Prentisiaethau
Os ydych yn awyddus i ddechrau prentisiaeth er mwyn meithrin eich sgiliau a datblygu gyrfa, neu os ydych yn gyflogwr sydd am gyflogi prentis er mwyn tyfu eich busnes - rydym yma i'ch helpu.

Dod yn Brentis (Brentis)
Mae Prentisiaethau'n dod yn llwybr mwyfwy poblogaidd at yrfa lwyddiannus.
Wrth ddilyn prentisiaeth, byddwch yn ennill cyflog wrth ddysgu, gan ennill cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol a meithrin sgiliau a gwybodaeth sy'n berthnasol i'r gwaith. Bydd hyn i gyd yn eich helpu i sefyll allan yn y farchnad swyddi.

Dod o hyd i Brentis (Cyflogwr)
Mae prentisiaethau'n ddull cost-effeithiol o recriwtio a hyfforddi gweithwyr medrus ar gyfer y dyfodol.
Gall rhoi cyfle i'ch gweithwyr feithrin y sgiliau ac ennill y cymwysterau y mae arnynt eu hangen helpu’ch busnes i gael mantais gystadleuol.
Gwobrau Dysgu Seiliedig ar Waith Gogledd Cymru 2025
Mae Consortiwm Dysgu Seiliedig ar Waith Grŵp Llandrillo Menai yn cynnal Seremoni Gwobrau Dysgu Seiliedig ar Waith blynyddol, sy’n cydnabod prentisiaid dawnus am eu cyfraniad rhagorol i’w gweithle a thu hwnt.