Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos, Pwllheli, Y Rhyl, Dolgellau
  • Dull astudio:
    Llawn amser
  • Hyd:

    1-2 flynedd

Gwnewch gais
×

Lefel AS/A Hanes

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Dolgellau
Pwllheli
Llandrillo-yn-Rhos

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

A oes gennych chi ddiddordeb yn sut mae'r byd wedi datblygu i fod fel y mae heddiw? Bydd y cwrs hwn yn meithrin eich dealltwriaeth o hanes Prydain ac Ewrop, gan roi i chi'r sgiliau beirniadol sy'n angenrheidiol i archwilio'r gorffennol.

Os oes gennych TGAU mewn Hanes neu bwnc dyneiddiol arall, mae'r cwrs yn addas i chi. Os nad ydych wedi astudio'r maes hwn o'r blaen, gellir trafod eich addasrwydd ar gyfer y cwrs mewn cyfweliad.

Dylai pob myfyriwr ddeall bod y cwrs yn arwain at gymhwyster academaidd; nid cwrs hanes cyffredinol ydyw. Mae astudio Hanes ar y lefel uwch hon yn gofyn am ymroddiad a gwaith caled, ond gall hefyd fod yn brofiad gwerth chweil.

Gallwch ddilyn y cwrs fel rhan o raglen astudio lawn amser, ar y cyd â phynciau Lefel AS/Lefel A eraill, neu o bosibl gyda chymwysterau galwedigaethol Lefel 3.

Gofynion mynediad

Wyt ti'n bwriadu gwneud cais i ddilyn cwrs Lefel A? Dewisa 'Gwneud Cais' ar gyfer unrhyw un o'r pynciau mae gen ti ddiddordeb yn ei astudio. Gelli nodi dy ddau bwnc Lefel A arall wrth wneud y cais ar-lein.

Ceir gridiau o'r pynciau Safon Uwch sy'n cael eu cynnig ar bob campws yn yr adran Lefel A ar y wefan.

I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen:

  • 6 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf
  • TGAU gradd B mewn Hanes, neu TGAU gradd B mewn Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf os na astudiwyd Hanes ar lefel TGAU

Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.

Mae dilyniant i Lefel A yn ddibynnol ar eich perfformiad yn eich arholiadau AS.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Gwaith grŵp
  • Dysgu yn y Dosbarth
  • Cefnogaeth Tiwtor
  • Ymweliadau Addysgiadol
  • Amgylchedd dysgu rhithwir (MOODLE)

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU a/neu
  • Bagloriaeth Cymru
Bagloriaeth Cymru

Mae Bagloriaeth Cymru'n gymhwyster gwerthfawr a astudir yn aml ochr yn ochr â chwrs llawn amser.

Caiff y cymhwyster, sy'n werth hyd at 120 pwynt UCAS, ei raddio A*–E a bydd yn rhoi i chi sgiliau personol a sgiliau busnes trosglwyddadwy. Mae prifysgolion a chyflogwyr yn ei ystyried yn gymhwyster gwerthfawr.

Yn rhan o'r cymhwyster, byddwch yn dysgu am Ddinasyddiaeth Fyd-eang, Mentergarwch a Chyflogadwyedd, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned ac yn mynd ar brofiad gwaith.

Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Ailsefyll TGAU

Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.

Mathemateg a Chymraeg/Saesneg

Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Asesiad

  • Y ddau fodiwl AS a astudir yn ystod y flwyddyn gyntaf – asesiad drwy gyfrwng arholiadau ysgrifenedig fis Mai/Mehefin.
  • Y 3 modiwl A2 a astudir yn ystod yr ail flwyddyn – asesiad drwy gyfrwng aseiniad a osodir yn fewnol (Uned 5) / arholiad ysgrifenedig fis Mehefin (Unedau 3 a 4).

Dilyniant

Beth bynnag a gewch, Lefel A lawn neu Lefel AS, bydd gennych gymhwyster gwerthfawr a fydd o gymorth i chi fynd yn eich blaen.

Byddwch yn cael pwyntiau UCAS a gallwch wneud cais am amrywiaeth o gyrsiau Addysg Uwch mewn llawer o sefydliadau. Ymhlith y cyrsiau y gallwch eu dilyn mae Hanes, y Dyniaethau a sawl dewis arall. Yn ogystal â bod yn bwnc academaidd, dylai Hanes fod yn baratoad da ar gyfer llawer o gyrsiau gradd.

Yn draddodiadol, bydd myfyrwyr hanes yn dilyn gyrfaoedd mewn meysydd fel y sector addysg, archifo, archaeoleg, treftadaeth ac amgueddfeydd.

Mae sawl gweithiwr proffesiynol mewn meysydd megis newyddiaduriaeth, y cyfryngau, busnes, y gyfraith, gwleidyddiaeth, rheoli, actio, cyflwyno a llenyddiaeth wedi astudio hanes, a gallant ddefnyddio eu gwybodaeth hanesyddol yn eu gwaith. Bydd y cwrs hefyd yn eich helpu i ddysgu sgiliau trosglwyddadwy megis trefnu dadansoddiad, ysgrifennu'n berswadiol a chrynhoi syniadau. Mae'r rhain yn ddefnyddiol ar gyfer nifer o swyddi ac yn gwella'ch gobaith o gael gwaith.

Gwybodaeth campws Dolgellau

Ar y cwrs cewch ddysgu am 3 gyfnod Hanesyddol dra gwahanol sef hanes Cymru a Lloegr 1485-1603, hanes yr Almaen 1918 – 1945, a hanes America 1890 – 1990. Cewch y cyfle i archwilio a mynd i'r afael â'r cyfnodau hyn gan feithrin y sgiliau ehangach sy'n gysylltiedig â dadansoddi hanes.

Blwyddyn 1 (AS)

Uned 1: Llywodraeth, Gwrthryfel a Chymdeithas 1485 – 1603

Uned 2: Gweriniaeth Weimar 1918-1933

Blwyddyn 2 (A2)

Uned 3: America 1890 – 1990

Uned 4: Yr Almaen Natsiaidd 1933 – 1945

Uned 5: Aseiniad Gwaith Cwrs yn seiliedig ar oes y Tuduriaid 1485-1603

Gwybodaeth campws Pwllheli

Ar y cwrs cewch ddysgu am 3 gyfnod Hanesyddol dra gwahanol sef hanes Cymru a Lloegr 1485-1603, hanes yr Almaen 1918 – 1945, a hanes America 1890 – 1990. Cewch y cyfle i archwilio a mynd i'r afael â'r cyfnodau hyn gan feithrin y sgiliau ehangach sy'n gysylltiedig â dadansoddi hanes.

Blwyddyn 1 (AS)

Uned 1: Llywodraeth, Gwrthryfel a Chymdeithas 1485 – 1603

Uned 2: Gweriniaeth Weimar 1918-1933

Blwyddyn 2 (A2)

Uned 3: America 1890 – 1990

Uned 4: Yr Almaen Natsiaidd 1933 – 1945

Uned 5: Aseiniad Gwaith Cwrs yn seiliedig ar oes y Tuduriaid 1485-1603

Gwybodaeth campws Y Rhyl

Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn astudio dau gyfnod, un yn faes pwnc Prydeinig ac un yn Ewropeaidd, a bydd y rhain yn cael eu datblygu ymhellach yn yr ail flwyddyn.

Yn gyntaf, byddwn yn astudio'r brenhinoedd a'r breninesau Tuduraidd o Harri'r VII hyd Elizabeth I a'r newidiadau sylfaenol o ddigwyddodd mewn llywodraeth, cymdeithas a chrefydd o dan y Tuduriaid er mwyn dechrau creu ein cymdeithas fodern. Byddwn yn edrych ar frwydrau, gwrthryfeloedd, dienyddiadau a newidiadau sylweddol i fywydau pobl. Byddwn yn cwrdd â nifer o ffigurau hanesyddol gan ffieiddio at rai ac edmygu eraill. Bydd digon o faterion dadleuol i'w trafod ynghylch achos ac effaith a newid neu barhad.

Y pwnc Ewropeaidd yw'r Almaen Natsiaidd a gaiff ei astudio am nifer o resymau, ond yn bennaf er mwyn i genhedloedd osgoi ailadrodd yr un camgymeriadau gwleidyddol. Byddwn yn astudio'r Almaen dros ddwy flynedd gan edrych ar Weriniaeth Weimar a thwf Natsïaeth yn y flwyddyn gyntaf. Yn yr ail flwyddyn byddwn yn mynd ymlaen i edrych ar fywyd yn yr Almaen Natsiaidd ac ar yr Holocost.

Fel rhan o'r ail flwyddyn bydd angen i ni hefyd astudio pwnc nad yw'n gysylltiedig ag unrhyw beth arall a astudiwyd ar y cwrs. Bwriad hyn yw ymestyn a herio myfyrwyr fel eu bod yn barod am y gwaith a all eu hwynebu mewn Prifysgol. Y pwnc dan sylw fydd achosion a digwyddiadau'r Chwyldro Ffrengig a gyrfa ddilynol yr Ymerawdwr Napoleon Bonaparte. Dyma gyfnod cythryblus arall: gwrthryfel, chwyldro, rhyfeloedd a chymeriadau lliwgar (fel Napoleon ei hun a'r drwg-enwog Robespierre). Mae'n gyfnod pwysig am iddo ysgogi ein syniadau modern am ddemocratiaeth a rhyddid yr unigolyn, a fyddai maes o law yn arwain at Sosialaeth a Chomiwnyddiaeth, ideolegau gwleidyddol pwysig sydd wedi bod yn flaenllaw yn yr 20fed a'r 21ain ganrif.

Mae gwaith cwrs unigol yn elfen bwysig o'r ail flwyddyn, a bydd hwn yn seiliedig ar un ai'r pwnc Tuduraidd neu'r pwnc Ffrengig.

Unedau AS

Uned 1: Llywodraeth, Gwrthryfel a Chymdeithas yng Nghymru a Lloegr, tua 1485-1603 (Tuduriaid)

Uned 2: Yr Almaen Rhan 1 – Weimar a'i Sialensiau, tua 1918 - 1933

Unedau A2

Uned 3: Ffrainc – Yr ancien régime hyd Napoleon, tua 1715-1815

Uned 4: Yr Almaen rhan 2 – Yr Almaen Natsïaidd, tua 1933–1945

Uned 5: Dehongliadau Hanesyddol – Traethawd 4000 gair (Pwnc i'w benderfynu – Tuduraidd mae'n debyg)

Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos

Gwybodaeth uned

AS Uned 1

Astudiaeth o gyfnod yn edrych ar agweddau ar Hanes Ewrop yn ystod hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif, er enghraifft, rheolaeth Mussolini yn yr Eidal a Stalin yn Rwsia.

AS Uned 2:

Astudiaeth fanwl sy'n edrych ar Brydain rhwng 1625 ac 1642 sef y blynyddoedd a arweiniodd at y Rhyfel Cartref. Drwy edrych ar ffynonellau byddwn yn astudio'r dirywiad yng ngrym y Stiwardiaid wrth i'r Senedd alw am ragor o ddylanwad ar lywodraeth Lloegr, yr Alban a Chymru.

[Caiff arholiadau AS eu sefyll ar ddiwedd Blwyddyn 1]

A2 Uned 3

Yn ystod blwyddyn academaidd 2016-17 byddwn yn astudio America rhwng 1890 a 1990 gan gynnwys datblygiad y Mudiad Hawliau Sifil ac ymdrechion Roosevelt i ddatrys problemau'r Dirwasgiad Mawr.

A2 Uned 4

Mae'r uned hon yn barhad ar Uned 2 y cwrs AS ac mae'n cynnwys y Rhyfel Cartref yn Lloegr, dienyddiad Siarl I a chyfnod Oliver Cromwell mewn grym.

A2 Uned 5

Ymchwiliad a gyflwynir fel gwaith cwrs.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 3

Dwyieithog:

Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:

  • Dolgellau
  • Pwllheli