Francesa Giacomet

    O weithiwr warws i Beiriannydd Nwy cymwys, roedd Francesca eisiau gyrfa wahanol a gwnaeth gais am Gyfrif Dysgu Personol a mynychodd gwrs Nwy Domestig yn CIST, Llangefni. Gyda'r cyllid o'r Cyfrif Dysgu Personol, mae Francesa bellach yn Beiriannydd Nwy cymwys.

    Llwyddiant CDP

    Proffil Dysgwr

    Mae Busnes@LlandrilloMenai a’r Ganolfan Isadeiledd, Sgiliau a Thechnoleg (CIST) yn helpu pobl i ddatblygu drwy eu Cyfrif Dysgu Personol (CDP).

    Mae rhain yn gyrsiau hyblyg sy’n cael eu hariannu’n llawn ar gyfer pobl sy’n ennill llai na £29,534, neu mewn perygl o gael eu gwneud yn ddi-waith – gan roi’r sgiliau cywir i bobl ddatblygu neu newid eu gyrfa. Mae’r cyrsiau hyn yn rhai galwedigaethol ac yn canolbwyntio ar sectorau lle mae prinder sgiliau. Y nod yw helpu unigolion, drwy wella sgiliau pobl mewn meysydd fel TG, digidol, cyllid, adeiladu swyddi gwyrdd a mwy.

    Francesca Giacomet

    Enw:

    Francesca Giacomet

    “Mae gen i gymaint o angerdd am fy swydd a dwi’n ennill mwy o arian o ganlyniad i’r cymhwyster newydd.”

    Cymhwyster:

    Nwy Domestig

    Pam nes i ddewis y cwrs:

    Yn fy swydd flaenorol, roeddwn i’n gweithio mewn warws i gwmni ar-lein, ar y dechrau roeddwn yn mwynhau, ond wrth symud ymlaen yn y busnes roeddwn yn treulio mwy o amser yn y swyddfa, tu ôl i ddesg a ddim yn mwynhau hyn cymaint. Dwi’n mwynhau bod mewn rôl sy’n ymarferol ac yn delio gyda heriau. Dechreuais feddwl am yrfaoedd gwahanol fyddai’n fy ngalluogi i wneud hyn.

    Roeddwn i eisoes yn gweithio yn y diwydiant tân, ond nid yr ochor beirianneg. Roedd y cwmni eisiau peiriannydd nwy. Doeddwn i heb weithio efo tannau nwy o’r blaen nag yn gwybod llawer am y maes, ond yn awyddus i gael sialens ac o bosib gyrfa newydd.

    Dechreuais wneud cwrs plymio Lefel 1 gyda’r nos i weld os fyswn i’n mwynhau. Roeddwn yn mwynhau’r ochor ymarferol ond nid y darnau theori. Daeth y cwrs i ben oherwydd Covid, ond fe wnes i basio gan mod i wedi cwblhau’r mwyafrif.

    Dywedais wrth y tiwtor fod gen i ddiddordeb cymhwyso fel peiriannydd nwy. Dywedodd wrtha i am y cwrs CDP a’i fod yn cael ei ariannu’n llawn. Cysylltais gyda’r CDP, oedd yn barod iawn i helpu a rhannu'r holl wybodaeth am y cwrs. Dechreuais ar y cwrs yn 2020. Roeddwn yn ei weld yn heriol ar y dechrau, llawer o wybodaeth i ddysgu ond unwaith nes i dechrau deall, nes i ddechrau mwynhau. Doedd o ddim yn hawdd ond fe wnes i wneud fy ngorau.

    Unrhyw gyngor ar gyfer dysgwyr y dyfodol?

    Un peth defnyddio nes i ei wneud oedd recordio’r dosbarthiadau fel mod i’n gallu gwrando nôl wrth adolygu i gofio beth roedd y tiwtor wedi bod yn egluro’r diwrnod hwnnw. Roedd hyn helpu pan oedd hi’n anodd canolbwyntio ar yr holl wybodaeth.

    Sut mae’r CDP wedi dy helpu?

    Rwyf wedi cwblhau fy nghwrs diogelwch nwy ac wedi cymhwyso fel peiriannydd nwy erbyn hyn. Dwi’n mwynhau gweithio i gwmni Debrett Fires yn gosod tannau nwy. Dwi’n teimlo’n falch o fy hun am ennill y cymhwyster. Er mod i wedi cymhwyso mae gen i dal llawer i ddysgu a llawer o brofiad i’w ennill.