Celf, Dylunio a Chyfryngau Lefel 1
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos, Parc Menai
- Dull astudio:Llawn amser
- Hyd:
1 flwyddyn
Celf, Dylunio a Chyfryngau Lefel 1Llawn Amser (Addysg Bellach)
Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.
Disgrifiad o'r Cwrs
Oes gennych chi ddiddordeb mewn celf, dylunio a’r cyfryngau? Bydd y cwrs ymarferol yma’n eich cyflwyno i’r pynciau hyn, yn ogystal â’r diwydiannau creadigol ehangach. Bydd yn caniatau i chi archwilio a datblygu eich creadigrwydd o fewn y meysydd hyn, gan greu portffolio o waith a allai eich galluogi i symud ymlaen i’r lefelau nesaf.
Gofynion mynediad
Cyfweliad llwyddianus yn cynnwys arddangos eich portffolio.
Cyflwyniad
Gwaith ymarferol.
Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:
- Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
- Ailsefyll TGAU
Sgiliau Hanfodol
Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.
Ailsefyll TGAU
Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.
Mathemateg a Chymraeg/Saesneg
Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.
Asesiad
Asesu parhaus gan ddilyn prosiectau perthnasol
Dilyniant
- Celf a Dylunio Lefel 2
- Cyfryngau Lefel 2
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)
Lefel:
1