Prentisiaeth - Amaethyddiaeth Lefel 2 a 3
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Glynllifon, Dysgu seiliedig ar waith
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
- Lefel 2: 18 mis
- Lefel 3: 24 mis
Prentisiaeth - Amaethyddiaeth Lefel 2 a 3Prentisiethau
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Os ydych chi'n frwd am ffermio ac eisiau gweithio ym maes amaethyddiaeth, mae prentisiaeth yn ffordd ddelfrydol o ddysgu wrth weithio ac ennill cyflog a gweithio tuag at gael cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol.
Mae prentisiaethau mewn amaethyddiaeth yn cynnwys gweithio i gyflogwr a meithrin sgiliau a gwybodaeth ymarferol wrth ennill cyflog a chael cymhwyster. Gallwch hyd yn oed gwblhau'r brentisiaeth gartref ar fferm y teulu. Cyflwynir y prentisiaethau ar Lefel 2 a Lefel 3 ac maent yn seiliedig ar y math o fferm rydych yn gweithio ynddi:
- Ffermio cig eidion
- Ffermio defaid
- Ffermio llaeth
Darperir y rhan fwyaf o'r hyfforddiant yn y gweithle, ond efallai y bydd y coleg yn gofyn i ddysgwyr ddod i sesiynau yn y coleg i gwblhau tasgau a phrofion theori.
Bydd y pynciau y byddwch yn eu hastudio yn dibynnu ar y math o waith rydych chi'n ei wneud, a gallant gynnwys:
- Monitro a chynnal lles anifeiliaid
- Cludo da byw
- Bwydo da byw
- Gofalu am anifeiliaid yn ystod genedigaeth ac wedyn
- Rheoli cnydau pori
- Rhoi triniaethau sylfaenol i dda byw
- Godro
- Monitro a gofalu am dda byw yn yr awyr agored
Gofynion mynediad
- Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol ond mae profiad o amaethyddiaeth yn ddymunol.
- Rhaid i bob prentis fod â chyflogwr sy'n gallu ymdrin â'r meini prawf NVQ.
Cyflwyniad
- Darperir y rhan fwyaf o'r hyfforddiant yn y gweithle
- Bydd gofyn i bob dysgwr fynychu sesiynau yn y coleg i gwblhau'r tasgau a phrofion theori
Asesiad
- Cwblhau portffolio o dystiolaeth
- Arsylwadau yn y gweithle
- Tasgau a phrofion yn seiliedig ar theori
Dilyniant
O Brentisiaeth Sylfaen Lefel 2 i Brentisiaeth Lefel 3
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Prentisiethau
Lefel:
2+3
Dwyieithog:
Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:
- Glynllifon