G&D Jones Ltd
Mae G&D Jones Ltd yn gwmni sy'n arbenigo mewn gwaith trydanol a phlymio ac yn ddiweddar mae wedi arallgyfeirio ei wasanaethau i gynnwys systemau biomas a phympiau gwres. Gan ei fod yn gweithredu mewn ardaloedd gwledig mae'r cwmni'n gwneud llawer o waith i'r sector amaethyddol, ac mae bron i 90% o'r gwaith a wna mewn adeiladau newydd yn cynnwys gosod pympiau gwres neu baneli solar.
Prosiect Hyfforddiant Sero Net Gwynedd
Mae CIST yn darparu hyfforddiant mewn technoleg carbon isel i wella sgiliau crefftwyr a busnesau bach a chanolig. Y bwriad yw paratoi busnesau lleol ar gyfer dyfodol sero net trwy sicrhau bod gweithwyr yn gallu bodloni'r cynnydd yn y galw am ynni adnewyddadwy mewn cartrefi.
Mae Prosiect Sero Net Gwynedd wedi derbyn £500,000 gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.
Enw:
Gwyn Jones
Cwmni:
G&D Jones Ltd
Proffil y Cwmni:
Wedi ei sefydlu yn 2018 mae’r cwmni yn arbenigo mewn gwaith trydan a phlymio ac yn benodol yn fwy diweddar mewn biomas a phympiau gwres. Fel cwmni sy’n gwasanaethu ardal wledig, mae llawer o waith Gwyn a’i gwmni yn dod o’r sector amaeth ar hyd a lled gogledd Cymru. Mae chwech yn gweithio i’r cwmni llawn amser gan gynnwys prentisiaid.
Ydi anghenion eich cwsmeriaid yn newid?
Mae cynnydd sylweddol wedi bod yn y gwaith rydyn ni’n wneud ar osod technoleg ynni adnewyddol mewn cartrefi. Erbyn hyn mae bron i 90% o’n gwaith ni mewn adeiladau newydd yn cynnwys pympiau gwres neu baneli PV. Mae mwy o ymwybyddiaeth ymysg cwsmeriaid yn sicr ac mae defnyddio ynni adnewyddol yn hyd yn oed mwy apelgar yng nghefn gwald ble nad oes cyswllt i’r prif gyflenwad nwy.
Pam wnaethoch chi benderfynu cofrestru gyda Sero Net Gwynedd?
Roedd y cyfle i ddatblygu sgiliau o fewn ein cwmni a’r gallu i gael yr hyfforddiant yn lleol yn apelio yn fawr, yn enwedig gan ein bod ni mewn ardal wledig fel hyn. Mae safon yn bwysig i mi yn y busnes ac mae’r cyrsiau heb os yn helpu ni gadw fyny efo safon diweddaraf. Mae parhau i ddysgu trwy’r amser hefyd ac yn help i esblygu’r busnes.
Pa gyrsiau ydych chi wedi eu dilyn?
- Pympiau gwres tir
- Pympiau gwres awyr
- Storio batri
Ydi’r sgiliau rydych chi wedi’u ddysgu trwy’r prosiect wedi bod yn ddefnyddiol i chi?
Rydw i eisiau paratoi fy musnes at y dyfodol a’r cynnydd sy’n siwr o ddod yn y galw am sgiliau i osod technoleg ynni adnewyddadwy. Rydw i eisiau bod ymysg y cwmnïau hynny sy’n gallu cwrdd â’r galw yna.