Lefel AS/A Mathemateg (Rhan-amser)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llangefni
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    1-2 flynedd

Cofrestrwch
×

Lefel AS/A Mathemateg (Rhan-amser)

Rhan amser

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Hoffech chi ddatblygu'ch sgiliau mathemateg ar lefel uwch? Bydd y cwrs hwn yn gwella'ch dealltwriaeth o fathemateg – y cysyniadau sylfaenol a'r goblygiadau ehangach. Bydd yn meithrin eich diddordeb yn y pwnc a'i gymwysiadau ehangach, gan alluogi i chi ragori. Bydd hefyd yn rhoi i chi sgiliau sy'n amhrisiadwy ar gyfer dilyn llawer o gyrsiau Addysg Uwch, a gall arwain at yrfa ym maes peirianneg, cyfrifeg, addysgu, cyfrifiadureg a sawl maes arall.

Gofynion mynediad

Wyt ti'n bwriadu gwneud cais i ddilyn cwrs Lefel A? Dewisa 'Gwneud Cais' ar gyfer unrhyw un o'r pynciau mae gen ti ddiddordeb yn ei astudio. Gelli nodi dy ddau bwnc Lefel A arall wrth wneud y cais ar-lein.

Ceir gridiau o'r pynciau Safon Uwch sy'n cael eu cynnig ar bob campws yn yr adran Lefel A ar y wefan.

I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen:

  • 6 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf
  • TGAU gradd B mewn Mathemateg (Haen Uwch)

Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.

Mae dilyniant i Lefel A yn ddibynnol ar eich perfformiad yn eich arholiadau AS.

Cyflwyniad

Mae'r cwrs yn cael ei gyflwyno fel a ganlyn:

  • Gwaith grŵp
  • Dysgu yn yr ystafell ddosbarth
  • Cefnogaeth Tiwtorial
  • Ymweliadau addysgol
  • MOODLE (amgylchedd dysgu rhithwir).

Asesiad

Mae'r cwrs hwn yn cael ei asesu drwy ystod o weithgareddau sy'n medru cynnwys:

  • Asesiadau/aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig
  • Cyflwyniadau ac arddangosiadau
  • Portffolios o waith
  • Perfformio ac arsylwi

Dilyniant

Beth bynnag a gewch, Lefel A lawn neu Lefel AS, bydd gennych gymhwyster gwerthfawr a fydd o gymorth i chi fynd yn eich blaen. Byddwch yn cael pwyntiau UCAS a gallwch wneud cais am amrywiaeth o gyrsiau Addysg Uwch mewn llawer o sefydliadau. Ymhlith y cyrsiau gradd posibl, mae Mathemateg, Ffiseg, Peirianneg, Cyfrifiadureg, Economeg a phynciau eraill.

Gwybodaeth campws Bangor

Byddwch yn datblygu gwell dealltwriaeth o fathemateg a phrosesau mathemategol, a'u pwysigrwydd mewn Gwyddoniaeth, Masnach ac agweddau eraill ar fywyd modern.

Gwybodaeth uned

Byddwch yn astudio cyfanswm o chwech modiwl. Mae hyn yn cynnwys 4 modiwl mathemateg pur (C1,C2,C3,C4), 1 modiwl mecaneg (M1) ac un modiwl ystadegau (S1), fydd yn rhoi profiad eang i chi o ddefnyddio dulliau mathemategol. Byddwch yn gwneud gwaith grŵp, profion byr yn ogystal â'r dulliau dysgu mwy traddodiadol, yn cynnwys darlithoedd a sesiynau tiwtorial.Bydd yn rhaid i fyfyrwyr sydd am sefyll arholiadau lefel UG astudio modiwlau C1, C2 a S1. Bydd myfyrwyr sydd am barhau i astudio ar gyfer cymhwyster lefel A llawn yn yr ail flwyddyn astudio modiwlau C3, C4 ac M1.

Modiwl UG: C1

Byddwch yn astudio algebra, sy'n rhan hanfodol o'r cwrs cyfan, geometreg gyfesurynnol, ehangiadau binomaidd a differu. Byddwch yn gwneud gwaith graffiau ac yn dysgu sut i wneud hynny i ddatrys problemau go iawn.

Modiwl UG: C2

Mae'r ail fodiwl mathemateg pur yn dilyn ymlaen o C1, lle byddwch yn dod i ddeall a defnyddio mathemateg ar lefel uwch. Bydd gwaith grŵp yn rhan o'r modiwl hwn.

Modiwl UG: S1

Mae'r modiwl ystadegau yn cynnwys damcaniaeth tebygolrwydd, hapnewidynnau a dosraniadau tebygolrwydd.

Modiwl A2: C3

Mae'r modiwl mathemateg pur hwn yn dilyn ymlaen o C1 ac C2 ac yn cynnwys dadansoddi mathemategol ar lefel uwch.

Modiwl A2: C4

Elfen olaf mathemateg pur yw C4, sy'n barhad o C1, C2 a C3.

Modiwl A2: M1

Modiwl mecaneg yw hwn, sy'n cyflwyno'r myfyriwr i ddefnyddio mathemateg i ddatrys problemau go iawn. Mae'n ddefnyddiol iawn i fyfyrwyr sy'n astudio ffiseg (neu beirianneg) ac yn cynnwys pynciau fel mudiant mewn llinell syth, ffrithiant a momentwm.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Rhan amser

Lefel: 3

Dwyieithog:

n/a