Brecwast Busnes i Gontractwyr a Chwmnïau sy'n Gweithio ym maes Ynni Adnewyddadwy Graddfa Fach ac am gael eu Hardystio

    Mae'r Ganolfan Isadeiledd, Sgiliau a Thechnoleg (CIST) yn Llangefni wedi ymuno â'r MCS (Microgeneration Certification Scheme) a'r IAA (Installation Assurance Authority) i gynnal sesiwn wybodaeth a fydd yn ddefnyddiol tu hwnt i gwmnïau sy'n gosod systemau ynni adnewyddadwy graddfa fach.

    Mae systemau ynni adnewyddadwy bychan fel pympiau gwres a phaneli solar yn allweddol ar gyfer datgarboneiddio'r stoc dai bresennol a chreu cartrefi sy'n defnyddio ynni'n fwy effeithlon. Mae cael Ardystiad gan yr MCS yn hanfodol i gwmnïau sy'n gosod systemau ynni adnewyddadwy ac sydd am fod yn rhan o'r gadwyn gyflenwi sy'n gweithio ar brosiectau ôl-osod i ddatgarboneiddio cartrefi.

    Yn y digwyddiad cyflwynir gwybodaeth am y newidiadau i'r Cynllun MCS fydd yn dod i rym ym mis Ionawr 2025. Bwriad y rhain yw diogelu defnyddwyr yn well a gwella'r broses gydymffurfio i osodwyr.

    Cynhelir y digwyddiad ar 8 Tachwedd rhwng 8.30 a 10.30 yn Nhŷ Gwyrddfai – y ganolfan ddatgarboneiddio ym Mhenygroes.

    Bydd Steve Knight, Rheolwr Sgiliau Sector yr MSC yn trafod y broses ar gyfer cael eich ardystio a sut y gall ardystiad roi hwb i'ch busnes, a bydd Tom Cheetham, Rheolwr Gyfarwyddwr yr IAA yn esbonio asesiadau newydd yr MCS a'r hyn mae'n ei olygu i fusnesau.

    Os hoffech wybod rhagor am sut i gael ardystiad gan yr MCS, archebwch eich lle heddiw.