Tystysgrif Estynedig Lefel 2 mewn Gwybodeg Iechyd
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Dysgu Seiliedig ar Waith, Dysgu o Bell
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
15 mis
Tystysgrif Estynedig Lefel 2 mewn Gwybodeg IechydDysgwyr sy'n Oedolion (19+)
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Ar gael ar lefel 2, mae'r cymhwyster hwn wedi'i anelu at unrhyw un sy'n gweithio mewn rôl weinyddol neu glercyddol mewn lleoliad gofal iechyd. Gall hyn gynnwys unigolion sy'n gyfrifol am ddefnyddio systemau clinigol neu drin data sensitif. Gellir dewis o ystod eang o unedau, yn cynnwys gweinyddu busnes, iechyd a gofal cymdeithasol a phynciau o faes TG.
Mae'r cymwysterau hyn yn seiliedig ar gymhwysedd felly bydd gofyn i'ch rôl gynnig cyfle i chi ddangos tystiolaeth ar lefel briodol.
Gofynion mynediad
Bydd angen i chi fod yn 19 oed neu'n hŷn, ac yn gyflogedig o fewn rôl weinyddol mewn Gofal Sylfaenol.
Cyflwyniad
Bydd aseswr yn gweithio'n agos gyda chi, yn ogystal â mentor o'ch gweithle. Cynhelir ymweliadau o bell gan ddefnyddio portffolio electroneg a Microsoft Teams. Defnyddir enghreifftiau go iawn (cyfrinachol) o'ch gweithle i ddangos eich cymhwysedd.
Asesiad
Byddwch yn darparu tystiolaeth i'ch asesydd o sefyllfaoedd gwaith rydych chi wedi delio â nhw. Gall hyn gynnwys:
Astudiaethau achos
Cwestiynau ac Atebion
Trafodaethau
E-byst neu lythyrau i gefnogi'ch tystiolaeth ysgrifenedig
Tystiolaeth Tyst gan eich cydweithwyr neu reolwr llinell
Bydd diplomâu yn cael eu marcio gan asesydd gweithle a'u cymedroli gan y dilyswr mewnol.
Dilyniant
Lefel 3 Gwybodeg Iechyd
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Dysgwyr sy'n Oedolion (19+)
Lefel:
2
Maes rhaglen:
- Busnes a Rheoli
Busnes a Rheoli
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau: