Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Prentisiaethau Uwch

Drwy ddilyn rhaglen Prentisiaeth Uwch, gallwch weithio tuag at ennill cymhwyster lefel 4 neu 5 seiliedig ar waith ochr yn ochr â chymhwyster uwch, fel Gradd Sylfaen neu Dystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC), a fydd yn ehangu'ch gwybodaeth.

Bydd prentisiaethau’n eich helpu i feithrin y gweithwyr talentog yn eich sefydliad sydd ag uchelgais i fod yn rheolwyr. Mae’r cynlluniau cost effeithiol a blaengar hyn yn darparu hyfforddiant real sydd wedi’i gynllunio i fod o fudd i’ch busnes yn awr ac yn y dyfodol.

  • Hyfforddiant am ddim. Bydd Llywodraeth Cymru’n talu’r holl gostau hyfforddi.
  • Yn agored i bob oedran. Gall unrhyw weithiwr cyflogedig gael ei hyfforddi.
  • Gwella sgiliau gweithwyr cyfredol. Rhoi mantais gystadleuol i’ch sefydliad.

Mae prentisiaethau uwch ar gael ar hyn o bryd yn y meysydd galwedigaethol canlynol:

Lefel 4:

  • Cyfrifydda (Cymdeithas y Technegwyr Cyfrifydda)
  • Gweinyddu Busnes
  • Rheoli ar Safleoedd Adeiladu
  • Peirianneg
  • Trin Gwallt
  • Rheoli ym maes Lletygarwch
  • ILM - Rheoli Lefel 4
  • Gwybodaeth Cyngor ac Arweiniad
  • Rheoli Prosiectau (rhaid i ddysgwyr fod yn gweithio ar brosiectau cyfredol)
  • Cyfryngau Cymdeithasol a Marchnata Digidol

Lefel 5:

  • Ymarfer Uwch (Gofal Cymdeithasol/Gofal Plant)
  • Gofal Plant
  • CIPD - Rheoli Adnoddau Dynol
  • Rheoli ym maes Treftadaeth Ddiwylliannol
  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • ILM - Rheoli
  • Arwain a Rheoli (Gofal Cymdeithasol/Gofal Plant)
Pobl yn defnyddio gliniadur
Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date