Prentisiaeth - Gweinyddu Busnes Lefel 3
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Dysgu seiliedig ar waith
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
15 mis
Prentisiaeth - Gweinyddu Busnes Lefel 3Prentisiethau
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Os oes gennych eisoes brofiad o weithio mewn swyddfa, neu os ydych yn symud ymlaen o'r cwrs Gweinyddu Busnes Lefel 2 (neu gwrs cyfwerth), yna bydd y cwrs hwn yn gwella'ch gwybodaeth a'ch sgiliau.
Yn ystod y cwrs, byddwch yn astudio amrywiaeth eang o bynciau, gan feithrin sgiliau cynhwysfawr a chael profiad ym mhob agwedd ar weinyddu ar lefel uwch. Byddwch yn trafod yr un meysydd â'r cwrs Lefel 2, ond ar lefel uwch. Yn ogystal ag ennill cymhwyster lefel 3 cydnabyddedig, cewch wella'ch sgiliau a'ch gobaith o gael gwaith.
Ceir profiad ymarferol ar y cwrs, yn cynnwys profiad gwaith. Mae'r pynciau dan sylw'n cynnwys sgiliau gweinyddu busnes, sgiliau cyfrifiadura hanfodol, prosesu testun, profiad o fyd gwaith a theipio.
Bydd prentisiaid Lefel 3 yn gweithio mewn swyddifel swyddogion gweinyddol, arweinwyr timau gweinyddol,
cynorthwywyr personol neu ysgrifenyddion, yn cynnwys ysgrifenyddion cyfreithiol neu feddygol.
Gofynion mynediad
- Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol ond mae profiad mewn Gweinyddu Busnes yn ddymunol.
- Dylai fod gan yr holl brentisiaid gyflogwr a fedr ateb gofynion meini prawf yr NVQ.
Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.
Cyflwyniad
- Darperir mwyafrif yr hyfforddiant yn y gweithle
- Mae'n bosibl y bydd angen mynychu sesiynau yn y coleg i gwblhau tasgau theori a phrofion
Asesiad
- Cwblhau portffolio o dystiolaeth
- Arsylwadau yn y gweithle
- Tasgau a phrofion theori
Dilyniant
O Brentisiaeth Lefel 3 i Brentisiaeth Uwch Lefel 4.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Prentisiethau
Lefel:
3
Maes rhaglen:
- Business and Management
Dwyieithog:
Darpariaeth ddwyieithog ar gael
Business and Management
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau: