Prentisiaeth Uwch - Peirianneg Gweithgynhyrchu Uwch Lefel 4

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Y Rhyl
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    24 mis

Gwnewch gais
×

Prentisiaeth Uwch - Peirianneg Gweithgynhyrchu Uwch Lefel 4

Prentisiethau

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Cynlluniwyd y fframwaith Prentisiaethau Uwch i ddarparu technegwyr a pheirianwyr o safon uchel sydd â sgiliau ymarferol a chymhwyster addysg uwch i'r sectorau gweithgynhyrchu a pheirianneg yng Nghymru.

Bydd y rhaglen yn hwyluso'r cynnydd ymlaen i gymhwyster lefel 5/6 ac yn ei gwneud hi'n bosib i brentisiaid weithio tuag at statws Peiriannydd Corfforedig.

Bydd Prentisiaid Uwch yn mynd ymlaen i swyddi technegol uwch mewn sectorau amrywiol fel y sector awyrofod, mecanyddol, trydanol/electroneg, peiriannau modur, cynnal a chadw, cynhyrchu ynni o wynt, ymchwil a datblygu, morol, y gofod a pheirianneg ar reilffyrdd.

Gofynion mynediad

  • Dyfarniadau Peirianneg (e.e. BTEC ac NVQ Lefel 3), a phrofiad ym maes Peirianneg yn ddymunol

Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.

Cyflwyniad

Cesglir tystiolaeth o'r gweithle ar gyfer yr elfen NVQ a bydd asesydd yn ymweld â safle gwaith yn rheolaidd i drafod cynnydd.

Mae'r gwaith Coleg yn digwydd fel arfer ddiwrnod yr wythnos dros gyfnod o 2 flynedd, ac yn dilyn gwaith cwrs Tystysgrif Dechnegol (HND neu HNC).

Mae gofynion y fframwaith hefyd yn gofyn am gymhwyster Sgiliau Hanfodol Lefel 2 mewn Cymhwyso Rhif, Cyfathrebu a TG, yn ogystal â Sgiliau Allweddol Lefel 2 mewn Gweithio gydag Eraill a Gwella eich Dysgu.

Asesiad

Ar gyfer yr elfen NVQ:

  • Cwblhau portffolio o dystiolaeth
  • Arsylwadau yn y gweithle i asesu gallu

Ar gyfer y Dystysgrif Dechnegol (HND/HNC):

  • Tasgau a phrofion theori

Dilyniant

Dyfarniadau Lefel 5/6

Ariannwyd y rhaglen hwn yn rhannol gan Gronfa Cymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Prentisiethau

Lefel: 4

Maes rhaglen:

  • Peirianneg

Dwyieithog:

Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:

  • Bangor
  • Llandrillo-yn-Rhos

Peirianneg

Myfyriwr yn gweithio ar fwrdd trydanol