Olwynion Sgraffinio - Defnyddio Llifiau Torbwynt Petrol yn Ddiogel
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llangefni
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
1 diwrnod
×Olwynion Sgraffinio - Defnyddio Llifiau Torbwynt Petrol yn Ddiogel
Olwynion Sgraffinio - Defnyddio Llifiau Torbwynt Petrol yn DdiogelCyrsiau Byr
Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.
Disgrifiad o'r Cwrs
Bydd y cwrs hwn yn ymdrin â phob agwedd ar Olwynion Sgraffinio a sut i ddefnyddio llif dorbwynt betrol yn ddiogel. Bydd yn cynnwys popeth, o ddethol a ffitio Cyfarpar Diogelu Personol, defnyddio'r peiriannau, eu hail-lenwi â thanwydd, i archwilio a chludo'r llif dorbwynt yn ofalus.
Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, byddwch yn gymwys i ddefnyddio Olwynion Sgraffinio a Llif Dorbwynt Betrol.
Ymhlith y pynciau a astudir ar y cwrs, mae:
- Rheoliadau perthnasol
- Mathau gwahanol o Olwynion Sgraffinio, disgiau a'u swyddogaethau
- Dulliau cymeradwy o archwilio a storio cyfarpar
- Deall y peryglon y gall llwch, sŵn a dirgrynu eu hachosi i iechyd
- Deall grymoedd adweithiol a'r hyn sy'n achosi adlamu
Dangos y dechneg gywir o ran torri cerrig/brics/concrit a metel ar y ddaear.
Dyddiadau cwrs:
£135
Gofynion mynediad
- Dim
Cyflwyniad
- Bydd yr hyfforddiant yn cynnwys cyfuniad o theori a dysgu ymarferol.
Asesiad
- Asesiad cychwynnol a phapur arholiad ar ddiwedd y cwrs.
- Canlyniadau ymarferol, gan gwblhau dwy dasg dorri orfodol ac ymarfer craidd.
Dilyniant
- Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, byddwch yn gallu defnyddio llif dorbwynt betrol yn ddiogel.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Byr
Lefel:
N/A
Dwyieithog:
Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:
- Llangefni