Diploma Mynediad i Addysg Uwch (Plismona)
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos
- Dull astudio:Llawn amser
- Hyd:
1 flwyddyn (16 awr yr wythnos). Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y cynigir rhaglen dwy flynedd.
Diploma Mynediad i Addysg Uwch (Plismona)Llawn Amser (Addysg Bellach)
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.
Disgrifiad o'r Cwrs
Hoffech chi fynd ymlaen i Addysg Uwch? Ydych chi am baratoi at ddilyn cwrs gradd mewn plismona? Ar y cwrs hwn, cewch y wybodaeth, y sgiliau a’r hyder i fynd ymlaen i ddilyn cwrs addysg uwch perthnasol.
Nod Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch Cymru Gyfan yw rhoi i chi'r sgiliau sy'n angenrheidiol i fynd ymlaen i ddilyn rhaglen addysg uwch yn llwyddiannus. Fe'u bwriadwyd ar gyfer dysgwyr sydd wedi cael profiad sylweddol o fywyd ers iddynt gwblhau eu haddysg orfodol.
Mae'r Diploma mewn Plismona'n cynnwys pynciau perthnasol mewn meysydd fel pwerau'r Heddlu, y ddeddfwriaeth a ddefnyddir gan yr heddlu, cadw safleoedd troseddau, troseddeg a seicoleg troseddu.
Bydd y dysgwyr yn astudio mathemateg a sgiliau astudio craidd, ynghyd â gwneud gwaith ymchwil arbrofol.
Gofynion mynediad
TGAU Gradd C mewn Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf a TGAU Gradd D mewn Mathemateg neu Rifedd (neu gymwysterau cyfwerth), yn unol â gofynion y llwybr dilyniant i brifysgol. Dylech fod wedi cael profiad mewn sgiliau bywyd perthnasol am o leiaf dair blynedd ar ôl gadael addysg orfodol.
Cyflwyniad
Cynlluniwyd Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch Cymru Gyfan i'ch helpu i ddychwelyd i astudio ar ôl cyfnod o amser. Felly, bydd y sesiynau'n rhai cyfranogol a gynhelir mewn awyrgylch cyfeillgar ac ysgogol. Byddwch yn gweithio'n agos gyda'r tiwtoriaid, gan ddysgu drwy gyfrwng gwersi ffurfiol yn ogystal â thrafodaethau, arddangosiadau a gwaith prosiect.
Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:
- Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
- Ailsefyll TGAU a/neu
- Bagloriaeth Cymru
Bagloriaeth Cymru
Mae Bagloriaeth Cymru'n gymhwyster gwerthfawr a astudir yn aml ochr yn ochr â chwrs llawn amser.
Caiff y cymhwyster, sy'n werth hyd at 120 pwynt UCAS, ei raddio A*–E a bydd yn rhoi i chi sgiliau personol a sgiliau busnes trosglwyddadwy. Mae prifysgolion a chyflogwyr yn ei ystyried yn gymhwyster gwerthfawr.
Yn rhan o'r cymhwyster, byddwch yn dysgu am Ddinasyddiaeth Fyd-eang, Mentergarwch a Chyflogadwyedd, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned ac yn mynd ar brofiad gwaith.
Sgiliau Hanfodol
Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.
Ailsefyll TGAU
Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.
Mathemateg a Chymraeg/Saesneg
Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.
Asesiad
Ar y cwrs, cewch eich asesu fel a ganlyn:
Gosodir tasgau gwahanol ar gyfer pob uned ac fe'ch asesir drwy gyfrwng y rhain yn ystod y cwrs
Bydd eich tiwtor yn eich helpu ac yn eich paratoi'n ddigonol
Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu, gan gynnwys traethodau, adroddiadau, tasgau ymarferol, setiau o broblemau, a chyflwyniadau
Bydd holl fodiwlau'r pynciau academaidd yn cynnwys o leiaf un ymarfer dibaratoad y bydd gofyn ei gwblhau mewn amser penodol
Bydd y rhaglen ddysgu'n cynnwys pynciau fel Technoleg Gwybodaeth a modiwl Edrych Ymlaen at Addysg Uwch Lefel 4.
Dilyniant
Bydd y Diploma Mynediad i Addysg Uwch (Plismona) yn paratoi dysgwyr i fod yn hunangyfeiriedig ac yn annibynnol trwy raglen ddysgu sy’n cefnogi caffael sgiliau, gwybodaeth ac ymddygiadau sy’n briodol i’w llwybr dilyniant arfaethedig. Bydd dysgwyr yn cael eu cyflwyno i ystod o feysydd pwnc yn ymwneud â gofynion academaidd ac ymarferol astudiaeth israddedig mewn Plismona.
Prif nodau’r Diploma MAU (Plismona) yw:
Creu cyfleoedd ar gyfer symud ymlaen i addysg uwch i oedolion nad oes ganddynt, oherwydd amgylchiadau amrywiol, y cymwysterau mynediad gofynnol
Hwyluso datblygiad y sgiliau a’r ymddygiadau sydd eu hangen i reoli gofynion astudiaethau israddedig mewn Plismona neu faes cysylltiedig yn llwyddiannus
Darparu rhaglen ddysgu ysgogol lle gall dysgwyr ennill gwybodaeth sy'n adlewyrchu'r meysydd craidd a'r disgyblaethau sy'n gysylltiedig ag astudiaeth israddedig mewn plismona.
Galluogi dysgwyr i adolygu eu cynnydd yn barhaus, nodi meysydd i'w gwella, goresgyn rhwystrau i ddysgu a gwella eu hunanhyder o fewn amgylchedd dysgu cadarnhaol a chefnogol. (gwefan Agored)
Mae dilyniant posibl yn rhanbarthol yn cynnwys Gradd BSc (Anrh) Plismona Proffesiynol Prifysgol Bangor a Grŵp Llandrillo Menai y cyflwynir blwyddyn gyntaf lawn a hanner yr ail flwyddyn ohoni ar gampws Grŵp Llandrillo Menai yn Rhos a chwrs BA (Anrh) mewn Plismona Proffesiynol Prifysgol Glyndŵr. . Bydd dilyniant posibl hefyd yn cynnwys astudiaeth Radd mewn meysydd sy'n ymwneud â Phlismona. Cefnogir myfyrwyr hefyd i nodi a gwneud cais am gyfleoedd dilyniant priodol fel rhan o'r cwrs.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)
Lefel:
3