Robert Williams Plumbing and Heating

    Cafodd y cwmni hyfforddiant trwy CIST er mwyn gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'w gwsmeriaid am systemau arbed ynni newydd a fydd yn gwella effeithlonrwydd ac yn arbed arian. Wrth i Robert Williams Plumbing and Heating ehangu, mae cael hyfforddiant arbenigol mewn maes sy'n datblygu'n gyflym wedi bod yn werthfawr iawn i'w cwmni.

    Prosiect Hyfforddiant Sero Net Gwynedd

    Mae CIST yn darparu hyfforddiant mewn technoleg carbon isel i wella sgiliau crefftwyr a busnesau bach a chanolig. Y bwriad yw paratoi busnesau lleol ar gyfer dyfodol sero net trwy sicrhau bod gweithwyr yn gallu bodloni'r cynnydd yn y galw am ynni adnewyddadwy mewn cartrefi.

    Mae Prosiect Sero Net Gwynedd wedi derbyn £500,000 ⁠gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

    Robert Williams

    Enw:

    Robert Williams

    Cwmni:

    Robert Williams Plumbing and Heating

    Proffil y Cwmni: Cafodd y cwmni ei sefydlu yn 2014, a rydan ni’n gweithio ar hyd a lled Pen Llŷn a thu hwnt. Mae’n gwaith ni’n cynnwys ffitio ystafelloedd ymolchi mewn tai newydd a helpu cwsmeriaid trwy osod systemau sy’n gwella effeithlonrwydd ynni eu cartrefi.

    Ydi anghenion eich cwsmeriaid yn newid?

    Mae llawer o ddatblygiadau wedi bod mewn ynni adnewyddadwy mewn blynyddoedd diweddar ond mae dryswch ymhlith cwsmeriaid am y dechnoleg newydd a beth sydd orau yn eu cartrefi wrth geisio gwella effeithlonrwydd ac arbed arian. Mae gofyn i ni felly fod wedi ein hyfforddi yn iawn i ateb eu cwestiynau a’u gofynion nhw. Rydw i eisiau i bobl gael hyder yn ein gwaith ac ymddiried yn y cwmni.

    Pam wnaethoch chi benderfynu cofrestru gyda Sero Net Gwynedd?

    Ar hyn o bryd, rydan ni yn ceisio am waith ar raddfa fwy nag ydan ni wedi ei wneud yn y gorffennol. Mae Sero Net Gwynedd yn gyfle i’n paratoi ni i wneud y gwaith yma - ac mae’r ffaith bod y cyrsiau am ddim hefyd o help i ni fel busnes bach. Mae ein prentisiaid yn gysylltiad rhyngom ni â’r coleg ac mi ydan ni yn awyddus i gryfhau’r cyswllt hwnnw.

    Pa gyrsiau ydych chi wedi eu dilyn?

    • Tendro
    • Pympiau gwres awyr
    • Digwyddiad ‘Cwrdd â’r Prynwr’

    Ydi’r sgiliau rydych chi wedi’u dysgu trwy’r prosiect wedi bod yn ddefnyddiol i chi?

    Mae’r cwrs tendro wedi bod yn gymorth wrth i ni gynyddu graddfa ein busnes a cheisio tyfu a datblygu. Mae hyfforddiant yn rhan hanfodol o wella ein hunain ac rydw i’n mwynhau cymryd pob cyfle fel hyn ddaw fy ffordd.