Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Ffioedd a Gostyngiadau

Ffioedd a Gostyngiadau

Mae rhai cyrsiau am ddim ac nid oes ffioedd cwrs i’w talu ar gyrsiau eraill, ond bydd yn rhaid i chi dalu ffioedd arholiad. Mae’r manylion yn y llyfryn hwn. Gall fod costau eraill yn gysylltiedig â rhai cyrsiau. Cewch y manylion, a gofynnir i chi dalu pan fyddwch yn ymuno â’r cwrs.

Gall myfyrwyr cymwys gael gostyngiad o 50% ar ffioedd rhai cyrsiau. Mae tic gyferbyn â’r rhain yn y golofn ‘Gostyngiad’. I fod yn gymwys i gael gostyngiad, rhaid i chi fod yn talu’r ffioedd eich hun a rhaid eich bod wedi cofrestru’n ddi-waith neu’n derbyn "Credydau Cynhwysol" sydd yn awr wedi disodli'r budd-daliadau a ganlyn: Budd-dal Analluogrwydd, Credyd Treth Gwaith, Cymhorthdal Incwm, Budd-dal Tai, Lwfans Byw i’r Anabl, Lwfans Gofalwr neu Lwfans Ceisio Gwaith, neu dylech fod yn 60 oed neu’n hŷn (yn ddyn neu’n fenyw). Os byddwch rhwng 16-18 oed ar 1 Medi 2023, ni fydd gofyn i chi dalu ffioedd dysgu am gyrsiau rhan-amser.

Os byddwch yn hawlio ffi ostyngol, dylech ddangos tystiolaeth i ategu’ch cais pan fyddwch yn cofrestru. Ar ffioedd cwrs yn unig y ceir gostyngiadau; ni roddir gostyngiadau ar ffioedd arholiad. Dylai myfyrwyr o du allan yr UE gysylltu â’r Swyddfa Ryngwladol i gael gwybod faint o ffioedd y mae gofyn iddynt eu talu.

Cyrsiau sy’n para mwy na blwyddyn

Yn achos cyrsiau sy’n para mwy na blwyddyn academaidd, y ffi am y flwyddyn gyntaf yw’r ffi a nodir.

Ffi Adnoddau

Codir ffi adnoddau o £25 ar bob myfyriwr Addysg Bellach sy’n cofrestru ar gyrsiau llawn amser.

Ffioedd Cwrs dros £100

Os byddwch yn talu am y cwrs eich hun, gallwch dalu ffioedd sydd yn y categori hwn fesul tipyn, ar adegau penodol, drwy Archeb Sefydlog.

Cyrsiau Addysg Bellach

Bydd gofyn i chi dalu blaendal o 20% o gyfanswm ffi’r cwrs, yn ogystal â’r ffi arholiad llawn, pan fyddwch yn cofrestru, a thalu pedwar rhandal 20% wedyn. Dylech orffen talu o fewn pedwar mis ar ôl dyddiad dechrau’r cwrs. Cewch fanylion llawn o’r Swyddfa Gyllid.

Ffioedd a Delir gan Gyflogwr

Os yw eich cyflogwr yn talu eich ffioedd cwrs, dylai ef/hi gadarnhau hynny ar bapur, a dylech ddod â’r llythyr o gadarnhad gyda chi pan fyddwch yn cofrestru. Dylech nodi’r manylion yn Adran 4 y ffurflen gofrestru. Rhaid talu’r ffioedd o fewn 30 diwrnod i ddyddiad anfon yr anfoneb. Os na fydd eich cyflogwr yn talu, chi fydd yn gyfrifol am y ddyled.

Canslo ac Ad-dalu

Credir bod y manylion a geir yn y cyhoeddiad hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Ni all Grŵp Llandrillo Menai fod yn atebol am newidiadau i gyrsiau nac am ganslo cwrs pan fydd hynny’n anorfod. Dim ond os bydd digon o fyfyrwyr yn archebu lle ymlaen llaw y cynhelir rhai cyrsiau. Fe’ch cynghorir i wirio manylion eich cwrs cyn cofrestru.

Rhoddir ad-daliad llawn os caiff cwrs ei ganslo, os bydd y manylion yn newid neu os bydd y cwrs wedi llenwi.

Bydd gan ddysgwyr a fydd yn gadael cwrs AB rhan-amser sy’n para mwy na 10 wythnos, ar ôl mynychu am hyd at DDWY WYTHNOS (neu am rannau o hyd at ddwy wythnos), hawl i gael y ffi dysgu’n ôl yn llawn, ac eithrio £30 o dâl gweinyddu.

Bydd gan ddysgwyr a fydd yn gadael cwrs sy’n para nwy na 10 wythnos, ar ôl mynychu am hyd at BEDAIR WYTHNOS, hawl i gael 50% o’r ffi dysgu’n ôl, ac eithrio £30 o dâl gweinyddu.

Mae gan ddysgwyr a fydd yn gadael cwrs AB rhan-amser sy’n para am lai na 10 wythnos o fewn y DDWY WYTHNOS gyntaf, hawl i gael 50% o’r ffi dysgu’n ôl. Ni ad-delir ffioedd dysgu os bydd y myfyriwr wedi mynychu am BEDAIR WYTHNOS neu fwy. Bydd y myfyriwr yn derbyn ad-daliad am y ffioedd arholiad os nad ydynt wedi cael eu talu i'r Corff Dyfarnu yn barod.

Mewn amgylchiadau eithriadol yn unig, ac eithrio'r uchod, y rhoddir ad-daliadau llawn. Ad-delir yn unol â’r Polisi ynghylch Ffioedd. Rhaid gwneud cais ysgrifenedig am ad-daliadau, a’r Rheolwyr fydd yn penderfynu arnynt.