Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llangefni, Llandrillo-yn-Rhos, Pwllheli, Y Rhyl, Dolgellau
  • Dull astudio:
    Llawn amser
  • Hyd:

    1-2 flynedd

Gwnewch gais
×

Lefel AS/A Mathemateg

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Dolgellau
Llangefni
Pwllheli
Llandrillo-yn-Rhos

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Hoffech chi ddatblygu'ch sgiliau mathemateg ar lefel uwch? Bydd y cwrs hwn yn gwella'ch dealltwriaeth o fathemateg – y cysyniadau sylfaenol a'r goblygiadau ehangach. Bydd yn meithrin eich diddordeb yn y pwnc a'i gymwysiadau ehangach, gan alluogi i chi ragori. Bydd hefyd yn rhoi i chi sgiliau sy'n amhrisiadwy ar gyfer dilyn llawer o gyrsiau Addysg Uwch, a gall arwain at yrfa ym maes peirianneg, cyfrifeg, addysgu, cyfrifiadureg a sawl maes arall.

Gallwch ddilyn y cwrs yn rhan o raglen astudio lawn amser, ar y cyd â phynciau AS eraill, neu o bosibl gymwysterau Lefel 3 eraill.

Gofynion mynediad

Wyt ti'n bwriadu gwneud cais i ddilyn cwrs Lefel A? Dewisa 'Gwneud Cais' ar gyfer unrhyw un o'r pynciau mae gen ti ddiddordeb yn ei astudio. Gelli nodi dy ddau bwnc Lefel A arall wrth wneud y cais ar-lein.

Ceir gridiau o'r pynciau Safon Uwch sy'n cael eu cynnig ar bob campws yn yr adran Lefel A ar y wefan.

I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen:

  • 6 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf
  • TGAU gradd B mewn Mathemateg (Haen Uwch)

Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.

Mae dilyniant i Lefel A yn ddibynnol ar eich perfformiad yn eich arholiadau AS.

Cyflwyniad

Mae'r cwrs yn cael ei gyflwyno fel a ganlyn:

  • Gwaith grŵp
  • Dysgu yn yr ystafell ddosbarth
  • Cefnogaeth Tiwtorial
  • Ymweliadau addysgol
  • MOODLE (amgylchedd dysgu rhithwir).

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU a/neu
  • Bagloriaeth Cymru
Bagloriaeth Cymru

Mae Bagloriaeth Cymru'n gymhwyster gwerthfawr a astudir yn aml ochr yn ochr â chwrs llawn amser.

Caiff y cymhwyster, sy'n werth hyd at 120 pwynt UCAS, ei raddio A*–E a bydd yn rhoi i chi sgiliau personol a sgiliau busnes trosglwyddadwy. Mae prifysgolion a chyflogwyr yn ei ystyried yn gymhwyster gwerthfawr.

Yn rhan o'r cymhwyster, byddwch yn dysgu am Ddinasyddiaeth Fyd-eang, Mentergarwch a Chyflogadwyedd, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned ac yn mynd ar brofiad gwaith.

Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Ailsefyll TGAU

Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.

Mathemateg a Chymraeg/Saesneg

Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Asesiad

Mae'r cwrs hwn yn cael ei asesu drwy ystod o weithgareddau sy'n medru cynnwys:

  • Asesiadau/aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig
  • Cyflwyniadau ac arddangosiadau
  • Portffolios o waith
  • Perfformio ac arsylwi

Dilyniant

Beth bynnag a gewch, Lefel A lawn neu Lefel AS, bydd gennych gymhwyster gwerthfawr a fydd o gymorth i chi fynd yn eich blaen. Byddwch yn cael pwyntiau UCAS a gallwch wneud cais am amrywiaeth o gyrsiau Addysg Uwch mewn llawer o sefydliadau. Ymhlith y cyrsiau gradd posibl, mae Mathemateg, Ffiseg, Peirianneg, Cyfrifiadureg, Economeg a phynciau eraill.

Gwybodaeth campws Bangor

Byddwch yn datblygu gwell dealltwriaeth o fathemateg a phrosesau mathemategol, a'u pwysigrwydd mewn Gwyddoniaeth, Masnach ac agweddau eraill ar fywyd modern.

Gwybodaeth uned

Byddwch yn astudio cyfanswm o chwech modiwl. Mae hyn yn cynnwys 4 modiwl mathemateg pur (C1,C2,C3,C4), 1 modiwl mecaneg (M1) ac un modiwl ystadegau (S1), fydd yn rhoi profiad eang i chi o ddefnyddio dulliau mathemategol. Byddwch yn gwneud gwaith grŵp, profion byr yn ogystal â'r dulliau dysgu mwy traddodiadol, yn cynnwys darlithoedd a sesiynau tiwtorial.Bydd yn rhaid i fyfyrwyr sydd am sefyll arholiadau lefel UG astudio modiwlau C1, C2 a S1. Bydd myfyrwyr sydd am barhau i astudio ar gyfer cymhwyster lefel A llawn yn yr ail flwyddyn astudio modiwlau C3, C4 ac M1.

Modiwl UG: C1

Byddwch yn astudio algebra, sy'n rhan hanfodol o'r cwrs cyfan, geometreg gyfesurynnol, ehangiadau binomaidd a differu. Byddwch yn gwneud gwaith graffiau ac yn dysgu sut i wneud hynny i ddatrys problemau go iawn.

Modiwl UG: C2

Mae'r ail fodiwl mathemateg pur yn dilyn ymlaen o C1, lle byddwch yn dod i ddeall a defnyddio mathemateg ar lefel uwch. Bydd gwaith grŵp yn rhan o'r modiwl hwn.

Modiwl UG: S1

Mae'r modiwl ystadegau yn cynnwys damcaniaeth tebygolrwydd, hapnewidynnau a dosraniadau tebygolrwydd.

Modiwl A2: C3

Mae'r modiwl mathemateg pur hwn yn dilyn ymlaen o C1 ac C2 ac yn cynnwys dadansoddi mathemategol ar lefel uwch.

Modiwl A2: C4

Elfen olaf mathemateg pur yw C4, sy'n barhad o C1, C2 a C3.

Modiwl A2: M1

Modiwl mecaneg yw hwn, sy'n cyflwyno'r myfyriwr i ddefnyddio mathemateg i ddatrys problemau go iawn. Mae'n ddefnyddiol iawn i fyfyrwyr sy'n astudio ffiseg (neu beirianneg) ac yn cynnwys pynciau fel mudiant mewn llinell syth, ffrithiant a momentwm.

Gwybodaeth campws Dolgellau

Gallwch ddilyn y cwrs yn rhan o raglen astudio lawn amser, ar y cyd â phynciau AS eraill, neu o bosibl gymwysterau Lefel 3 eraill. Mae Ffiseg yn mynd yn arbennig o dda gyda Mathemateg, ac mae'r gwaith ar ystadegaeth yn gymorth gyda dehongli mewn nifer o feysydd academaidd. Bydd ein staff yn fwy na pharod i'ch helpu i lunio rhaglen a fydd yn ateb eich gofynion orau. Gall myfyrwyr hŷn hefyd ddilyn y cwrs yn rhan-amser.

Gwybodaeth uned

Mae'r cwrs yn ymdrin a sawl agwedd ar fathemateg a bwriedir iddo feithrin ddealltwriaeth eang a thrylwyr o'r pwnc, ynghyd a mwynhad a chyrhaeddiad Bydd y pwyslais ar fodelu a chyd-destun yn golygu y byddwch yn gallu adnabod a defnyddio mathemateg mewn nifer o agweddau o fywyd pob-dydd. Mae'r modelau hyn yn cynnwys natur dosraniadau o fewn ystadegaeth, ac effeithiau grymoedd o fewn cinemateg. Mae'r cwrs yn tybio dealltwriaeth arddderchog o algebra a thrigonometreg, a caiff y testunau yma eu datblygu, a chyflwynir eraill megis calcwlws, dosraniadau tebygolrwydd a deddfau Newton.

Blwyddyn 1 (UG) (40%)

U1 (Pur – 25%) : Hafaliadau cwadratig a chydamserol, anhafaleddau, cwblhau y sgwar, syrdiau, hafaliadau a phrofion trigonometrig, geometreg cyfesurynnol a chylchoedd, differu a throbwyntiau, braslunio cromliniau, integru ac enrhifo arwynebeddau, theorem y binomial, fectorau, logarithmau a ffwythiannau esbonyddol a phrofion.

U2 (Cymhwysol – 15%):

  • Ystadegaeth

Samplu, diagramau a mesurau ystadegol, atchwel, rheolau tebygolrwydd, diagramau Venn, y dosraniadau Binomial, Poisson ac Unffurf arwhanol, profi Rhagdybiaeth a gweithio gyda setiau data mawr.

  • Mecaneg

Hafaliadau mudiant, graffiau teithio, mudiant fertigol, mudiant aflinol, deddfau Newton, lifftiau a gronynnau cysylltiedig, pwliau a fectorau o fewn cinemateg.

Blwyddyn 2 (A2) (60%)

U3 (Pur – 35%) : Dilyniannau rhifyddol a geometreg, ehangiad binomial pellach, ffracsiynau rhannol, arcau a sectorau, ffwythiannau trig cilyddol, differu ffwythiannau trigonometreg, esbonyddol a logarithmig, differu ffwythiannau cyfansawdd, lluoswm a chyniferydd, onglau cyfansawdd, ffwythiannau trig harmonig, modwlws, braslunio a thrawsffurfio ffwythiannau, differu ymhlyg a pharametraidd, pwyntiau ffurfdro, integru fesul rhan a thrwy amnewid, ffwythiannau a'u gwrthdroadau, dulliau cylchol, hafaliadau differol o fewn geometreg.

U4 (Cymhwysol – 25%):

  • Ystadegaeth

Y dosraniadau unffurf a normal, profi rhagdybiaeth pellach, cydberthyniad ac achosiaeth, annibyniaeth digwyddiadau, tebygolrwydd amodol, theorem Bayes.

  • Mecaneg

Cydrannu grymoedd, cydbwysedd, ffrithiant, systemau pwli pellach, mudiant mewn dau ddimensiwn, cinemateg fectorau, calcwalws fectorau.

  • Hafaliadau gwahaniaethol

Ffurfio, datrys a modelu gyda hafaliadau differol

Gwybodaeth campws Pwllheli

Gwybodaeth campws Y Rhyl

Mae'r cwrs yn ymdrin â sawl agwedd ar fathemateg a bwriedir iddo feithrin ynddoch ddealltwriaeth eang a thrylwyr o'r pwnc. Byddwch yn astudio prif feysydd algebra a ffwythiannau, yn ogystal â modelau mathemategol (cinemateg a fectorau mewn mecaneg). Byddwch hefyd yn dysgu am agweddau ar galcwlws, geometreg gyfesurynnol, theorem binomial, logarithmau a dilyniannau.

Gwybodaeth uned

Blwyddyn 1 (AS)

  • C1: Algebra a Ffwythiannau, Geometreg Gyfesurynnol, Differiadau
  • C2: Dilyniannau, Geometreg Gyfesurynnol, Trigonometreg, Integriadau
  • S1: Dosraniad Tebygolrwydd Arwahanol, Dosraniad Binomial a Dosraniad Poisson, Dosraniad Tebygolrwydd Di-dor
  • M1: Mudiant Unionlin, Ffrithiannau, Momentwm, Stateg

Blwyddyn 2 (A2)

  • C3: Trigonometreg, Ffwythiannau Esbonyddol, Differiadau, Integriadau
  • C4: Trigonometreg, Differiadau, Hafaliadau, Integriadau, Fectorau
  • S2: Dosraniad Tebygolrwydd Di-dor, Dau neu ragor o Newidynnau, Profi Rhagdybiaethau a Chyfyngau Hyder
  • M2: Dysgu rhagor am Fudiant Unionlin, Dynameg Gronyn, Mudiant dan effaith Disgyrchiant, Fectorau, Mudiant mewn Cylch.

Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 3

Dwyieithog:

Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:

  • Dolgellau
  • Pwllheli