Prentisiaeth - Peirianneg Lefel 2
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llangefni, Y Rhyl, Dysgu seiliedig ar waith
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
12 - 15 Mis
Prentisiaeth - Peirianneg Lefel 2Prentisiethau
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r fframwaith Gwella Perfformiad Ymarferol yn cynnwys dau lwybr dysgu (Gwneud Gwaith Peirianneg Lefel 2 a Gwneud Gwaith Cynhyrchu Lefel 2) sy'n darparu'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen ar brentisiaid i gynnal amrywiaeth o brosesau peirianneg a gweithgynhyrchu ar lefel led-grefftus ac ar lefel gweithredwr.
Mae llwybr Gwneud Gwaith Peirianneg Lefel 2 yn rhoi sylfaen gyffredinol mewn gweithrediadau a thechnegau peirianneg i brentisiaid sy’n gweithio ym maes peirianneg. Mae'r elfen gymhwysedd wedi'i theilwra i weithrediadau a thechnegau peirianneg. Byddant yn meddu ar statws lled-grefftus ar ôl cwblhau'r llwybr hwn.
Mae llwybr Gwneud Gwaith Cynhyrchu Lefel 2 yn canolbwyntio ar hyfforddi prentisiaid i weithredu'n effeithiol mewn amgylchedd gweithgynhyrchu.
Gofynion mynediad
- 2 TGAU graddau G / graddau cyfwerth newydd 2 i 1 gan gynnwys Saesneg / Cymraeg a Mathemateg.
- Rhaid cael cyflogwr addas sy'n gallu bodloni'r meini prawf NVQ
Cyflwyniad
- Gwneud Gwaith Peirianneg - Astudio am ddiwrnod yr wythnos yn y coleg i ddysgu sgiliau peirianneg ymarferol.
- Gwneud Gwaith Cynhyrchu - asesu technegau gweithgynhyrchu yn y gweithle
Asesiad
- Cwblhau portffolio o dystiolaeth
- Arsylwadau ymarferol
- Tasgau a phrofion seiliedig ar theori
Dilyniant
O Brentisiaeth Sylfaen Lefel 2 i Brentisiaeth Lefel 3 mewn Peirianneg.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Prentisiethau
Lefel:
2
Maes rhaglen:
- Peirianneg
Dwyieithog:
Darpariaeth ddwyieithog ar gael