Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Y Rhyl
  • Dull astudio:
    Llawn amser
  • Hyd:

    2 flynedd. Blwyddyn 1 Tystysgrif. Blwyddyn 2 - Diploma.

Gwnewch gais
×

Gwyddor Feddygol Gymhwysol

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar gynnal iechyd ac atal a thrin clefydau. Yn ogystal â dysgu am elfennau sylfaenol Bioleg, Systemau Biolegol, Iechyd dynol a Chlefydau , mae'r cymhwyster yn trafod iechyd, ffisioleg, ffarmacoleg, mesuriadau ffisiolegol, profi clinigol ac ymchwil feddygol.

Cefnogi'r dysgwr i fynd ymlaen i addysg uwch neu waith; ar gyfer dysgwyr sydd â diddordeb gwirioneddol mewn gwyddoniaeth ac sydd eisiau datblygu eu sgiliau rhyngbersonol ac ymarferol; perffaith ar gyfer dysgwyr sydd eisiau dilyn gyrfa ym maes iechyd neu faes sy'n gysylltiedig â Gwyddoniaeth.

Gofynion mynediad

TGAU Gwyddoniaeth (dwyradd) gradd CC neu uwch neu wyddoniaeth ar wahân gradd C neu uwch yn ogystal â Saesneg a Mathemateg neu Rhifedd gradd C neu uwch.

Fel rhan o'r broses ymgeisio, bydd gofyn i chi ddod i gyfweliad ble cewch gyfle i drafod y cwrs.

Mae dilyniant i'r Diploma yn seiliedig ar eich perfformiad wrth astudio ar gyfer y Dystysgrif. Ar gyfer y dystysgrif rhaid i chi basio pob un o'r 3 uned rydych chi'n eu hastudio.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs fel a ganlyn:

  • Gwaith grŵp

  • Dysgu yn y dosbarth a gwaith yn y labordy

  • Cefnogaeth tiwtor

  • Ymweliadau addysgol

  • Google classroom (amgylchedd dysgu rhithwir)

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o'r canlynol:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol (CSH) a/neu

  • Ail-sefyll TGAU a/neu

  • Bagloriaeth Cymru

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU a/neu
  • Bagloriaeth Cymru
Bagloriaeth Cymru

Mae Bagloriaeth Cymru'n gymhwyster gwerthfawr a astudir yn aml ochr yn ochr â chwrs llawn amser.

Caiff y cymhwyster, sy'n werth hyd at 120 pwynt UCAS, ei raddio A*–E a bydd yn rhoi i chi sgiliau personol a sgiliau busnes trosglwyddadwy. Mae prifysgolion a chyflogwyr yn ei ystyried yn gymhwyster gwerthfawr.

Yn rhan o'r cymhwyster, byddwch yn dysgu am Ddinasyddiaeth Fyd-eang, Mentergarwch a Chyflogadwyedd, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned ac yn mynd ar brofiad gwaith.

Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Ailsefyll TGAU

Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.

Mathemateg a Chymraeg/Saesneg

Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Asesiad

Mae'r cwrs yn gyfuniad o dasgau a gaiff eu hasesu yn fewnol ac yn allanol, mae'r rhain yn cyfrif am 60% o'r cwrs. Mae dwy arholiad yn cyfrif am weddill y cwrs. Dylid nodi, er mwyn cyflawni graddau A*-C mae angen ennill nifer penodol o farciau.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 3