Prentisiaeth - Warysau a Storio
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Dysgu seiliedig ar waith
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
78 wythnos
Prentisiaeth - Warysau a StorioPrentisiethau
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae’r economi’n dibynnu ar symud nwyddau’n effeithlon yn y Deyrnas Unedig i sicrhau bod nwyddau’n cyrraedd ar amser ac yn y cyflwr cywir, ac mae busnesau warysau a storio yn rhan hanfodol bwysig o'r broses hon.
Mae'r swyddi hyn yn cynnwys amrywiaeth o dasgau, megis derbyn a storio nwyddau, rheoli stoc a rhestru'r eitemau, pacio archebion, a sicrhau bod y warws yn gweithredu'n ddiogel ac yn effeithlon.
Mae Gweithredwyr Warws ar Lefel 2 yn gweithio fel rhan o dîm, a gall fod angen iddynt lwytho/dadlwytho cerbydau. Bydd ganddynt hefyd gyfrifoldeb dirprwyedig am ddethol a phacio archebion cwsmeriaid yn gywir, gan sicrhau eu bod yn barod i'w hanfon ar amser.
Ar Lefel 3 mae Arweinwyr Tîm Warws yn gweithio fel uwch aelod y tîm. Yn ogystal â'u gweithgareddau warws arferol, bydd ganddynt hefyd gyfrifoldeb dirprwyedig am oruchwylio'r tasgau dethol a phacio archebion cwsmeriaid yn gywir, gan sicrhau bod y tîm yn cwblhau'r tasgau hyn ar amser yn barod i'w hanfon.
Gofynion mynediad
- Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol ond mae profiad mewn cynhyrchu bwyd a diod yn ddymunol.
- Dylai fod gan yr holl brentisiaid gyflogwr a fedr ateb gofynion meini prawf yr NVQ.
Cyflwyniad
- Darperir mwyafrif yr hyfforddiant yn y gweithle
Asesiad
- Cwblhau portffolio o dystiolaeth
- Arsylwadau yn y gweithle
- Tasgau a phrofion theori
Dilyniant
- O Brentisiaeth Sylfaenol Lefel 2 i Brentisiaeth Lefel 3
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Prentisiethau
Lefel:
2+3
Maes rhaglen:
- Arbenigol/Arall
Dwyieithog:
Darpariaeth dwy-ieithog ar gael