Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Noder: Derbynnir y wybodaeth a ddangosir am bob swydd wag yn uniongyrchol gan y cyflogwr a enwir. Er ein bod ni (Grŵp Llandrillo Menai) yn gwneud pob ymdrech i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â chanllawiau cydraddoldeb ac amrywiaeth, nid ydym yn gyfrifol am unrhyw wallau neu anwaith yn y geiriad a ddefnyddir.

Ydych chi’n chwilio am swydd newydd?

Dewch i gychwyn ar daith newydd gyffrous o fewn ein tîm cegin fel prentis cogydd!

Rydym yn chwilio am bobl sydd ag angerdd am fwyd a choginio i ymuno â’n tîm o gogyddion sydd wedi hen ennill eu plwyf i sicrhau bod ein gwesteion yn cael profiad 5*.

Mae’r Quay Hotel & Spa yn cynnig cyfradd gystadleuol iawn o gyflog, cyfleoedd hyfforddi a datblygu a chyfle i weithio gyda thîm o gogyddion sydd wedi hen ennill eu plwyf ac sy’n brofiadol, gan ein gwneud yn lle gwych i weithio.

Os ydych yn teimlo eich bod yn barod am her newydd yna hoffem glywed gennych

Beth fyddaf yn ei wneud?
Bydd hefyd yn ofynnol i Brentis Cogydd ymgymryd â'r holl ddyletswyddau rhesymol a neilltuwyd gan y Prif Gogydd.

Yn benodol, byddwch yn gyfrifol am gyflawni'r tasgau canlynol i'r safonau uchaf:

  • Cynorthwyo i baratoi, coginio a chyflwyno bwyd i'r safon uchaf
  • Gwasanaeth i Gwsmeriaid o'r safon uchaf
  • Cydymffurfio â rheolau Iechyd a Diogelwch
  • Cwblhau pob agwedd ar y rhaglen brentisiaeth
  • Gweithio amrywiaeth o shifftiau gan gynnwys yn gynnar yn y bore, gyda'r nos ac ar benwythnosau

Beth yw'r sgiliau dymunol?
I lenwi’r rôl hon yn llwyddiannus, dylech gynnal yr agwedd, yr ymddygiad, y sgiliau a’r gwerthoedd sy’n dilyn:

  • Agwedd gadarnhaol
  • Sgiliau cyfathrebu da
  • Cynnig Gwasanaeth i Gwsmeriaid o'r safon uchaf
  • Y gallu i weithio ar eich pen eich hun neu mewn timau
  • Y gallu i ymdrin ag ymholiadau mewn modd proffesiynol a chwrtais

Beth yw'r rhinweddau personol dymunol?

  • Angerdd am fwyd a choginio
  • Parodrwydd i ddysgu
  • Gallu i beidio cynhyrfu pan o dan bwysau.
  • Y gallu i weithio mewn amgylchedd prysur

Math o Swyddi:
Llawn amser

Cyflog:
Cystadleuol


Sut i wneud cais

Ebostiwch eich CV a’ch llythyr egurhaol i chef@quayhotel.co.uk and Lauren.porter@quayhotel.co.uk


Manylion Swydd

Lleoliad

Deganwy

Sir

Conwy

categori

Prentisiaethau

Sector

Lletygarwch ac Arlwyo / Hospitality & Catering

Gwefan

https://quayhotel.co.uk/

Dyddiad cau

17.09.24

Logo Ariennir gan Lywordaeth Cymru

Biwro Cyflogaeth a Menter yw CAMVA@LlandrilloMenai a ariennir gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r Gwarant Pobl Ifanc.


Oes gennych chi swyddi gwag yr hoffech eu llenwi?

Hoffech chi allu cyrraedd cynulleidfa darged o filoedd o fyfyrwyr?

Felly beth am hysbysebu eich swyddi AM DDIM ar ein hysbysfwrdd.

Gall y swyddi y rhown sylw iddynt ar eich rhan gynnwys:

  • Prentisiaethau
  • Swyddi llawn amser
  • Swyddi rhan-amser
  • Contractau cyfnod penodol

I hysbysebu swydd wag, lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen isod a'i hanfon i employerjobs@gllm.ac.uk.

Ffurflen Hysbysfwrdd Swyddi