Astudiaethau achos
Mae CIST (Canolfan Isadeiledd, Sgiliau a Thechnoleg) yn darparu hyfforddiant arbenigol a chymwysterau wedi'u hachredu i gwmnïau ac unigolion ym maes Adeiladu, Peirianneg Sifil, Lleihau Carbon ac Ôl-osod Isod ceir straeon rhai o'r unigolion rydyn ni wedi'u cefnogi, felly darllenwch am sut mae CIST wedi helpu eu gyrfaoedd a'u busnesau.
Shaun Conrad
Roedd Shaun yn teimlo ei fod wedi ei ddal mewn swydd nad oedd yn mynd ag ef i unman, felly cofrestrodd gyda'r PLA a newidiodd ei stori. O fod yn ofalwr tir i fod yn Hyfforddwr Gweithredwr Peiriannau Trwm hunangyflogedig llawn amser, gwnaeth Shaun gais am Gyfrif Dysgu Personol ac aeth ar gyrsiau yn CIST, Llangefni.
Bea O'Loan
Roedd gan Bea ddiddordeb mewn Iechyd a Diogelwch ond roedd yn gweithio fel dosbarthydd mewn fferyllfa. Cofrestrodd ar gyfer cyllid PLA, mynychodd gwrs yn CIST ac mae bellach yn Gydlynydd HSEQ i Jennings Building and Civil Engineering. Trwy gofrestru gyda'r PLA a mynychu cwrs NEBOSH drwy CIST, llwyddodd Bea i symud ymlaen yn ei gyrfa.
Francesa Giacomet
O fod yn weithiwr warws i fod yn Beiriannydd Nwy cymwysedig, roedd Francesca eisiau gyrfa wahanol a gwnaeth gais am Gyfrif Dysgu Personol ac aeth ar gwrs Nwy Domestig yn CIST, Llangefni. Gyda’r cyllid o’r Cyfrif Dysgu Personol, mae Francesca bellach yn Beiriannydd Nwy cymwysedig.
Gwyn Jones
Mae G&D Jones Ltd yn gwmni sy'n arbenigo mewn gwaith trydanol a phlymio ac yn ddiweddar mae wedi arallgyfeirio ei wasanaethau i gynnwys systemau biomas a phympiau gwres. Gan ei fod yn gweithredu mewn ardaloedd gwledig mae'r cwmni'n gwneud llawer o waith i'r sector amaethyddol, ac mae bron i 90% o'r gwaith a wna mewn adeiladau newydd yn cynnwys gosod pympiau gwres neu baneli solar.
Paul Carter
Mae Get Carter UK 365 wedi gweld cynnydd yn galw am ynni adnewyddadwy yn y sector eiddo domestig a masnachol. I fodloni'r galw, cafodd y cwmni hyfforddiant mewn technolegau solar thermol a phympiau gwres ynghyd â rheoliadau ymwneud ag effeithlonrwydd ynni a dŵr.
Robert Williams
Cafodd y cwmni hyfforddiant trwy CIST er mwyn gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'w gwsmeriaid am systemau arbed ynni newydd a fydd yn gwella effeithlonrwydd ac yn arbed arian. Wrth i Robert Williams Plumbing and Heating ehangu, mae cael hyfforddiant arbenigol mewn maes sy'n datblygu'n gyflym wedi bod yn werthfawr iawn i'w cwmni.
Steven Safhill-Jones
Mae Safhill-Jones Plumbing and Heating yn adnewyddu ac uwchraddio hen systemau plymio a gwresogi. Mae Steve, perchennog y busnes yn edrych i'r dyfodol. Ei fwriadu yw adeiladu'r busnes trwy weithio gyda chwsmeriaid domestig a masnachol ac ar hyn o bryd mae'n canolbwyntio ar feithrin arbenigedd mewn technolegau'n gysylltiedig ag ynni adnewyddadwy ac ôl-osod.
Gary Williams
Mae Adra yn gymdeithas dai cymdeithasol sy’n gweithredu yng Ngwynedd a thu hwnt, gyda dros 7,000 o gartrefi a 16,000 o gwsmeriaid.
Kate Robinson
Cwmni bach teuluol sy’n darparu gwasanaethau trydanol. Gwaith domestig rydyn ni’n wneud yn bennaf, yn cynnwys ailweirio cartrefi hŷn, gosodiadau trydanol, a thrwsio namau. Rydym yn darparu rhai gwasanaethau masnachol, fel creu Adroddiadau Cyflwr Trydanol (EICRs) a gwiriadau diogelwch mewn gwestai a llety hunanarlwyo.
Osian Rowlands
Mae DEG yn fenter gymdeithasol sy’n cefnogi gweithredu cymunedol yng ngogledd orllewin
Cymru. Y nod yw cynyddu’r gallu i ymdrin â’r cynnydd yng nghost tanwydd ffosil ac i wella ein amgylchedd naturiol.