Prentisiaeth - Llyfrgelloedd, Archifau, Cofnodion a Gwasanaethau Rheoli Gwybodaeth Lefel 2

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Dysgu seiliedig ar waith
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    15 - 18 mis

Gwnewch gais
×

Prentisiaeth - Llyfrgelloedd, Archifau, Cofnodion a Gwasanaethau Rheoli Gwybodaeth Lefel 2

Prentisiethau

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Dyma raglen hyfforddi sy'n cael ei chydnabod yn genedlaethol fel llwybr mynediad i yrfaoedd yn y sector Llyfrgelloedd, Archifau, Cofnodion a Gwasanaethau Rheoli Gwybodaeth yng Nghymru

Nid dim ond ceidwaid llyfrau a chasgliadau yw llyfrgellwyr mwyach. Maent yn ymgymryd ag ystod eang o swyddogaethau eraill, gan gynnwys rheoli adnoddau electronig.

Mae’n addas ar gyfer ystod eang o swyddi a wneir gan unigolion yn y sector cyhoeddus a phreifat, megis:

  • Cynorthwyydd Gwybodaeth
  • Cynorthwyydd Llyfrgell
  • Cynorthwyydd Archif
  • Cynorthwyydd Cofnodion
  • Cynorthwyydd Cymorth Dysgu

Lluniwyd y dystysgrif Lefel 2 fel man cychwyn i staff sy’n gymharol newydd i’r sector Llyfrgelloedd, Archifau a Gwasanaethau Gwybodaeth a/neu i astudio ar Lefel 2.

Gofynion mynediad

  • Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol ond mae profiad yn y diwydiant llyfrgelloedd yn ddymunol.
  • Rhaid i bob prentis fod â chyflogwr a all fodloni'r meini prawf NVQ.
  • Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs yn y gweithle. Mae cymorth ar-lein ar gael hefyd trwy Onefile.

Bydd yn rhaid i chi gwblhau wyth uned orfodol:

  • Creu a chynnal amgylchedd sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr
  • Helpu defnyddwyr i gyrchu gwybodaeth a/neu ddeunydd
  • Rhoi gwybodaeth a/neu ddeunydd
  • Lleoli a rhoi gwybodaeth a/neu ddeunydd yn ei ôl
  • Gwarchod, diogelu a chopïo gwybodaeth a/neu ddeunydd
  • Cefnogi defnyddwyr i ddefnyddio adnoddau digidol
  • Deall trefn Gwasanaethau Llyfrgell, Archif neu Wybodaeth
  • Deall amgylchedd Gwasanaethau Llyfrgell, Archif a Gwybodaeth

Asesiad

  • Completion of a portfolio of evidence
  • Work-based observation
  • Theory-based tasks and tests

Dilyniant

Diploma Lefel 3 mewn Gwasanaethau Llyfrgell, Archif a Gwybodaeth

Bydd dysgwyr sydd wedi cwblhau'r dystysgrif (Lefel 2) yn gallu cario 21 credyd ymlaen i'r diploma (Lefel 3).

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Prentisiethau

Lefel: 2

Maes rhaglen:

  • Astudiaethau Llyfrgell a Gwybodaeth

Dwyieithog:

Darpariaeth dwy-ieithog ar gael

Astudiaethau Llyfrgell a Gwybodaeth

Myfyriwr yn defnyddio cyfrifiadur