CAMVA
Biwro Cyflogaeth a Menter yw CAMVA sy'n darparu cymorth ac arweiniad gyda'ch camau nesaf i gael gwaith, creu eich busnes eich hun neu ddod o hyd i brentisiaeth.
Rydym yn ymfalchïo mewn paru busnesau â’r genhedlaeth nesaf o weithwyr naill ai trwy gyflogaeth uniongyrchol neu gyfleoedd prentisiaeth.
Gyda dros 20,000 o fyfyrwyr yn astudio gyda Grŵp Llandrillo Menai, mae potensial enfawr i ddod o hyd i'r darpar weithiwr cywir ar gyfer eich busnes.
![Logo CAMVA](/imager/images/CAMVA/594243/CaMVA-logo-Colour_72c9be5606906c16e9d80d1324889ea0.jpeg)
![Myfyriwr efo ffolder gwaith](/imager/images/CAMVA/594283/CAMVA-Student_17be989f05099e9808c667035f8aff3b.jpeg)
Myfyriwr
Gallwn eich helpu:
- ddod o hyd i brofiad gwaith
- ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd
- ddatblygu sgiliau menter
- benderfynwch beth sydd nesaf ar ôl i chi orffen eich cwrs
![Cyflogwyr yn trafod gwaith](/imager/images/CAMVA/594263/CAMVA-Employers_b53bbcbaa438afef7e17904f53c4511b.jpeg)
Cyflogwyr
Mae CAMVA yn pontio'r bwlch rhwng dysgwyr a chyflogwyr ac rydym yn cynnig cyfleoedd i gyflogwyr lleol ymgysylltu â dysgwyr trwy gyfrwng nifer o wasanaethau.
![Rhiant yn helpu plentyn](/imager/images/CAMVA/594282/CAMVA-Parent_b53bbcbaa438afef7e17904f53c4511b.jpeg)
Rhieni
Helpwch eich plant gyda gwybodaeth ac adnoddau i'w cynorthwyo gyda'u hopsiynau gyrfa yn y dyfodol.