Diploma Mynediad i Addysg Uwch (Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol)
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Bangor
- Dull astudio:Llawn amser
- Hyd:
1 flwyddyn
Diploma Mynediad i Addysg Uwch (Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol)Rhan amser
Disgrifiad o'r Cwrs
Hoffech chi fynd ymlaen i Addysg Uwch? Ydych chi am baratoi at astudio pwnc sy'n gysylltiedig â'r dyniaethau neu wyddorau cymdeithasol?
Ar y cwrs hwn, cewch y wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sy'n angenrheidiol i fynd ymlaen i ddilyn cwrs Addysg Uwch perthnasol, gan gynnwys cyrsiau gradd mewn Hanes, Saesneg, Daearyddiaeth a phynciau eraill.
Nod Diplomâu Mynediad i AU Cymru Gyfan yw rhoi i chi'r sgiliau sy'n angenrheidiol i fynd ymlaen i ddilyn rhaglen addysg uwch yn llwyddiannus. Fe'u bwriadwyd ar gyfer dysgwyr sydd wedi cael profiad sylweddol o fywyd ers iddynt gwblhau eu haddysg orfodol.
Gofynion mynediad
I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen o leiaf un o'r canlynol:
- TGAU Gradd C neu cyfateb mewn Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf, TGAU Gradd D neu cyfateb mewn Mathemateg neu Rhifedd, yn unol â gofynion y llwybr dilyniant i brifysgol. Dylech fod wedi cael profiad mewn sgiliau bywyd perthnasol am o leiaf dair blynedd ar ôl gadael addysg orfodol.
Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.
Cyflwyniad
Cynlluniwyd Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch i'ch helpu i ddychwelyd i astudio ar ôl cyfnod o amser. Felly, bydd y sesiynau'n rhai cyfranogol a gynhelir mewn awyrgylch cyfeillgar ac ysgogol. Byddwch yn gweithio'n agos gyda'r tiwtoriaid, gan ddysgu drwy gyfrwng gwersi ffurfiol yn ogystal â thrafodaethau, arddangosiadau a gwaith prosiect. Mae'r cwrs yn ymdrin â rhai o'r meysydd canlynol yn ddibynol ar y campws:
- Criminoleg
- Hanes
- Llenyddiaeth Saesneg
- Daearyddiaeth
- Seicoleg
- Cymdeithaseg
Byddwch yn astudio amrywiaeth o bynciau o rhai o'r meysydd hyn, gan feithrin y sgiliau sy'n hanfodol er mwyn astudio pwnc sy'n ymwneud â'r dyniaethau. Bydd pob myfyriwr hefyd yn astudio pynciau craidd Mynediad i Addysg Uwch, sef Rhifedd, Cyfathrebu, Technoleg Gwybodaeth a Phrosiect Ymchwilio.
Asesiad
Ar y rhaglen, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau canlynol:
- Tasgau gwahanol ym mhob uned - bydd eich tiwtor yn eich helpu ac yn eich paratoi'n ddigonol
- Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu, gan gynnwys traethodau, adroddiadau, tasgau ymarferol, gwerthuso rolau, cyflwyniadau a phrofion byr.
Dilyniant
Os gwnewch gwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, bydd gennych y wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sy'n angenrheidiol i fynd ymlaen i ddilyn cwrs Addysg Uwch yma yng Ngholeg Llandrillo neu mewn sefydliad arall.
Cewch ddewis o amrywiaeth o gyrsiau, gan gynnwys cyrsiau gradd mewn Hanes, Saesneg, Daearyddiaeth a phynciau eraill.
Gallech fynd ymlaen i ddilyn nifer o raglenni yng Ngrŵp Llandrillo Menai, gan gynnwys:
Gwybodaeth campws Bangor
Mynediad i AU (Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol)
Gwybodaeth am y cwrs a rhagofynion
Mae'r cwrs Mynediad i AU (Gofal Iechyd) yn cael ei gynnal am 3 diwrnod yr wythnos drwy gydol y flwyddyn academaidd. Mae'r dosbarthiadau'n cael eu cynnal rhwng 9.15am a 4pm a disgwylir i ddysgwyr ddod i'r holl sesiynau. Caiff presenoldeb a phrydlondeb eu monitro'n ofalus yn ystod wythnosau cyntaf y cwrs.
Mae'r cwrs wedi'i anelu at oedolion sy'n dychwelyd i ddysgu ac sy'n awyddus i fynd ymlaen i Brifysgol. Fel arfer, ni chaiff dysgwyr sydd newydd adael yr ysgol neu gwrs Lefel 2 neu 3 arall eu derbyn.
I gael lle ar y cwrs, mae'n ofynnol i ddysgwyr ddangos gallu lefel 2 mewn Saesneg a Mathemateg (TGAU Gradd C), ond cyn gwneud cais i brifysgol, mae'n bosib y bydd yr NMC (Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth) yn gofyn i ddysgwyr fod â TGAU mewn Saesneg a Mathemateg. Os nad oes ganddynt broffil Lefel 2, mae'n bosib y caiff dysgwyr eu cynghori i gwblhau cymhwyster Sgiliau ar gyfer Astudio Pellach cyn dechrau ar gwrs Mynediad. Oherwydd bod cryn gystadleuaeth i gael lle ar gyrsiau nyrsio, bydwreigiaeth ac ati a bod angen i ddysgwyr wneud eu ceisiadau'n fuan ar ôl dechrau ar y cwrs Mynediad, cewch eich cynghori i gael profiad sylweddol mewn lleoliad gofal (fel gweithiwr cyflogedig neu wirfoddolwr) cyn dechrau ar y cwrs Mynediad i AU.
Pynciau sy'n cael eu hastudio
Mae Sgiliau Astudio, Rhifedd a Llythrennedd yn rhan greiddiol o'r Diploma Mynediad i AU a rhaid llwyddo yn y pynciau hyn, yn ogystal â chael gwybodaeth sylfaenol o TG ar gyfer Addysg Uwch.
Yn ogystal, rhaid i ddysgwyr lwyddo i gael 45 credyd Lefel 3 mewn tri phwnc academaidd sy'n cael eu graddio ar lefel Llwyddo, Teilyngdod a Rhagoriaeth.
Er enghraifft, gallai cynnig arferol gan Brifysgol ofyn am 30 credyd ar lefel Teilyngdod a 15 ar lefel Rhagoriaeth.
Y pynciau academaidd sy'n cael eu hastudio ar y Llwybr Mynediad i AU (Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol) yw:
- Troseddeg
- Llenyddiaeth Saesneg
- Seicoleg
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Rhan amser
Lefel:
3
Dwyieithog:
n/a