Cyflwyno Tystiolaeth
Rydym yn gweithio gyda dysgwyr anabl a dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol i drefnu'r cymorth a'r addasiadau cywir.
Mae anabledd, o dan gyfraith y DU, yn gyflwr sydd:
- yn amharu'n sylweddol ar eich gallu i gyflawni gweithgareddau dydd i ddydd a
- mae'n gyflwr tymor hir (h.y. yn debygol o bara 12 mis neu fwy)
I wneud cais am Lwfans i Fyfyrwyr Anabl (DSA) mewn prifysgol, bydd angen i chi ddarparu prawf ysgrifenedig bod eich cyflwr yn bodloni'r diffiniad hwn.