiaeth.
Gyda dros 20,000 o fyfyrwyr yn astudio gyda Grŵp Llandrillo Menai, mae potensial enfawr i ddod o hyd i'r darpar weithiwr cywir ar gyfer eich busnes.

Myfyriwr
Gallwn eich helpu:
- ddod o hyd i brofiad gwaith
- ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd
- ddatblygu sgiliau menter
- benderfynwch beth sydd nesaf ar ôl i chi orffen eich cwrs

Cyflogwyr
Mae CAMVA yn pontio'r bwlch rhwng dysgwyr a chyflogwyr ac rydym yn cynnig cyfleoedd i gyflogwyr lleol ymgysylltu â dysgwyr trwy gyfrwng nifer o wasanaethau.

Rhieni
Helpwch eich plant gyda gwybodaeth ac adnoddau i'w cynorthwyo gyda'u hopsiynau gyrfa yn y dyfodol.