Safhill-Jones Plumbing and Heating

    Mae Safhill-Jones Plumbing and Heating yn adnewyddu ac uwchraddio hen systemau plymio a gwresogi. Mae Steve, perchennog y busnes yn edrych i'r dyfodol. Ei fwriadu yw adeiladu'r busnes trwy weithio gyda chwsmeriaid domestig a masnachol ac ar hyn o bryd mae'n canolbwyntio ar feithrin arbenigedd mewn technolegau'n gysylltiedig ag ynni adnewyddadwy ac ôl-osod.

    Prosiect Hyfforddiant Sero Net Gwynedd

    Mae CIST yn darparu hyfforddiant mewn technoleg carbon isel i wella sgiliau crefftwyr a busnesau bach a chanolig. Y bwriad yw paratoi busnesau lleol ar gyfer dyfodol sero net trwy sicrhau bod gweithwyr yn gallu bodloni'r cynnydd yn y galw am ynni adnewyddadwy mewn cartrefi.

    Mae Prosiect Sero Net Gwynedd wedi derbyn £500,000 ⁠gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

    Steven Safhill-Jones

    Enw:

    Steven Safhill-Jones

    Cwmni:

    Safhill-Jones Plumbing and Heating

    Proffil Cwmni:

    Cafodd y busnes ei sefydlu bedair blynedd yn ôl yn Sir Fôn. Rydw i yn gweithio ar adnewyddu a newid hen systemau mewn cartrefi yn bennaf. Fy ngobaith yn y pen draw ydi tyfu’r busnes gan weithio gyda chwsmeriaid unigol yn ogystal â chwmnïau mwy.

    Ydi anghenion eich cwsmeriaid yn newid?

    Hyd yn hyn, dydi’r galw ddim wedi newid gymaint â mae technoleg ynni adnewyddadwy wedi datblygu. Rydw i’n gobeithio y galla’ i gael dylanwad ar hyn wrth i mi ddysgu mwy am y systemau. Rydw i eisiau ennill ymddiriedaeth fy nghwsmeriaid a dangos iddyn nhw y gall addasu eu cartrefi a’u systemau gwresogi fod yn fwy cynaliadwy ac arbed arian iddyn nhw yn yr hirdymor.

    Pam wnaethoch chi benderfynu cofrestru gyda Sero Net Gwynedd?

    Mae Sero Net Gwynedd yn gyfle i mi hybu fy musnes ac ynni adnewyddadwy. Mae hefyd yn siawns i mi ychwanegu at fy sgiliau. Wrth edrych i’r dyfodol, rydw i eisiau arallgyfeirio’r a rydw i’n gobeithio drwy gymryd rhan yn y cynllun y medrai wneud hynny. Dydw i ddim eisiau bod ar ei hôl hi pan mae’r galw am ynni adnewyddadwy mewn cartrefi yn codi. Dwi’n meddwl ei bod hi’n well bod ar flaen y gad wrth i dechnoleg newydd ddatblygu.

    Pa gyrsiau ydych chi wedi eu dilyn?

    • Solar thermol
    • Tendro
    • Pwmp gwres awyr

    Ydi’r sgiliau rydych chi wedi’u dysgu trwy’r prosiect wedi bod yn ddefnyddiol?

    Mae’r sgiliau rydw i wedi eu datblygu yn bwysig ar gyfer cynllunio i’r dyfodol ac mae’r cyrsiau wedi fy ngalluogi i wella fy nealltwriaeth o dechnoleg newydd. Rydw i mewn lle da i helpu newid y ffordd mae cwsmeriaid yn meddwl am wresogi tai ac ynni adnewyddadwy ac yn gallu helpu i wella eu dealltwriaeth nhw ar sut i wneud eu cartrefi weithio’n well iddyn nhw. Mae’r prosiect wedi fy helpu i adeiladu rhwydwaith o bobl sydd yn gweithio yn yr un diwydiant â fi hefyd.