Prentisiaeth - Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 2

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Dysgu seiliedig ar waith
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    19 mis

Gwnewch gais
×

Prentisiaeth - Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 2

Prentisiethau

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae Prentisiaid Sylfaen Lefel 2 yn gweithio’n uniongyrchol gyda phobl sydd ag ystod o anghenion i annog a hyrwyddo eu hannibyniaeth a chefnogi eu hiechyd cyffredinol a'u llesiant, sy'n galluogi unigolion i gyrraedd eu potensial llawn. Bydd y prentisiaid yn gwneud hyn drwy gyfrannu at asesiad o fewn y ddarpariaeth gofal, ar ffurf amrywiaeth eang o weithgareddau ac yn cynnwys gwaith cefnogi gofalwyr a theuluoedd.

Bydd y cymhwyster yn rhoi cyflwyniad trylwyr i'r egwyddorion, y gwerthoedd a'r wybodaeth angenrheidiol i weithio yn y sectorau gofal iechyd a gofal cymdeithasol gydag oedolion a phlant a phobl ifanc.

Mae'r cymhwyster yn seiliedig ar ymarfer yn bennaf ac mae'n asesu gwybodaeth a chymhwysedd dysgwyr i ymarfer. Mae’n datblygu gallu’r dysgwr i gefnogi anghenion iechyd a gofal oedolion yn ymarferol mewn ystod o leoliadau a bydd yn eu galluogi i ddatblygu ac arddangos eu gwybodaeth, dealltwriaeth, ymddygiad, sgiliau ac ymarfer o fewn lleoliad iechyd a gofal cymdeithasol.

Gofynion mynediad

  • Rhaid i ddysgwyr fod yn gyflogedig mewn lleoliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol addas
  • TGAU - graddau D neu uwch (neu raddau cyfatebol) mewn Saesneg / Cymraeg a Mathemateg. Efallai y bydd gofyn i ddysgwyr heb y graddau hyn uwchsgilio yn gyntaf a bydd angen iddynt gwblhau cymwysterau sgiliau hanfodol Lefel 1 mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif.
  • Rhaid i ddysgwyr fod yn 18 oed o leiaf i ddilyn y cymhwyster hwn.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cymhwyster hwn ar sail Un i Un yn y gweithle

Asesiad

Rhaid i'r dysgwr gwblhau'r canlynol yn llwyddiannus:

  • portffolio o dystiolaeth sy'n cynnwys arsylwi ymarfer yn uniongyrchol
  • Llwyddo mewn tri asesiad allanol ar sail senario a gaiff eu marcio yn y ganolfan, gellir eu cyflawni unrhyw bryd yn ystod cyfnod y cymhwyster neu ar y diwedd
  • Pasio un prawf amlddewis wedi'i osod yn allanol ac wedi'i farcio'n allanol.

Mae'r cymhwyster yn seiliedig ar ymarfer ac mae'n asesu gwybodaeth a chymhwysedd dysgwyr i ymarfer. Mae'n datblygu gallu'r dysgwr i roi cymorth ymarferol i anghenion iechyd a gofal oedolion mewn amrywiaeth o leoliadau a bydd yn eu galluogi i ddatblygu ac arddangos eu gwybodaeth, dealltwriaeth, ymddygiad, sgiliau ac ymarfer o fewn lleoliad iechyd a gofal cymdeithasol.

Bydd y cwrs hwn yn helpu dysgwyr i ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o:

  • yr egwyddorion a'r gwerthoedd craidd sy'n sail i ymarfer iechyd a gofal cymdeithasol
  • ffyrdd o weithio yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol
  • arfer effeithiol o fewn iechyd a gofal cymdeithasol
  • llwybrau dilyniant i astudiaeth bellach neu gyflogaeth o fewn maes diogelu Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Yn ogystal, bydd dysgwyr yn gallu dangos eu bod yn:

  • deall, a chymhwyso'n ymarferol, yr egwyddorion a'r gwerthoedd sy'n sail i iechyd a gofal cymdeithasol
  • deall, a chymhwyso'n ymarferol, ddulliau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn
  • gwneud cyfraniad cadarnhaol i'r sector iechyd a gofal cymdeithasol drwy eu harfer eu hunain
  • myfyrio ar arfer er mwyn parhau i wella
  • deall rolau swyddi a ffyrdd o weithio o fewn y sector iechyd a gofal cymdeithasol
  • defnyddio sgiliau llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol fel y bo’n briodol yn eu rôl.

Dilyniant

Ar ôl ei gwblhau, bydd y cymhwyster yn rhoi sylfaen eang o wybodaeth ar draws iechyd a gofal cymdeithasol. Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Mae cymhwyster craidd yn darparu’r wybodaeth i symud ymlaen i:

  • Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ymarfer (Oedolion)
  • Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ymarfer (Plant a Phobl Ifanc)
  • Egwyddorion a Chyd-destunau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 3 (Oedolion/Plant a Phobl Ifanc)
  • TAG Uwch a TAG Uwch Gyfrannol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Prentisiethau

Lefel: 2

Maes rhaglen:

  • Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Dwyieithog:

Darpariaeth dwyieithog ar gael

Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Myfyrwyr yn gweithio mewn ystafell ddosbarth