Canolfan CIST

    Mae CIST yn ddarparwr hyfforddiant blaengar yn y DU ym maes sgiliau adeiladu, isadeiledd a thechnoleg, ar y cyd â phartneriaid arbenigol o’r radd flaenaf.

    Ein cryfder yw’r portffolio eang o gyrsiau, ansawdd yr adnoddau a'r partneriaid delifro mwyaf profiadol yn eu maes ar gyfer dysgu ar y safle neu o bell.

    Mae ein portffolio o raglenni hyfforddi wedi’i gynllunio er mwyn cwrdd yn uniongyrchol ag anghenion cyflogwyr, ac fe'u datblygir o dan arweiniad ein partneriaid arbenigol a rhan-ddeiliaid y sector. Mewn byd sy'n newid yn gyson, rydym o hyd yn addasu ac arloesi er mwyn sicrhau na chaiff ein cwsmeriaid eu gadael ar ôl.

    Fforch godi yn CIST
    Sgaffaldio to

    Mae CIST yn rhan o Busnes@LlandrilloMenai, adain fasnachol Grŵp Llandrillo Menai, darparwr addysg bellach mwyaf Cymru.

    Mae darpariaeth CIST wedi ei seilio ar flynyddoedd o brofiad mewn cynnal hyffroddiant perthnasol i’r diwydiant i gwrdd ag anghenion cwmnïau unigol a'r economi'n ehangach.

    Rydym wedi ein lleoli ar safle Grŵp Llandrillo Menai yn Llangefni ar Ynys Môn. Mae'r campws wedi derbyn buddsoddiad o tua £20m ers 2016 gan gynnwys £2.4m yn y Ganolfan CIST.

    Mae cyfran helaeth o'n hyfforddiant yn cael ei ddarparu mewn partneriaeth ag eraill er mwyn sicrhau bod gennym yr wybodaeth a'r offer gorau bosibl.

    Cyfleusterau

    Wedi'i lansio'n swyddogol yn 2019, mae CIST yn ganolfan hyfforddi broffesiynol £2.4m lle darperir hyfforddiant o ansawdd uchel ar gyfer y diwydiannau adeiladu a pheirianneg sifil.

    • Y Ganolfan Sgiliau - dosbarthiadau, adnoddau lles, ystafelloedd profi, ystafell brofi TG
    • Man Hyfforddi Ymarferol - scaffaldio, trin deunyddiau, gweithio ar uchder
    • Canolfan Hyfforddiant Di-Carbon - ynni adnewyddadwy; hyfforddiant cydymffurfiad a chanolfan asesu
    • Mannau allanol ar gyfer gweithrediadau safle, gwaith stryd, cyfleustodau, gofod parcio

    Mae'r holl gyfleusterau wedi cael eu cynllunio i adlewyrchu amodau gwaith go iawn ac yn cyd-fynd â safonau diogelwch safle.

    Peiriannau Offer Trwm y tu allan i CIST