Lefel AS/A Astudiaethau'r Cyfryngau
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos, Y Rhyl
- Dull astudio:Llawn amser
- Hyd:
1-2 flynedd
Lefel AS/A Astudiaethau'r CyfryngauLlawn Amser (Addysg Bellach)
Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r cwrs hwn yn canolbwyntio ar y trafodaethau beirniadol sy'n gysylltiedig â'r cyfryngau.
Gallwch astudio cyfuniad o:
- TAAU
- Diplomâu Cenedlaethol BTEC
- Lefel AS
- Lefel A
- Cymwysterau NVQ
Gwybodaeth Uned
Mae cwrs Lefel A CBAC mewn Astudio'r Cyfryngau wedi'i gynllunio er mwyn i fyfyrwyr allu defnyddio eu profiad o'r cyfryngau a datblygu eu gallu i ymateb yn feirniadol i'r cyfryngau. Mae'n galluogi myfyrwyr i ymchwilio i amrywiaeth eang o gyfryngau, yn cynnwys technoleg cyfryngau digidol, gan ddefnyddio'r cysyniadau sylfaenol sy'n sail i astudio'r cyfryngau: testunau, diwydiant a chynulleidfaoedd.
Mae'r fanyleb hefyd yn hybu gwaith creadigol fel y gall myfyrwyr ddod i werthfawrogi'r cyfryngau'n fwy drwy eu gwaith cynhyrchu eu hunain, gan ddatblygu eu sgiliau cynhyrchu. Ar y cwrs A2 yn enwedig, caiff myfyrwyr gyfle i ymchwilio i bwnc a fydd wedyn yn sail i'w cynhyrchiad. Drwy hynny, cânt eu hannog i greu cynyrchiadau y cyfrannodd ymwybyddiaeth o faterion cyfryngau cyfoes iddynt.
Anogir ymgeiswyr i:
- ddatblygu eu diddordeb a'u mwynhad o destunau'r cyfryngau
- edrych ar ddatblygiad sefydliadau cyfryngol
- dadansoddi'r ffordd mae gwahanol gyfryngau'n cyflwyno'r byd
- defnyddio eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth am faterion ac arferion cyfryngol yn eu gwaith ymarferol eu hunain
- edrych ar sut mae testunau'r cyfryngau wedi cael eu cynhyrchu, eu cylchredeg, eu defnyddio a'u dehongli gan gynulleidfaoedd
- gwerthuso datblygiad hanesyddol a threfniadaeth bresennol sefydliadau cyfryngol penodol
- datblygu sgiliau archwilio ac ymchwilio
- defnyddio eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o wahanol destunau cyfryngol er mwyn eu cymharu a gweld perthynas rhyngddynt.
Gofynion mynediad
Wyt ti'n bwriadu gwneud cais i ddilyn cwrs Lefel A? Dewisa 'Gwneud Cais' ar gyfer unrhyw un o'r pynciau mae gen ti ddiddordeb yn ei astudio. Gelli nodi dy ddau bwnc Lefel A arall wrth wneud y cais ar-lein.
I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen:
- 6 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf
Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.
Mae dilyniant i Lefel A yn ddibynnol ar eich perfformiad yn eich arholiadau AS.
Cyflwyniad
Cyflwynir y cwrs drwy gyfrwng amrywiaeth o ddulliau addysgu:
- dysgu yn yr ystafell ddosbarth
- trafodaethau
- ymweliadau â sefydliadau cyfryngol perthnasol ac ati.
Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:
- Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
- Ailsefyll TGAU a/neu
- Bagloriaeth Cymru
Bagloriaeth Cymru
Mae Bagloriaeth Cymru'n gymhwyster gwerthfawr a astudir yn aml ochr yn ochr â chwrs llawn amser.
Caiff y cymhwyster, sy'n werth hyd at 120 pwynt UCAS, ei raddio A*–E a bydd yn rhoi i chi sgiliau personol a sgiliau busnes trosglwyddadwy. Mae prifysgolion a chyflogwyr yn ei ystyried yn gymhwyster gwerthfawr.
Yn rhan o'r cymhwyster, byddwch yn dysgu am Ddinasyddiaeth Fyd-eang, Mentergarwch a Chyflogadwyedd, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned ac yn mynd ar brofiad gwaith.
Sgiliau Hanfodol
Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.
Ailsefyll TGAU
Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.
Mathemateg a Chymraeg/Saesneg
Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.
Asesiad
Ar y cwrs Lefel AS, caiff myfyrwyr eu hasesu drwy gyfrwng un modiwl ymarferol ac un modiwl sy'n seiliedig ar arholiad.
Mae'r modiwl ymarferol yn cynnwys tri darn o waith:
- un cyn-gynhyrchiad
- un cynhyrchiad sy'n datblygu o'r cyn-gynhyrchiad
- un adroddiad ar y broses gynhyrchu
Yn yr arholiad, ceir tri chwestiwn gorfodol, yn cynnwys un cwestiwn anweledig ar un ai deunydd clywedol neu ddeunydd seiliedig ar brint .
Mae ail flwyddyn y cwrs yn dilyn patrwm tebyg ac yn cynnwys dau fodiwl:
- Ymchwiliad ysgrifenedig i destun(au) cyfryngol sy'n seiliedig ar un neu fwy o'r prif gysyniadau cyfryngol yw'r modiwl gwaith cwrs
- Yn yr arholiad ysgrifenedig rhaid ateb tri chwestiwn o blith dewis o chwech
Dilyniant
- Bydd ymgeiswyr sy'n cwblhau'r fanyleb AS yn meddu ar y sgiliau ymarferol a deallusol y mae arnynt eu hangen i fynd ymlaen i astudio'r Cyfryngau ar lefel A2 neu i gymhwyso'r hyn y maent wedi'i ddysgu ar gyfer amrywiaeth o bynciau cysylltiedig.
- Bydd gan ymgeiswyr sy'n cwblhau'r fanyleb lawn sylfaen ragorol ar gyfer yr ystod eang o gyrsiau Addysg Uwch sydd ar gael ar hyn o bryd.
- Prentisiaeth Lefel 3 yn y Cyfryngau Creadigol a Digidol
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)
Lefel:
3
Dwyieithog:
n/a