Bywyd Myfyrwyr
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau eich bod yn mwynhau'r addysg a'r profiadau a gewch chi yn y coleg. Mae'r awyrgylch ar bob un o'r campysau'n fywiog, croesawgar a chyfeillgar gydag adnoddau, cyfleusterau a chyfleoedd rhagorol ar gael i bob myfyriwr.

Yr Hwb Cefnogi Myfyrwyr
Gwybodaeth am y gefnogaeth ariannol ac ati sydd ar gael i fyfyrwyr, yn ogystal â gwybodaeth am ddyddiadau'r tymhorau a chludiant.

Y Campfeydd a'r Academïau Chwaraeon
Ar y gwahanol gampysau, cynigir amrywiaeth o chwaraeon, yn cynnwys athletau, badminton, pêl-fasged, pêl-droed, hoci, pêl-rwyd, rygbi a sboncen.

Caffis a Bwytai
Mae gen y Grŵp ddigonedd o lefydd lle all myfyrwyr gymdeithasu a mwynhau amrywiaeth o fwydydd poeth ac oer, byrbrydau, cacennau a diodydd

Llyfrgelloedd a Dysgu
Yn y Llyfrgelloedd, y Gweithdai TG a'r Canolfannau Adnoddau Dysgu, darperir cyfleusterau astudio ardderchog a dewis eang o ffynonellau gwybodaeth.

Undeb y Myfyrwyr
Mae Undeb Myfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai yn gysylltiedig ag Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (UCU) ac mae gan bob myfyriwr hawl awtomatig i ymaelodi ag Undeb y Myfyrwyr.

Llysgenhadon Actif
Lluniwyd y Rhaglen Llysgenhadon Actif i feithrin arweinwyr y dyfodol yng Ngrŵp Llandrillo Menai, ac i hyrwyddo pwysigrwydd iechyd a lles a chymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol.