Lefel AS/A Bioleg (Rhan-amser)
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llangefni
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
1-2 flynedd
Lefel AS/A Bioleg (Rhan-amser)Rhan amser
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Hoffech chi ddatblygu'ch sgiliau gwyddonol ar lefel uwch? Ar y cwrs hwn, cewch wella'ch dealltwriaeth o fioleg, drwy astudio theori a thrwy wneud gwaith ymarferol. Mae'n baratoad da ar gyfer Addysg Uwch, a gall arwain at yrfa mewn meysydd gwyddonol neu mewn meysydd sy'n ymwneud ag iechyd.
Os ydych yn fyfyriwr ymroddedig, ac os cawsoch raddau da yn eich TGAU Bioleg/Gwyddoniaeth, mae'r cwrs hwn yn addas i chi. Bydd yn meithrin eich diddordeb yn y pwnc a'i gymwysiadau ehangach, gan eich galluogi i ragori.
Gofynion mynediad
I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen:
- 6 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf
- TGAU gradd BB mewn Gwyddoniaeth (Dwyradd) neu TGAU gradd B mewn Bioleg. TGAU gradd C mewn Mathemateg (Haen Uwch) neu TGAU gradd B mewn Rhifedd (Uwch/Canolradd)
Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.
Mae dilyniant i Lefel A yn ddibynnol ar eich perfformiad yn eich arholiadau AS.
Cyflwyniad
Cyflwynir y cwrs fel a ganlyn:
- Gwaith grŵp
- Dysgu yn y dosbarth
- Cefnogaeth tiwtor
- Ymweliadau addysgol
- MOODLE (amgylchedd dysgu rhithiol)
Asesiad
Ar y cwrs hwn, cewch eich asesu drwy gyfrwng arholiadau a llyfr gwaith labordy y byddwch yn ei gwblhau yn ystod dwy flynedd y cwrs.
I gael manylion llawn, gweler yr adran Gwybodaeth ychwanegol yn ôl campws/cwrs.
Dilyniant
Beth bynnag a gewch, Lefel A lawn neu Lefel AS, bydd gennych gymhwyster ychwanegol a fydd o gymorth i chi fynd yn eich blaen. Byddwch yn ennill pwyntiau UCAS a gallwch wneud cais am le ar amrywiaeth o gyrsiau Addysg Uwch mewn sawl sefydliad, gan gynnwys Grŵp Llandrillo Menai.
Os dewiswch barhau i astudio yn y maes hwn, gallech wneud cais i ddilyn cwrs prifysgol mewn gwyddoniaeth fiolegol, biocemeg, microbioleg, biotechnoleg, ecoleg, meddygaeth, deintyddiaeth, nyrsio neu seicotherapi. Wedyn, gallech gael gyrfa yn y diwydiant perthnasol. Bydd eich astudiaethau ar y cwrs Lefel A yn help i chi ddewis yn ddoeth o'r dewisiadau sydd ar gael.
Gwybodaeth campws Bangor
UNED 1 (AS) BIOCEMEG SYLFAENOL A THREFNIADAETH CELLOEDD (Arholiad ysgrifenedig: 1 awr 30 munud - 20% o'r cymhwyster)
Mae'r uned hon yn cynnwys y pynciau a ganlyn:
- Mae elfennau cemegol yn cael eu huno i ffurfio cyfansoddion biolegol
- Adeiledd a threfniadaeth celloedd
- Cellbilenni a chludiant
- Mae adweithiau biolegol yn cael eu rheoleiddio gan ensymau
- Asidau niwclëig a'u swyddogaeth
- Mae gwybodaeth enetig yn cael ei throsglwyddo i epilgelloedd
UNED 2 (AS) BIOAMRYWIATH A FFISIOLEG SYSTEMAU'R CORFF (Arholiad ysgrifenedig: 1 awr a 30 munud - 20% o'r cymhwyster)
Mae'r uned hon yn cynnwys y pynciau a ganlyn:
- Mae pob organeb yn perthyn i'w gilydd drwy eu hanes esblygiadol
- Addasiadau ar gyfer cyfnewid nwyon
- Addasiadau ar gyfer cludiant
- Addasiadau ar gyfer maeth
UNED 3 (A2) EGNI, HOMEOSTASIS A'R AMGYLCHEDD (Arholiad ysgrifenedig: 2 awr - 25% o'r cymhwyster)
Mae'r uned hon yn cynnwys y pynciau a ganlyn:
- Pwysigrwydd ATP
- Mae ffotosynthesis yn defnyddio egni golau i syntheseiddio moleciwlau organig
- Mae resbiradaeth yn rhyddhau egni cemegol mewn prosesau biolegol
- Microbioleg
- Maint poblogaethau ac ecosystemau
- Effaith dyn ar yr amgylchedd
- Homeostasis a'r aren
- Y system nerfol
UNED 4/5 (A2) AMRYWIAD, ETIFEDDIAD AC OPSIYNAU (Arholiad ysgrifenedig: 2 awr - 25% o'r cymhwyster)
Mae'r uned hon yn cynnwys y pynciau a ganlyn:
- Atgenhedlu rhywiol mewn bodau dynol
- Atgenhedlu rhywiol mewn planhigion
- Etifeddiad
- Amrywiad ac esblygiad
- Cymwysiadau atgenhedliad a geneteg
Dewis un opsiwn o bedwar:
A. Imiwnoleg a Chlefydau
B. Anatomi Cyhyrysgerbydol Dynol
C. Niwrobioleg ac Ymddygiad
D. Gwyddor Bwyd
UNEDAU DEWISOL - arholir gyda gwaith uned 4. ARHOLIAD YMARFEROL ar lefel A2 yn unig. 10% o'r cymhwyster. LLYFR LABORDY i'w gwblhau drwy gydol y flwyddyn AS a'r flwyddyn A2.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Rhan amser
Lefel:
3
Dwyieithog:
n/a