Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llangefni, Llandrillo-yn-Rhos, Pwllheli, Y Rhyl, Dolgellau
  • Dull astudio:
    Llawn amser
  • Hyd:

    1-2 flynedd

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Hoffech chi ddysgu rhagor am sut mae busnesau'n gweithio? Ydych chi am ddatblygu'r sgiliau sy'n angenrheidiol i ddatrys problemau heriol ym maes busnes? Mae'r cwrs hwn yn gyflwyniad i fyd busnes. Mae'n ymdrin ag amrywiaeth o bynciau pwysig, gan gynnwys sut mae sefydlu busnesau, sut maent yn marchnata eu hunain, a sut maent yn rheoli eu cyllid.

Byddwch hefyd yn astudio'r ffactorau allanol sy'n effeithio ar fusnesau, a'r penderfyniadau strategol a wneir wrth ymateb iddynt. Byddwch yn ystyried sut y caiff busnesau eu strwythuro, a sut y maent yn rheoli pobl ac adnoddau.

Gallech ddilyn y cwrs fel rhan o raglen astudio lawn amser ar y cyd â phynciau AS eraill, neu Ddiploma Lefel 3. Mae Astudiaethau Busnes yn mynd yn arbennig o dda gyda Chyfrifydda neu Gyfrifiadura.

Blwyddyn 1 (AS)

Ar y cwrs Lefel AS, cewch eich cyflwyno i'r heriau sy'n gysylltiedig â sefydlu busnes, gan gynnwys cynllunio ariannol. Byddwch yn edrych hefyd ar sut y bydd busnesau sydd wedi ennill eu plwyf yn gwella eu perfformiad drwy wneud penderfyniadau tactegol.

Uned 1: Cyfleoedd Busnes

Yn yr uned hon, canolbwyntir ar sefydlu busnesau newydd ac ar fentrau bach a chanolig. Seilir yr adran hon ar y cysyniad o ddechrau busnes newydd a'r problemau sy'n gysylltiedig â'r broses o gynllunio busnes newydd. Yn ogystal â thrafod y prif gysyniadau sy'n gysylltiedig â sefydlu busnes newydd, edrychir ar fathau eraill o fusnesau, y marchnadoedd y maent yn gweithio ynddynt a'u hamrywiol randdeiliaid.

Bydd gofyn i'r dysgwyr astudio'r meysydd isod:

  • Menter
  • Cynlluniau busnes
  • Marchnadoedd
  • Ymchwilio i'r farchnad
  • Strwythur busnes
  • Lleoliad busnes
  • Cyllid busnes
  • Refeniw a chostau busnes

Uned 2: Swyddogaethau Busnes

Yn yr uned hon, caiff cyd-destun materion busnes ei ehangu i gynnwys pob math o fusnesau, sy'n amrywio o rai bach a sefydlwyd yn ddiweddar i gwmnïau rhyngwladol sydd wedi hen ennill eu plwyf. Ymdrinnir â'r meysydd y mae gofyn i fusnesau eu deall er mwyn llwyddo mewn marchnad gystadleuol. Rhaid i bob busnes ystyried ei swyddogaethau craidd.

Bydd y dysgwyr yn astudio'r meysydd isod:

  • Marchnata
  • Cyllid
  • Pobl mewn sefydliadau (adnoddau dynol)
  • Rheoli gweithrediadau

Blwyddyn 2 (A2)

Ar y cwrs Lefel A2, byddwch yn ystyried strategaethau busnesau mwy ynghyd â'u perthynas â ffactorau allanol.

Uned 3: Dadansoddi a Strategaethau ym maes Busnes

Mae'r uned hon yn adeiladu ar y gwaith theori a gyflwynwyd yn Unedau 1 a 2. Fel yr awgryma'r teitl, mae'r uned hon yn canolbwyntio ar ddeall a defnyddio technegau dadansoddi ac ar ddatblygu strategaethau priodol ym maes busnes. Bydd yn fodd i chi ddeall, creu a dadansoddi amrediad o fodelau penderfynu a dulliau arfarnu buddsoddiadau y bydd busnesau'n eu defnyddio i benderfynu ar strategaethau. Bydd yn eich galluogi i feithrin sgiliau dadansoddi er mwyn gwyntyllu cyfleoedd a phroblemau busnes mewn nifer o wahanol gyd-destunau, ac i bwyso a mesur amrediad o ddata meintiol ac ansoddol er mwyn awgrymu ymatebion strategol posibl.

Bydd y dysgwyr yn astudio'r meysydd isod:

  • Dadansoddi data
  • Dadansoddi'r farchnad
  • Rhagweld gwerthiannau
  • Dadansoddi perfformiad ariannol
  • Dadansoddi perfformiad anariannol
  • Nodau ac amcanion
  • Creu a gweithredu strategaeth
  • Modelau penderfynu
  • Arfarnu buddsoddiadau
  • Archebion arbennig

Uned 4: Busnes mewn Byd sy'n Newid:

Mae'r uned hon yn canolbwyntio ar sut y bydd busnesau'n addasu er mwyn llwyddo mewn amgylchedd allanol deinamig. Mae gofyn i ddysgwyr ddeall nad yw'r byd busnes byth yn aros yn ei unfan a bod cyfleoedd a bygythiadau'n wynebu busnesau o bob maint byth a hefyd. Mae'n hanfodol deall bod busnesau, beth bynnag yw eu maint, erbyn hyn yn gweithredu mewn marchnad fyd-eang a bod gofyn iddynt ystyried amrediad eang o ffactorau allanol sy'n effeithio ar eu gweithgareddau, eu penderfyniadau a'u strategaethau o ddydd i ddydd. Yn yr uned hon, bydd gofyn i chi gyfuno'r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau y gwnaethoch eu meithrin yn y pedair uned er mwyn dangos bod gennych ddealltwriaeth holistig o weithgareddau busnesau a'r amgylchedd y maent yn gweithredu ynddo.

Bydd y dysgwyr yn astudio'r meysydd isod:

  • Newid
  • Rheoli risgiau
  • Ffactorau PEST
  • Ffactorau moesegol, cyfreithiol ac amgylcheddol
  • Masnach ryngwladol
  • Globaleiddio
  • Yr Undeb Ewropeaidd

Gofynion mynediad

Wyt ti'n bwriadu gwneud cais i ddilyn cwrs Lefel A? Dewisa 'Gwneud Cais' ar gyfer unrhyw un o'r pynciau mae gen ti ddiddordeb yn ei astudio. Gelli nodi dy ddau bwnc Lefel A arall wrth wneud y cais ar-lein.

Ceir gridiau o'r pynciau Safon Uwch sy'n cael eu cynnig ar bob campws yn yr adran Lefel A ar y wefan.

I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen:

  • 6 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf, a Mathemateg neu Rifedd

Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.

Mae dilyniant i Lefel A yn ddibynnol ar eich perfformiad yn eich arholiadau AS.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Gwaith grŵp
  • Dysgu yn y Dosbarth
  • Cefnogaeth Tiwtor
  • Ymweliadau Addysgiadol
  • Amgylchedd dysgu rhithwir (MOODLE)

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU a/neu
  • Bagloriaeth Cymru
Bagloriaeth Cymru

Mae Bagloriaeth Cymru'n gymhwyster gwerthfawr a astudir yn aml ochr yn ochr â chwrs llawn amser.

Caiff y cymhwyster, sy'n werth hyd at 120 pwynt UCAS, ei raddio A*–E a bydd yn rhoi i chi sgiliau personol a sgiliau busnes trosglwyddadwy. Mae prifysgolion a chyflogwyr yn ei ystyried yn gymhwyster gwerthfawr.

Yn rhan o'r cymhwyster, byddwch yn dysgu am Ddinasyddiaeth Fyd-eang, Mentergarwch a Chyflogadwyedd, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned ac yn mynd ar brofiad gwaith.

Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Ailsefyll TGAU

Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.

Mathemateg a Chymraeg/Saesneg

Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Asesiad

Cwrs modiwlaidd yw hwn a chynhelir asesiad ar ddiwedd bob blwyddyn. Cynhelir dau arholiad allanol bob blwyddyn.

Dilyniant

Beth bynnag a gewch, Lefel A lawn neu Lefel AS, bydd gennych gymhwyster ychwanegol a fydd o gymorth i chi fynd yn eich blaen. Byddwch yn ennill pwyntiau UCAS a gallwch wneud cais am le ar amrywiaeth o gyrsiau Addysg Uwch mewn sawl sefydliad, gan gynnwys Grŵp Llandrillo Menai.

Os dewiswch barhau i astudio'r pwnc hwn, mae Grŵp Llandrillo Menai'n cynnig ystod o gyrsiau Diplomau Cenedlaethol Uwch, Graddau Sylfaen a Graddau Anrhydedd.

Gallwch ddewis arbenigo ar un o'r llwybrau a ganlyn:

  • Cyfrifydda
  • Adnoddau Dynol
  • Manwerthu

Gallech ddewis dilyn gyrfa mewn ystod eang o feysydd busnes, gan gynnwys cyfrifeg, cyllid busnes, adnoddau dynol, manwerthu, rheolaeth a marchnata.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 3

Dwyieithog:

Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:

  • Bangor
  • Dolgellau
  • Pwllheli