Osian Rowlands, Datblygiadau Egni Gwledig (DEG)

    Roeddwn i’n awyddus i ddatblygu fy sgiliau er mwyn cyflawni fy swydd fel Swyddog Ynni Cymunedol yn ardal Caernarfon a Dyffryn Peris.

    Mae Hyfforddiant Net Sero Gwynedd yn cael ei ddarparu gan Ganolfan Isadeiledd Sgiliau a Thechnoleg (CIST) trwy Busnes@LlandrilloMenai. Mae’n darparu hyfforddiant arbenigol i unigolion a busnesau bach a chanolig yn y sector adeiladu, gyda'r nod o uwchsgilio’r gweithlu i allu ymateb i’r galw am ddatgarboneiddio cartrefi a symud tuag at ddyfodol net sero. Mae’r cynllun yn cael ei ariannu trwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin.

    Osian Rowlands

    Enw

    Osian Rowlands

    Cwmni

    Datblygiadau Egni Gwledig (DEG)

    Disgrifia’r cwmni

    Mae DEG yn fenter gymdeithasol sy’n cefnogi gweithredu cymunedol yng ngogledd orllewin Cymru. Y nod yw cynyddu’r gallu i ymdrin â’r cynnydd yng nghost tanwydd ffosil ac i wella ein amgylchedd naturiol.

    Pa gyrsiau ydych chi wedi eu dilyn?

    Dyfarniad Lefel 3 ABBE mewn Effeithlonrwydd Ynni mewn Hen Adeiladau ac Adeiladau Traddodiadol

    Pam wnaethoch chi gofrestru gyda Hyfforddiant Net Sero Gwynedd?

    Roeddwn i’n awyddus i ddatblygu fy sgiliau er mwyn cyflawni fy swydd fel Swyddog Ynni Cymunedol yn ardal Caernarfon a Dyffryn Peris. Wrth roi cyngor a chynnal arolygon ynni rydw i'n meddwl ei bod hi’n bwysig bod trigolion yn gallu cael gwasanaethu gan bobl lleol sydd wedi eu hyfforddi'n lleol.

    Ydi’r sgiliau rydych chi wedi’u dysgu wedi bod yn ddefnyddiol i chi a’ch cwmni?

    Ydi yn sicr ac yn enwedig gan bod un o ddyletswyddau fy swydd yn golygu cynnal arolwg ynni yng nghartrefi unigolion sydd eisiau bod yn fwy effeithlon neu mynd i'r afael a thlodi tanwydd. Fel cam nesaf rydw i wedi cofrestru ar gyfer y cwrs Adeiladau Hŷn a Thraddodiadol. Mae’r cynllun yn un gwerth chweil a byddwn yn annog pobl sy’n gweithio yn y maes ac eisiau gwella eu sgiliau i gofrestru.