Gary Williams, Rheolwr Cynorthwyol Dysgu a Datblygu
Diolch i’r cynllun rydan ni wedi gallu uwch-sgilio ein tîm fel eu bod nhw’n gallu gosod y dechnoleg diweddaraf yng nghartrefi cwsmeriaid.
Mae Hyfforddiant Net Sero Gwynedd yn cael ei ddarparu gan Canolfan Isadeiledd Sgiliau a Thechnoleg (CIST) trwy Busnes@LlandrilloMenai. Mae’n darparu hyfforddiant arbenigol i unigolion a busnesau bach a chanolig yn y sector adeiladu. Y nod yw uwchsgilio’r gweithlu i allu ymateb i’r galw am ddatgarboneiddio cartrefi a symud tuag at ddyfodol net sero. Mae’r cynllun yn cael ei ariannu trwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin.
Enw
Gary Williams, Rheolwr Cynorthwyol Dysgu a Datblygu
Cwmni
Adra (Tai) Cyf
Disgrifia’r cwmni
Mae Adra yn gymdeithas dai cymdeithasol sy’n gweithredu yng Ngwynedd a thu hwnt, gyda dros 7,000 o gartrefi a 16,000 o gwsmeriaid.
Pa gyrsiau ydych chi wedi eu dilyn?
Tystysgrif ABBE Lefel 3 mewn Asesu Ynni Domestig, Cymhwyster EAL L3 ar Osod Systemau Solar Ffotofoltäig Graddfa Fach, Lleithder a Llwydni mewn Adeiladau Traddodiadol a mwy.
Pam wnaethoch chi gofrestru gyda Hyfforddiant Net Sero Gwynedd?
Mae’r cyrsiau yn berthnasol iawn i’r hyn rydan ni’n ei wneud. Roedden ni’n falch o allu cyd-weithio efo CIST, Busnes@LlandrilloMenai i hyfforddi ein staff ac mae’r ffaith bod y cyrsiau wedi eu hariannu yn llawn wedi bod o fudd ac yn rhyddhau cyllideb ar gyfer elfennau eraill o ofalu am ein cwsmeriaid a’u cartrefi.
Ydi’r sgiliau rydych chi wedi’u dysgu wedi bod yn ddefnyddiol i chi a’ch cwmni?
Diolch i’r cynllun rydan ni wedi gallu uwch-sgilio ein tîm fel eu bod nhw’n gallu gosod y dechnoleg diweddaraf yng nghartrefi cwsmeriaid. Mae’r cyrsiau hefyd wedi helpu i godi ymwybyddiaeth ein syrfewyr a’n archwilwyr o’r gwahanol fathau o dechnoleg sydd ar gael i leihau carbon, gwella effeithlonrwydd cartrefi ac anelu am ddyfodol net sero.