Prentisiaeth - Peirianneg Lefel 3

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llangefni, Y Rhyl, Dysgu seiliedig ar waith
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    24 - 36 Mis

Gwnewch gais
×

Prentisiaeth - Peirianneg Lefel 3

Prentisiethau

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r Brentisiaeth mewn Peirianneg Lefel 3 wedi'i dylunio i ddarparu'r sgiliau, y wybodaeth a'r cymhwysedd sydd eu hangen i weithio ar lefel crefftwr neu dechnegydd.

Mae'n galluogi prentisiaid i feithrin gwybodaeth dechnegol a phrofiad ymarferol, ynghyd â sgiliau hanfodol a phersonol sydd eu hangen arnynt ar gyfer eu swyddi presennol a'u gyrfa yn y dyfodol.

Mae'r llwybrau dysgu’n cynnwys:

  • Peirianneg Forol
  • Peirianneg Cynnal a Chadw Trydanol
  • Peirianneg Cynnal a Chadw Mecanyddol
  • Gweithgynhyrchu Peirianneg
  • Peirianneg Awyrennau
  • Peirianneg Gwneud Offer
  • Gosod a Chomisiynu

Gofynion mynediad

  • 3 TGAU gradd C (gradd 4 newydd) neu uwch gan gynnwys Saesneg/Cymraeg, Mathemateg ac un arall.
  • Rhaid cael cyflogwr addas sy'n gallu bodloni'r meini prawf NVQ

Cyflwyniad

  • Darperir hyfforddiant technegol yn y coleg un diwrnod yr wythnos, ac nae'n cynnwys amser mewn gweithdai ymarferol.
  • Gall ymgeiswyr sydd wedi cwblhau'r BTEC Peirianneg Awyrennau Lefel 3 llawn amser yn llwyddiannus fynd ymlaen i astdio Peirianneg Awyrennau.

Asesiad

  • Cwblhau portffolio o dystiolaeth
  • Arsylwadau yn y gweithle
  • Tasgau a phrofion seiliedig ar theori

Dilyniant

  • Prentisiaeth Uwch Lefel 4
  • HNC mewn Peirianneg

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Prentisiethau

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Peirianneg

Dwyieithog:

Darpariaeth ddwyieithog ar gael

Peirianneg

Myfyriwr yn gweithio ar fwrdd trydanol