Ynglŷn â Grŵp Llandrillo Menai
Sefydlwyd Grŵp Llandrillo Menai yn 2012 yn dilyn uno Coleg Llandrillo, Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor. Mae'n cyflogi 2,000 o staff ac yn darparu cyrsiau i tua 21,000 o fyfyrwyr, gan gynnwys dros 1,500 o fyfyrwyr addysg uwch, ledled Ynys Môn a siroedd Conwy, Dinbych a Gwynedd.
Bwriad y Grŵp yw cefnogi economi Gogledd Cymru drwy roi i'r bobl leol y sgiliau a'r cymwysterau sy'n angenrheidiol i sicrhau bod y rhanbarth yn gystadleuol ac yn llwyddiannus. Mae'r amrywiaeth eang o gyrsiau, y profiadau dysgu o safon uchel, y cyfleusterau penigamp a'r staff amryddawn sydd gan y Grŵp oll yn cyfrannu at gyflawni'r nodau hyn.
Oherwydd y cyfleoedd ychwanegol a gynigir i astudio cyrsiau gradd ac i ennill cymwysterau proffesiynol, gall mwy o bobl ifanc a dysgwyr hŷn gyflawni eu potensial. Mewn Canolfan Brifysgol ar gampws Llandrillo-yn-Rhos, ceir cyfleusterau gwych i fyfyrwyr Addysg Uwch y Grŵp.
![Logo GLLM gyda logos y colegau oddi tano](/imager/images/Strategic-Plan/498530/GLLM-All_72c9be5606906c16e9d80d1324889ea0.jpeg)
![Graffeg gyda'r 5 themau allweddol wedi ei nodi](/imager/images/Strategic-Plan/498301/Strategic-Plan-Circular-Graphic_72c9be5606906c16e9d80d1324889ea0.jpeg)
Cynllun Strategol
Mae ein cynllun yn gobeithio adeiladu ar lwyddiant ein cynllun blaenorol drwy ymgorffori'r hyn a ddysgwyd o heriau'r pandemig, rhoi ffocws newydd ar faterion amgylcheddol a mynd ati o ddifri i hyrwyddo arloesedd. Rydym wedi ymrwymo i fod yn ddarparwr Addysg Bellach arweiniol yng Nghymru a thu hwnt.
Mae ein cenhadaeth o 'Wella Dyfodol Pobl' yn cyfleu pwrpas ein sefydliad addysg bellach. Er bod darparu cymwysterau'n llwyddiannus yn hanfodol i ni, rydym hefyd yn cael effaith sylweddol ar gydlyniant cymdeithasol a datblygiad economaidd. Ein bwriad yw chwarae rhan flaenllaw yn ein cymunedau a darparu'r sgiliau sydd eu hangen i gefnogi llwyddiant yng Ngogledd Cymru.
![Dafydd Evans](/imager/images/About-us/20538/DSC_0941_318ac730cf1f9cb429725e224ff72a12.jpeg)
Dafydd Evans, Prif Weithredwr
Cymerodd Dafydd Evans yr awenau fel Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai fis Medi 2016. Cyn hynny, bu’n Bennaeth Coleg Llandrillo (Awst 2014 – Awst 2016) ac yn Bennaeth Coleg Menai (Gorffennaf 2009 – Awst 2014).
Ar ôl graddio mewn Ystadegaeth ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth, aeth ymlaen i gymhwyso'n gyfrifydd gyda CIPFA. Fel Asesydd Cyswllt i ESTYN, mae wedi ymwneud ag arolygu sawl coleg ac, yn y gorffennol, cafodd secondiad i wneud gwaith datblygu i Lywodraeth Cynulliad Cymru ar ddyrannu adnoddau ac ad-drefnu'r sector ôl-16 yng Ngwynedd a Môn.
![Aled Jones-Griffith](/imager/images/About-us/20597/DSC_0946_27ba1978b517194b08964c49176f16ec.jpeg)
Aled Jones-Griffith, Pennaeth Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor
Mae Aled Jones-Griffith wedi bod yn gweithio yn y sector addysg bellach ers pedair blynedd ar ddeg: bu'n gyfarwyddwr cyfadran yng Ngholeg Menai ac yna'n Bennaeth Cynorthwyol yng Ngholeg Meirion-Dwyfor cyn cael ei benodi'n Bennaeth ar Goleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor yn 2018.
Cyn ymuno â'r sector addysg bellach, gweithiodd Aled fel rheolwr mewn amryw o sectorau gan dreulio pedair blynedd yn Brif Weithredwr ar Ganolfan Iaith Genedlaethol Nant Gwrtheyrn. Gwasanaethodd hefyd ar Gyngor Cynulleidfa Cymru'r BBC am ddau dymor. Yn ystod y cyfnod hwn cafodd y fraint o draddodi darlith ar Hanes yr Iaith Gymraeg i'r Gymdeithas Smithsonian yn Washington DC.
Graddiodd Aled mewn Astudiaethau Amgylcheddol ym Mhrifysgol Bangor, ac ers hynny mae wedi mynd ymlaen i ennill Tystysgrifau Ôl-radd mewn Rheoli Cefn Gwlad a Datblygu Cymunedol.
Yn ogystal â'i swydd fel Pennaeth, mae gan Aled gyfrifoldeb cyffredinol ar draws Grŵp Llandrillo Menai am Ddysgu Oedolion yn y Gymuned. Mae hefyd yn cynrychioli GLlM ar Grŵp Rhanddeiliaid Sgiliau Ffilm a Theledu Cymru Greadigol a Grŵp Llywio'r Gogledd Creadigol.
Mae gan Aled ddiddordeb mawr mewn chwaraeon ac mae wedi cyfrannu i'w glwb pêl-droed lleol dros y blynyddol drwy wneud swyddi amrywiol. Mae'n cael pleser mawr o weld pobl ifanc yn cyflawni eu potensial ym mhob agwedd ar eu bywydau. Ei flaenoriaeth yw sicrhau eu bod yn cael y cyfleoedd a'r gefnogaeth orau bosibl i lwyddo.
![Lawrence Wood](/imager/images/About-us/20598/DSC_0930_df375735bc14cbd0dd8e7945cb9521f6.jpeg)
Lawrence Wood, Pennaeth Coleg Llandrillo
Graddiodd Lawrence Wood o'r Royal Academy of Dramatic Art a dechreuodd weithio ym maes Addysg Bellach fel darlithydd rhan-amser yn Ngholeg Iâl, Wrecsam. Ymhen fawr o dro, cafodd swydd reoli fel Pennaeth yr Adran Celfyddydau Perfformio.
Ymysg y swyddi rheolaethol y penodwyd Lawrence iddynt yng Ngholeg Iâl roedd Cyfarwyddwr Cyfadran a Phennaeth Cynorthwyol. Fel Pennaeth Cynorthwyol roedd Lawrence yn rhan o'r uwch dîm a gefnogodd y broses o uno Coleg Iâl a Choleg Glannau Dyfrdwy i ffurfio Coleg Cambria. Ym Mehefin 2016, penodwyd Lawrence yn Ddirprwy Bennaeth yng Ngholeg Cambria.
Mae Lawrence wedi bod yn gyfrifol am Ddysgu Seiliedig ar Waith, Dysgu Oedolion yn y Gymuned ac Addysg Bellach yn ogystal â nifer o swyddogaethau trawsgolegol megis Ansawdd, Datblygu Dysgu ac Addysgu, Ystadau a Marchnata.
Mae hefyd wedi gweithio i Estyn fel Arolygwr Cymheiriaid. Penodwyd Lawrence yn Bennaeth Coleg Llandrillo yn Nhachwedd 2016.
![Sharon Bowker](/imager/images/About-us/442621/Sharon_Bowker_537609bf6a7284c886f3527fc9591502.jpeg)
Sharon Bowker, Uwch Gyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol
Astudiodd Sharon Bowker ieithoedd a'r gwyddorau cyn cymhwyso fel cyfrifydd rheoli siartredig (CIMA) a bu'n gweithio i gwmnïau gweithgynhyrchu mawr fel BASF a Tetra Pak, cyn symud i'r sector addysg yn 2005.
Mae Sharon wedi bod mewn nifer o uwch swyddi yn y sectorau Academiau ac Addysg Bellach yn Lloegr, gyda chyfrifoldeb am wasanaethau cefnogi fel ystadau, arlwyo, marchnata, Adnoddau Dynol, cyllid, Technoleg Gwybodaeth, gweinyddu a chyllido. Mae ganddi brofiad ym maes uno colegau ac o reoli datblygiadau cyfalaf ar wahanol safleoedd.
Ymunodd Sharon â'r Grŵp yn 2022 fel Uwch Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol.
![James Nelson](/imager/images/About-us/20622/DSC_0916_35fc30ae4a767a8ba6361fd384e954e3.jpeg)
James Nelson, Uwch Gyfarwyddwr Gwasanaethau Academaidd
Mae James Nelson yn gyn-fyfyriwr o Goleg Llandrillo. Astudiodd am Ddiploma Cenedlaethol mewn Astudiaethau Busnes yma cyn mynd ymlaen i Goleg Polytechnig Manceinion a graddio mewn Busnes a Chyllid.
Ar ôl graddio, penodwyd James yn Ddarlithydd mewn Technoleg Gwybodaeth. Enillodd achrediadau MCSE a CCNA gan ddatblygu rhaglenni Microsoft a Cisco arloesol ar gyfer Addysg Uwch.
Daeth James yn Rheolwr Ansawdd yng Ngholeg Llandrillo, ac yna fe'i penodwyd yn Gyfarwyddwr Ansawdd a Chwricwlwm. Yn y swydd hon arweiniodd y prosesau ansawdd, cynllunio a datblygu staff oedd ynghlwm â'r uno â Choleg Meirion-Dwyfor.
Mae James yn Adolygydd Cymheiriaid i'r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ac arweiniodd y Grŵp drwy Adolygiad Addysg Uwch yn 2016. Yn yr adolygiad hwn cafodd y Grŵp ei gymeradwyo am wella cyfleoedd dysgu i fyfyrwyr a thynnwyd sylw at 6 enghraifft o arfer da.
Yn 2017, penodwyd James yn Uwch Gyfarwyddwr Gwasanaethau Academaidd gyda chyfrifoldeb trawsgolegol am Sgiliau, Ansawdd a Pherfformiad, Cynllunio'r Cwricwlwm, Cymorth Dysgu, Marchnata, Gwasanaethau i Ddysgwyr a Llyfrgelloedd.
Fel enwebai, yn 2017 arweiniodd James y Grŵp drwy Arolygiad AB llwyddiannus oedd yn cynnwys 8 dyfarniad Rhagorol, 7 dyfarniad Da a dwy astudiaeth achos o "arferion gorau'r sector". Mae James yn Arolygwr Cymheiriaid i Estyn ac wedi bod yn rhan o sawl arolygiad o Golegau AB a darparwyr Dysgu Seiliedig ar Waith.
![Gwenllian Roberts](/imager/images/About-us/596185/Gwenllian-Roberts_522fd4085947188c8b4e12beee91e17a.jpeg)
Gwenllian Roberts, Uwch Gyfarwyddwr – Datblygiadau Masnachol
Ar ôl graddio mewn Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth ac yna ennill MSc mewn asesu effeithiau amgylcheddol, dechreuodd Gwenllian ei gyrfa yn niwydiant olew a nwy'r Deyrnas Unedig. Ond maes o law, wrth i ffocws ei gyrfa newid, dychwelodd i ogledd Cymru.
Mae hi wedi bod mewn swyddi blaenllaw ym maes datblygu economaidd a rhanbarthol gan fod yn gyfrifol am y cyswllt rhwng diwydiant a llywodraeth mewn meysydd fel ynni, dur, dŵr a'r amgylchedd. Cyn ymuno â GLlM Gwenllian oedd Cyfarwyddwr OFWAT ar gyfer Cymru ac Ymgysylltu â'r Llywodraeth, a chyn hynny hi oedd Prif Swyddog Rhanbarthol Llywodraeth Cymru yng ngogledd Cymru. Trwy gydol ei gyrfa mae Gwenllian wedi hyrwyddo gweithio'n gydweithredol ar lefel ranbarthol a chenedlaethol.
Fel yr Uwch Gyfarwyddwr sy'n gyfrifol am Ddatblygiadau Masnachol mae Gwenllian â'i bryd ar ddefnyddio arbenigedd ac enw da Busnes@LlandrilloMenai i fanteisio ar bob cyfle ac i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu economi gogledd Cymru. Mae hi wedi ymroi i feithrin arloesedd a chefnogi busnesau mewn sectorau allweddol i ffynnu a llwyddo, tra hefyd yn hybu cenhadaeth y sefydliad i rymuso unigolion a busnesau i lawn gyflawni eu potensial. Yn ei swydd mae hi am adeiladu ar lwyddiant Busnes@LlandrilloMenai a sicrhau ei fod ar flaen y gad wrth gefnogi twf economaidd a ffyniant yng ngogledd Cymru.