Hybu twf y sector bwyd amaeth y rhanbarth

Mae sector bwyd amaeth gogledd Cymru wedi derbyn hwb sylweddol gyda chymeradwyo achos busnes amlinellol Hwb Economi Wledig newydd gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (Bwrdd Uchelgais).

Bydd cynlluniau Grŵp Llandrillo Menai ar gyfer Coleg Glynllifon ger Caernarfon yn darparu unedau cynhyrchu bwyd i gefnogi busnesau newydd rhanbarthol yn ogystal â busnesau sydd am ehangu. Y nod yw sicrhau bod yr economi wledig ehangach yn elwa trwy gael mynediad i'r Ganolfan Wybodaeth, yn ogystal ag arbenigedd rheoleiddio, cefnogaeth busnes ac arloesi, a chyfleoedd i rwydweithio.

Yn un o dri phrosiect sydd wedi’u cynnwys yn rhaglen Bwyd Amaeth a Thwristiaeth Cynllun Twf Gogledd Cymru, bwriad yr Hwb fydd helpu cynhyrchwyr bwyd i ddod yn fwy cadarn trwy arloesi ac arallgyfeirio. Gall y cynllun dderbyn buddsoddiad o £10 miliwn trwy'r Cynllun Twf, cyfran sylweddol o gyfanswm y prosiect, sef £13 miliwn.

Ar ôl sicrhau cymeradwyaeth ar gyfer y cam cyntaf hwn, bydd Grŵp Llandrillo Menai yn datblygu achos busnes llawn am arian i ddechrau datblygu’r Hwb yn 2022.

Dywedodd Cynghorydd Charlie McCoubrey, Arweinydd Cyngor Conwy ac aelod arweiniol Rhaglen Bwyd Amaeth a Thwristiaeth y Bwrdd Uchelgais: “Mae hyn yn newyddion gwych i’r sector a’r economi wledig ar draws gogledd Cymru. Dyma'r prosiect cyntaf o’n rhaglen Bwyd Amaeth a Thwristiaeth i gyrraedd y cam hwn, gan nodi carreg filltir bwysig arall ar gyfer y Cynllun Twf.

Bydd yr Hwb yn hyrwyddo swyddi a chynhyrchiant mewn sector sy’n allweddol i’r rhanbarth. Rwy’n edrych ymlaen at weld sut bydd y fenter yn creu cyfleoedd newydd yn ogystal ag annog arloesedd ymhlith ein cynhyrchwyr bwyd.”

Mae disgwyl i Hwb Economi Wledig Glynllifon greu 96 o swyddi llawn amser mewn busnesau bwyd lleol gydag effaith economaidd uniongyrchol o £45miliwn dros y 15 mlynedd nesaf.

Ychwanegodd Paul Bevan, Uwch Gyfarwyddwr - Datblygiadau Masnachol, Grŵp Llandrillo Menai: “Mae gan Goleg Glynllifon hanes hir o ddarparu rhagoriaeth a chyfrannu at yr economi wledig yng ngogledd Cymru. Rydyn ni’n falch iawn ein bod ni’n datblygu'r Hwb Economi Wledig newydd fydd yn atgyfnerthu ein henw da am hyrwyddo a chefnogi cyflogaeth a hyfforddiant yn y sector hwn.

Fel y mwyafrif o ddiwydiannau, mae’r economi wledig ar drobwynt. Rhaid i ni addasu a chofleidio newidiadau’r dyfodol, mae hyn yn cynnwys cryfhau a hyrwyddo cadwyni cyflenwi lleol i ddarparu mwy o gyfleoedd i ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd y rhanbarth.

Bydd darparu mynediad i’r unedau cynhyrchu a phrosesu bwyd a chymorth technegol arbenigol yn creu amgylchiadau delfrydol i fusnesau sefydlu eu hunain a thyfu, gan roi’r ardal ar y map ym maes arloesi bwyd a diod.”

Yn amodol ar sicrhau cyllid a chaniatâd angenrheidiol, mae disgwyl i’r gwaith o adeiladu'r Hwb Economi Wledig ddechrau ar y safle ddiwedd 2022, gyda'r nod o agor yn 2024.

Mae disgwyl i’r Bwrdd Uchelgais ystyried achos busnes llawn y prosiect hwyr yn 2022.

Plans for Grŵp Llandrillo Menai’s Coleg Glynllifon near Caernarfon will provide food-grade units for regional start-up businesses as well as for those expanding from home-based production. The broader rural economy will benefit from access to the on-site Knowledge Centre, as well as regulatory expertise, business and innovation support and networking opportunities.

One of three projects included in the North Wales Growth Deal’s Agrifood and Tourism programme, the Hub aims to help food producers become more resilient through innovation and diversification. It is set to see a £10 million investment through the Growth Deal, a significant proportion of the £13 million project total.

Having secured approval for this first step, Grŵp Llandrillo Menai can now develop a full business case to secure funding that enables work to begin on the Hub from 2022.

Cllr Charlie McCoubrey, Leader of Conwy Council and the Ambition Board’s lead member for the Agrifood and Tourism Programme, said: “This is great news for the sector and the rural economy across north Wales. This is the first project under our Agrifood and Tourism programme to reach this stage, marking another important milestone for the Growth Deal.

“The Hub will promote jobs and productivity in a sector which is so important to this region. I look forward to seeing how the initiative will bring new opportunities as well as encourage innovation among our food producers.”

The Glynllifon Rural Economy Hub is expected to deliver 96 full time posts in local food businesses with a direct economic impact of £45milion over the next 15 years.

Paul Bevan, Executive Director - Commercial Development at Grŵp Llandrillo Menai said: “Coleg Glynllifon has a long history of delivering excellence and contributing to the rural economy in north Wales. We’re excited to be developing the new Rural Economy Hub which will further cement our reputation for promoting and supporting employment and training opportunities in this sector.

“Like most industries, the rural economy is at a turning point - and we must adapt and embrace future changes, this includes strengthening and promoting local supply chains to provide more opportunities for regional farmers and food producers.

“Providing access to purpose-built food grade premises and specialist technical support will create the ideal environment for businesses to establish themselves and grow, positioning the area at the forefront of food and drink innovation.”

Subject to securing funding and necessary consents, it is anticipated that construction of the Rural Economy Hub will begin on site in late 2022, with planned opening for 2024.

It is expected that Ambition Board will consider the Glynllifon Rural Economy Hub project’s full business case in late 2022

Pagination