Lefel A/AS mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Y Rhyl
- Dull astudio:Llawn amser
- Hyd:
1-2 flynedd
Lefel A/AS mewn Iechyd a Gofal CymdeithasolLlawn Amser (Addysg Bellach)
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.
Disgrifiad o'r Cwrs
Bydd yr unedau y byddwch yn eu hastudio yn eich helpu i ddatblygu a dangos eich gwybodaeth, sgiliau a'ch dealltwriaeth o fewn cyd-destun iechyd a gofal cymdeithasol a gofal plant drwy:
- hyrwyddo iechyd a lles
- cefnogi iechyd, lles a gwytnwch yng Nghymru
- cynnig persbectifau damcaniaethol o ddatblygiad plant a phobl ifanc
- cynnig persbectif damcaniaethol i ymddygiad oedolion; cefnogi oedolion i gynnal iechyd, lles a gwytnwch.
Dysgwyr sydd â diddordeb mewn dysgu am ddatblygiad a gofal unigolion drwy gydol y cyfnod o'r dyddiau cyntaf hyd at oedolaeth.
- AS Uned 1: hyrwyddo iechyd a lles - Arholiad ysgrifenedig: 2 awr
- AS Uned 2: Cefnogi iechyd, lles a gwytnwch yng Nghymru - Asesiad heb arholiad: oddeutu 30 awr
- A2 Uned 5: Persbectifau damcaniaethol o ymddygiad oedolion - Arholiad ysgrifenedig: 2 awr 30 munud
- A2 Uned 6: Cefnogi oedolion i gynnal iechyd, lles a gwytnwch - Asesiad heb arholiad: oddeutu 40 awr
Gofynion mynediad
6 TGAU gradd A* - C yn cynnwys Mathemateg a Saesneg.
Fel rhan o'r broses ymgeisio, bydd gofyn i chi ddod i gyfweliad ble cewch gyfle i drafod y cwrs.
Mae dilyniant i Lefel A yn ddibynnol ar eich perfformiad yn eich arholiadau AS.
Cyflwyniad
Cyflwynir y cwrs fel a ganlyn:
Gwaith grŵp
Dysgu yn y dosbarth
Cefnogaeth tiwtor
Ymweliadau addysgol
Google classroom (amgylchedd dysgu rhithwir)
Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o'r canlynol:
Cymwysterau Sgiliau Hanfodol (CSH) a/neu
ail-sefyll TGAU a/neu
Bagloriaeth Cymru
Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:
- Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
- Ailsefyll TGAU a/neu
- Bagloriaeth Cymru
Bagloriaeth Cymru
Mae Bagloriaeth Cymru'n gymhwyster gwerthfawr a astudir yn aml ochr yn ochr â chwrs llawn amser.
Caiff y cymhwyster, sy'n werth hyd at 120 pwynt UCAS, ei raddio A*–E a bydd yn rhoi i chi sgiliau personol a sgiliau busnes trosglwyddadwy. Mae prifysgolion a chyflogwyr yn ei ystyried yn gymhwyster gwerthfawr.
Yn rhan o'r cymhwyster, byddwch yn dysgu am Ddinasyddiaeth Fyd-eang, Mentergarwch a Chyflogadwyedd, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned ac yn mynd ar brofiad gwaith.
Sgiliau Hanfodol
Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.
Ailsefyll TGAU
Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.
Mathemateg a Chymraeg/Saesneg
Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.
Asesiad
Mae'r cwrs wedi ei rannu yn 4 modiwl: Dwy uned AS a dwy uned A2: dwy uned a dwy uned A2 yn berthnasol i'r llwybr a ddewiswyd. 50% asesiad mewnol a 50% asesiad allanol.
Dilyniant
Symud ymlaen i waith ar lefel hyfforddai o fewn amgylchedd iechyd, gofal cymdeithasol a gofal plant.
Mynd ymlaen i ddilyn cymwysterau pellach mewn amrywiaeth o gyrsiau ar lefel HND neu radd ym maes iechyd, gofal cymdeithasol a phynciau yn ymwneud â gofal plant fel bydwreigiaeth.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)
Lefel:
3