Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos, Pwllheli, Dolgellau
  • Dull astudio:
    Llawn amser
  • Hyd:

    1-2 flynedd

Gwnewch gais
×

Lefel AS/A Cyfrifiadura

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Dolgellau
Pwllheli
Llandrillo-yn-Rhos

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu sut i raglennu cyfrifiaduron ac mewn dod i ddeall systemau cyfrifiadurol yn well? Ar y cwrs hwn, cewch gyfleoedd i ddatblygu meddalwedd cyfrifiadurol mewn iaith raglennu safonol, fel Java, yn ogystal â thudalennau gwe a chronfeydd data. Bydd yn eich cyflwyno i'r agweddau technegol ar feddalwedd systemau cyfrifiadurol a rhwydweithio.

Gall y cwrs eich paratoi i astudio Cyfrifiadura ar lefel Addysg Uwch. Gall hefyd fod yn baratoad gwerthfawr at yrfa sy'n ymwneud â chyfrifiadura e.e. ym maes gwyddoniaeth, technoleg, busnes neu'r cyfryngau.

Gallwch ddilyn y cwrs yn rhan o raglen astudio lawn amser, ar y cyd â phynciau Lefel AS/Lefel A eraill, neu o bosibl gyda chymwysterau galwedigaethol Lefel 3.

Gall myfyrwyr hŷn hefyd ddilyn y cwrs yn rhan-amser.

Bwriadwyd y cymhwyster hwn i roi dealltwriaeth drylwyr o'r cysyniadau sylfaenol sy'n gysylltiedig â chyfrifiadureg, gan ymgorffori'r datblygiadau cyffrous niferus sydd ar droed ar hyn o bryd yn y maes.

Caiff myfyrwyr gyfle i ddadansoddi a datrys problemau drwy gael profiad ymarferol o ddylunio, datblygu a phrofi meddalwedd cyfrifiadurol.

Yn ystod y cwrs, bydd y myfyrwyr yn meithrin amrediad eang o sgiliau trosglwyddadwy a fydd o fudd iddynt mewn swydd ac wrth astudio ar lefel Addysg Uwch. Ymhlith y sgiliau hyn mae, meddwl yn rhesymegol, dylunio'n greadigol, datrys problemau, sgiliau mathemategol a sgiliau cyfathrebu, ynghyd â deall yr amrywiol swyddogaethau pwysig sydd gan gyfrifiadura yn ein cymdeithas heddiw.

Gwybodaeth am yr Uned

Cyfrifiadureg Lefel AS

Yn y fanyleb AS, ceir dwy uned sy'n cynnwys amrywiaeth eang o bynciau cyfoes.

Uned 1: Hanfodion Cyfrifiadureg

Uned 2: Rhaglennu Ymarferol i Ddatrys Problemau

Mae cysylltiad agos rhwng astudio theori egwyddorion cyfrifiadurol a'r defnydd ymarferol a wneir o'r cysyniadau hyn ym maes cyfrifiadureg. Ymhlith y pynciau yr ymdrinnir â hwy yn y modiwlau, mae:

Caledwedd a Chyfathrebu

  • Astudio cydrannau caledwedd systemau cyfrifiadurol, gan gynnwys cof electronig, dyfeisiau mewnbynnu ac allbynnu, a storio data eilaidd.
  • Y gylchred cywain-gweithredu, gan ddangos sut mae'r prosesydd yn rhedeg rhaglenni.
  • Rhwydweithio, gan gynnwys astudio'r Rhyngrwyd. Defnyddio rhwydweithiau cyfathrebu, gan ddefnyddio protocolau rhwydweithio.
  • Trawsyrru data'n gyfresol a pharalel.

Cynrychioli data a mathau o ddata

  • Y system rhifau deuaidd, a storio nodau ar ffurf ddeuaidd.
  • Technegau rhifyddol deuaidd.
  • Cymhwyso gweithrediadau rhesymegol wrth raglennu, gan ddefnyddio algebra Boole.

Strwythurau data a threfnu data

  • Defnyddio araeau a chofnodion, a dethol strwythurau data priodol ar gyfer sefyllfaoedd penodol.
  • Meistr-ffeiliau a ffeiliau trafod. Cyrchu ffeiliau dilyniannol, mynegedig ac ar hap.
  • Diogelwch ffeiliau, gan gynnwys ffeiliau wrth gefn, cenedlaethau o ffeiliau a logiau trafod.
  • Dilysu a gwirio data

Systemau cronfeydd data

  • Cronfeydd data perthynol, modelu perthynas endidau a'r defnydd a wneir o hyn wrth ddadansoddi problemau sy'n ymwneud â phrosesu data.

Y system weithredu

  • Rôl y system weithredu o ran rheoli adnoddau, gan gynnwys: dyfeisiau mewnbynnu ac allbynnu, prosesau, diogelu cof a storfa wrth gefn.
  • Swp-brosesu, rheoli amser real a systemau trafodion amser real.

Algorithmau a rhaglenni

  • Defnyddio cysonion a newidynnau mewn algorithmau a rhaglenni.
  • Gweithrediadau mathemategol a rhesymegol mewn rhaglenni. Nodweddion algorithmau trefnu a chwilio.
  • Datblygu rhaglenni sy'n dethol ac ailadrodd.
  • Manteision dull modiwlaidd o fynd i'r afael â rhaglennu.

Egwyddorion rhaglennu

  • Nodweddion gwahanol fathau o ieithoedd rhaglennu, gan gynnwys ieithoedd trefniadol, gwrthrych-gyfeiriadol, gweledol a thagio.
  • Y dull gwrthrych-gyfeiriadol o raglennu, a'r berthynas rhwng gwrthrychau, dosbarthiadau a dulliau.
  • Y gwahaniaethau rhwng ieithoedd lefel uchel ac ieithoedd lefel isel. Adnabod sefyllfaoedd sy'n gofyn am ddefnyddio iaith lefel uchel neu iaith lefel isel.

Dadansoddi systemau

  • Pwrpas astudiaeth dichonoldeb o ran sicrhau y bydd ateb arfaethedig yn gost-effeithiol, wedi ei ddatblygu'n unol ag amserlen y cytunwyd arni ac o fewn cyllideb y cytunwyd arni.
  • Dulliau ymchwilio a dadansoddi, gan gynnwys arsylwi uniongyrchol, holiaduron, astudio dogfennau sy'n bodoli'n barod a chynnal cyfweliadau.
  • Dethol meddalwedd a chaledwedd addas i fynd i'r afael â gofynion problem.
  • Gwahanol ddulliau trosi: uniongyrchol, peilot, graddol a pharalel.
  • Profi rhaglenni gan brofi alpha, beta a derbyniad.
  • Cynnal a chadw perffeithiol, addasol a chywirol.

Meddalwedd

  • Defnyddio Amgylchedd Datblygu Integredig wrth ddatblygu a dadfygio rhaglenni.
  • Crynoyddion, dehonglwyr a chydosodyddion
  • Meddalwedd diwydiannol, technegol a gwyddonol, gan gynnwys e.e. rôl y cyfrifiadur o ran rhagweld y tywydd, dylunio gyda chymorth cyfrifiadur, roboteg a'r defnydd a wneir o graffeg ac animeiddio a grëwyd ar gyfrifiadur.

Rhaglennu ymarferol

  • Dylunio, dogfennu a datblygu prototeip ymarferol i ddatrys problem benodol.
  • Dangos dealltwriaeth o god rhaglen drwy gynhyrchu rhestri anodedig.
  • Gwerthuso rhaglenni er mwyn nodi nodweddion llwyddiannus, ac awgrymu gwelliannau ar gyfer agweddau llai llwyddiannus y system.

Diogelwch data a phrosesau cyfanrwydd

  • Y peryglon a all ddeillio o ddefnyddio cyfrifiaduron o ran preifatrwydd a diogelwch ffeiliau a data personol.
  • Prosesau sy'n amddiffyn diogelwch a chyfanrwydd data, gan gynnwys: lefelau mynediad a ganiateir, cyfrineiriau mynediad a mecanweithiau diogelu rhag ysgrifennu.
  • Cynllunio ar gyfer trychineb, ymdrin â bygythiadau posibl i systemau cyfrifiadurol.

Gofynion mynediad

Wyt ti'n bwriadu gwneud cais i ddilyn cwrs Lefel A? Dewisa 'Gwneud Cais' ar gyfer unrhyw un o'r pynciau mae gen ti ddiddordeb yn ei astudio. Gelli nodi dy ddau bwnc Lefel A arall wrth wneud y cais ar-lein.

Ceir gridiau o'r pynciau Safon Uwch sy'n cael eu cynnig ar bob campws yn yr adran Lefel A ar y wefan.

I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen:

  • 6 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf
  • TGAU gradd B mewn Mathemateg

Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.

Mae dilyniant i Lefel A yn ddibynnol ar eich perfformiad yn eich arholiadau AS.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Dysgu yn y dosbarth
  • Sesiynau ymarferol yn y gweithdy ar raglennu a chaledwedd cyfrifiadurol
  • Astudiaethau achos ym maes cyfrifiadura
  • Prosiectau myfyrwyr unigol.

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU a/neu
  • Bagloriaeth Cymru
Bagloriaeth Cymru

Mae Bagloriaeth Cymru'n gymhwyster gwerthfawr a astudir yn aml ochr yn ochr â chwrs llawn amser.

Caiff y cymhwyster, sy'n werth hyd at 120 pwynt UCAS, ei raddio A*–E a bydd yn rhoi i chi sgiliau personol a sgiliau busnes trosglwyddadwy. Mae prifysgolion a chyflogwyr yn ei ystyried yn gymhwyster gwerthfawr.

Yn rhan o'r cymhwyster, byddwch yn dysgu am Ddinasyddiaeth Fyd-eang, Mentergarwch a Chyflogadwyedd, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned ac yn mynd ar brofiad gwaith.

Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Ailsefyll TGAU

Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.

Mathemateg a Chymraeg/Saesneg

Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Asesiad

Cewch eich asesu ar waith y flwyddyn gyntaf drwy gyfrwng dau arholiad allanol a gynhelir fis Mehefin:

  • Papur theori sy'n cynnwys agweddau ar systemau cyfrifiadurol a rhaglennu
  • Arholiad ymarferol lle bydd myfyrwyr yn gwneud tasg raglennu.

Cewch eich asesu ar waith yr ail flwyddyn drwy gyfrwng:

  • Papur theori, y byddwch yn ei sefyll fis Mehefin, ar agweddau mwy datblygedig ar systemau cyfrifiadurol a rhaglennu
  • Prosiect rhaglennu ymarferol i'w gyflwyno fis Mai. Y myfyriwr, mewn ymgynghoriad â'i diwtor, fydd yn dewis testun y prosiect.

Dilyniant

Beth bynnag a gewch, Lefel A lawn neu Lefel AS, bydd gennych gymhwyster gwerthfawr a fydd o gymorth i chi fynd yn eich blaen. Byddwch yn ennill pwyntiau UCAS a gallwch wneud cais am le ar amrywiaeth o gyrsiau Addysg Uwch mewn sawl sefydliad, gan gynnwys Grŵp Llandrillo Menai. Ymhlith y cyrsiau y gallwch eu dilyn, mae cyrsiau gradd mewn Cyfrifiadura a phynciau perthnasol, yn ogystal â sawl dewis arall.

Mae'r cwrs yn baratoad da ar gyfer amrediad o gyrsiau gradd, a gall y sgiliau a ddysgir fod o fudd hefyd i rai sy'n chwilio am waith. Ar y cwrs, cewch lawer o gyfleoedd i feithrin a defnyddio sgiliau allweddol, yn ogystal â gwella'ch agweddau, eich amgyffrediad a'ch gwerthoedd mewn maes sy'n hynod berthnasol i fywyd bob dydd.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 3

Dwyieithog:

Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:

  • Dolgellau
  • Pwllheli