Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos, Pwllheli, Y Rhyl, Dolgellau
  • Dull astudio:
    Llawn amser
  • Hyd:

    1-2 flynedd

Gwnewch gais
×

Lefel AS/A Y Gyfraith

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Dolgellau
Pwllheli
Llandrillo-yn-Rhos

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Hoffech chi ddeall y system gyfreithiol? Hoffech chi gael gyrfa heriol ym maes y gyfraith? Ar y cwrs hwn, cewch astudio prif elfennau cyfundrefn gyfreithiol Cymru a Lloegr, gan edrych ar ei strwythur a'r modd y caiff ei gweithredu. Byddwch hefyd yn dysgu am feysydd penodol ym maes cyfraith gadarnhaol ac am ei nodweddion diffiniol.

Bydd y cwrs yn rhoi i chi gefndir cadarn yn y gyfraith ac yn datblygu'ch dealltwriaeth o'r modd y caiff y gyfraith ei rhoi ar waith mewn cymdeithas. Bydd hyn yn eich paratoi ar gyfer dilyn cwrs Addysg Uwch yn ogystal ag ar gyfer gyrfa werth chweil.

Mae'r Gyfraith yn bwnc y rhoddir gwerth mawr arno a bydd yn werthfawr i chi mewn amrediad eang o amgylchiadau. Mae hefyd yn bwnc dynamig a difyr sy'n cael dylanwad mawr ar sawl agwedd ar ein bywydau.

Gofynion mynediad

Wyt ti'n bwriadu gwneud cais i ddilyn cwrs Lefel A? Dewisa 'Gwneud Cais' ar gyfer unrhyw un o'r pynciau mae gen ti ddiddordeb yn ei astudio. Gelli nodi dy ddau bwnc Lefel A arall wrth wneud y cais ar-lein.

Ceir gridiau o'r pynciau Safon Uwch sy'n cael eu cynnig ar bob campws yn yr adran Lefel A ar y wefan.

I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen:

  • 6 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf
  • TGAU gradd B mewn Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf

Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.

Mae dilyniant i Lefel A yn ddibynnol ar eich perfformiad yn eich arholiadau AS.

Cyflwyniad

Mae'r cwrs yn cael ei gyflwyno fel a ganlyn:

  • Gwaith grŵp
  • Dysgu yn yr ystafell ddosbarth
  • Cefnogaeth Tiwtorial
  • Ymweliadau addysgol
  • MOODLE (amgylchedd dysgu rhithwir)

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU a/neu
  • Bagloriaeth Cymru
Bagloriaeth Cymru

Mae Bagloriaeth Cymru'n gymhwyster gwerthfawr a astudir yn aml ochr yn ochr â chwrs llawn amser.

Caiff y cymhwyster, sy'n werth hyd at 120 pwynt UCAS, ei raddio A*–E a bydd yn rhoi i chi sgiliau personol a sgiliau busnes trosglwyddadwy. Mae prifysgolion a chyflogwyr yn ei ystyried yn gymhwyster gwerthfawr.

Yn rhan o'r cymhwyster, byddwch yn dysgu am Ddinasyddiaeth Fyd-eang, Mentergarwch a Chyflogadwyedd, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned ac yn mynd ar brofiad gwaith.

Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Ailsefyll TGAU

Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.

Mathemateg a Chymraeg/Saesneg

Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Asesiad

Mae'r cwrs hwn yn cael ei asesu drwy ystod o weithgareddau sy'n medru cynnwys:

  • Asesiadau/aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig
  • Cyflwyniadau ac arddangosiadauPortffolios o waith
  • Perfformio ac arsylwi
  • Portffolio o waith.

Bydd dau arholiad allanol ffurfiol ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf a'r ail.

Dilyniant

Beth bynnag a gewch, Lefel A lawn neu Lefel AS, bydd gennych gymhwyster ychwanegol a fydd o gymorth i chi fynd yn eich blaen. Byddwch yn ennill pwyntiau UCAS ac yn gallu gwneud cais ar gyfer ystod o gyrsiau Addysg Uwch mewn llawer o sefydliadau.

Os byddwch yn dewis parhau â'ch astudiaethau mewn pwnc cysylltiedig, byddwch yn gallu symud ymlaen i gwrs prifysgol yn y Gyfraith neu gwrs proffesiynol yn y maes hwn.

Byddai opsiynau gyrfa yn y pen draw yn cynnwys gweithio fel cyfreithiwr, neu mewn rôl broffesiynol arall o fewn amrywiaeth o gyd-destunau, gan gynnwys y llysoedd, y system cyfiawnder troseddol, a'r sector busnes.

Gwybodaeth campws Dolgellau

Ar y cwrs hwn, cewch astudio prif elfennau cyfundrefn gyfreithiol Cymru a Lloegr, gan edrych ar ei strwythur a'r modd y caiff ei gweithredu. Byddwch hefyd yn dysgu am feysydd penodol ym maes cyfraith gadarnhaol ac am ei nodweddion diffiniol.

Bydd y cwrs yn rhoi i chi gefndir cadarn yn y gyfraith ac yn datblygu'ch dealltwriaeth o'r modd y caiff y gyfraith ei rhoi ar waith mewn cymdeithas. Bydd hyn yn eich paratoi ar gyfer dilyn cwrs Addysg Uwch yn ogystal ag ar gyfer gyrfa werth chweil. Mae'r Gyfraith yn bwnc y rhoddir gwerth mawr arno a bydd yn werthfawr i chi mewn amrediad eang o amgylchiadau. Mae hefyd yn bwnc dynamig a difyr sy'n cael dylanwad mawr ar sawl agwedd ar ein bywydau.

Gallwch ddilyn y cwrs yn rhan o raglen astudio lawn amser, ar y cyd â phynciau AS eraill, neu o bosibl gyda chymwysterau Lefel 3 eraill. Mae'r Gyfraith yn mynd yn dda gydag amryw o bynciau, a bydd ein staff yn fwy na pharod i'ch helpu i lunio rhaglen a fydd yn ateb eich gofynion orau. Gall myfyrwyr hŷn hefyd ddilyn y cwrs yn rhan-amser.

Gwybodaeth uned

Mae'r cwrs yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau pwysig, a bydd yn eich helpu i ddeall rhagor am y gyfraith a'r system gyfreithiol yng Nghymru a Lloegr. Byddwch hefyd yn dysgu am effaith yr Undeb Ewropeaidd ar y fframweithiau cenedlaethol hyn. Cewch eich annog i werthuso'r agweddau da a drwg ar ein system gyfreithiol, yn ogystal ag i ddirnad sut y mae'r gyfraith yn effeithio ar ein bywyd bob dydd.

Blwyddyn 1 (AS) - Strwythurau a Phrosesau Cyfreithiol - Ymresymu, Personél a Dulliau Cyfreithiol

Blwyddyn 2 (A2) - Cyfraith Gadarnhaol - Y Gyfraith mewn Cyd-destun.

Gwybodaeth campws Pwllheli

Gwybodaeth campws Y Rhyl

Gwybodaeth Uned Mae'r cwrs yn ymdrin ag ystod o bynciau pwysig, a bydd yn eich helpu i ddeall mwy am y gyfraith a'r system gyfreithiol yng Nghymru a Lloegr. Byddwch yn dysgu sut mae cyfreithiau'n cael eu gwneud, sut y caiff anghydfodau cyfreithiol eu datrys a sut mae'r gyfraith defnyddwyr yn gweithio, ochr yn ochr â phynciau eraill. Byddwch yn cael eich annog i werthuso agweddau da a drwg o'n system gyfreithiol, yn ogystal â gwerthfawrogi'r effeithiau mae'r gyfraith yn cael ar eich bywyd bob dydd.

Blwyddyn 1 (AS)

  • Datrys anghydfod
  • Cysyniadau Atebolrwydd
  • Gwneud y gyfraith

Blwyddyn 2 (A2)

  • Cyfraith droseddol
  • Cyfraith Defnyddwyr
  • Modiwl synoptig
  • Cymwysterau ychwanegol

Ystyrir myfyrwyr aeddfed heb gymwysterau cydnabyddedig.

Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 3

Dwyieithog:

Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:

  • Dolgellau
  • Pwllheli
  • Y Rhyl