Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Chopstix, Papa Johns, Slim Chickens, Burger King, Cooks fish and chips

Noder: Derbynnir y wybodaeth a ddangosir am bob swydd wag yn uniongyrchol gan y cyflogwr a enwir. Er ein bod ni (Grŵp Llandrillo Menai) yn gwneud pob ymdrech i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â chanllawiau cydraddoldeb ac amrywiaeth, nid ydym yn gyfrifol am unrhyw wallau neu anwaith yn y geiriad a ddefnyddir.

Ymunwch â thîm brwdfrydig Haven Holiday Park yng Ngogledd Cymru.

Mae nifer o leoliadau gwerthu bwyd ar ein parciau yn cynnwys Papa John's, Slim Chickens, Choptick, Burger King a Cook's Fish and Chips.

Rydym yn chwilio am unigolion brwdfrydig sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid i gynrychioli a hyrwyddo ein brandiau i westeion a chynnig profiad bwyta o'r safon uchaf.

Prif Ddyletswyddau

  • Cynnig croeso cynnes a chyfeillgar i westeion ym mhob lleoliad gwerthu bwyd.
  • Cymryd archebion yn effeithiol ac yn gywir, a sicrhau bod gwesteion yn fodlon ar eu profiad.
  • Paratoi a gweini bwyd yn unol â safon a chanllawiau'r brand.
  • Cynnal lleoliad gwaith glan a threfnus, a sicrhau cydymffurfiaeth â rheoliadau iechyd a diogelwch
  • Delio ag ymholiadau gwesteion a datrys materion yn brydlon ac yn broffesiynol
  • Hyrwyddo cynigion arbennig ac eitemau newydd ar y fwydlen er mwyn gwella profiad gwesteion.
  • Cynorthwyo gyda'r gwaith o wirion stoc ac ailgyflenwi yn ôl y gofyn.
  • Cydweithio gydag aelodau'r tîm mewn lleoliadau gwerthu bwyd gwahanol i sicrhau bod popeth yn rhedeg yn esmwyth.

Beth rydym yn ei gynnig?

  • Cyflog a buddion cystadleuol
  • Oriau gwaith hyblyg
  • Hyfforddiant cynhwysfawr ar safon brand a gwasanaeth i gwsmeriaid
  • Amgylchedd gwaith hwyliog a chefnogol
  • Gostyngiadau gweithwyr ar gyfleusterau'r parc ac mewn lleoliadau gwerthu bwyd
  • Cyfleoedd ar gyfer twf a datblygiad proffesiynol o fewn y parc
  • Cludiant am ddim o Fangor/Caernarfon

Sut i wneud cais: Cliciwch y ddolen isod


Sut i wneud cais

Manylion Swydd

Lleoliad

Pwllheli

Sir

Gwynedd

categori

Llawn Amser

Sector

Lletygarwch ac Arlwyo / Hospitality & Catering

Gwefan

http://Haven+Careers+website

Dyddiad cau

30.09.24

Logo Ariennir gan Lywordaeth Cymru

Biwro Cyflogaeth a Menter yw CAMVA@LlandrilloMenai a ariennir gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r Gwarant Pobl Ifanc.


Oes gennych chi swyddi gwag yr hoffech eu llenwi?

Hoffech chi allu cyrraedd cynulleidfa darged o filoedd o fyfyrwyr?

Felly beth am hysbysebu eich swyddi AM DDIM ar ein hysbysfwrdd.

Gall y swyddi y rhown sylw iddynt ar eich rhan gynnwys:

  • Prentisiaethau
  • Swyddi llawn amser
  • Swyddi rhan-amser
  • Contractau cyfnod penodol

I hysbysebu swydd wag, lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen isod a'i hanfon i employerjobs@gllm.ac.uk.

Ffurflen Hysbysfwrdd Swyddi