Kate Robinson, Robinson Electrical, Tanygrisiau

    Penderfynon ni gofrestru achos roedden ni eisiau gwella ein sgiliau.

    Mae Hyfforddiant Net Sero Gwynedd yn cael ei ddarparu gan Ganolfan Isadeiledd Sgiliau a Thechnoleg (CIST) trwy Busnes@LlandrilloMenai. Mae’n darparu hyfforddiant arbenigol i unigolion a busnesau bach a chanolig yn y sector adeiladu, gyda'r nod o uwchsgilio’r gweithlu i allu ymateb i’r galw am ddatgarboneiddio cartrefi a symud tuag at ddyfodol net sero. Mae’r cynllun yn cael ei ariannu trwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin.

    Kate Robinson

    Enw

    Kate Robinson

    Cwmni

    Robinson Electrical, Tanygrisiau

    Disgrifia’r cwmni

    Cwmni bach teuluol sy’n darparu gwasanaethau trydanol. Gwaith domestig rydyn ni’n wneud yn bennaf, yn cynnwys ailweirio cartrefi hŷn, gosodiadau trydanol, a thrwsio namau. Rydym yn darparu rhai gwasanaethau masnachol, fel creu Adroddiadau Cyflwr Trydanol (EICRs) a gwiriadau diogelwch mewn gwestai a llety hunanarlwyo.

    Pa gyrsiau ydych chi wedi eu dilyn?

    Cymhwyster EAL L3 mewn gosod Systemau Solar Ffotofoltäig Graddfa Fach, EAL Lefel 3 ar gyfer Gosod Pwyntiau Gwefru Cerbydau Trydan, Lefel 3 LCL mewn Systemau Storio Ynni Trydanol (EESS).

    Pam wnaethoch chi gofrestru gyda Hyfforddiant Net Sero Gwynedd?

    Penderfynon ni gofrestru achos roedden ni eisiau gwella ein sgiliau. Pan ddaeth y cyfle hwn i fyny ac wedi ei ariannu yn llawn, roedden ni wrth ein boddau. Mae’r ffaith ei fod yn lleol hefyd yn wych.

    Ydi’r sgiliau rydych chi wedi’u dysgu wedi bod yn ddefnyddiol i chi a’ch cwmni?

    Ydi, hynod o ddefnyddiol. Bellach rydym yn gallu gosod pwyntiau gwefru EV, ac yn bwriadu cynnig hyn i gwsmeriaid yn fuan. Rydym wedi datblygu sgiliau mewn gosod paneli solar a batris storio trydan yn ogystal â gwaith cynnal a chadw, sy’n ein galluogi i ehangu ein gwasanaethau. Mae wedi helpu ni hefyd i allu cynghori cwsmeriaid ar sut i storio a defnyddio ynni yn fwy effeithlon.