Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llangefni, Llandrillo-yn-Rhos, Pwllheli, Y Rhyl, Dolgellau
  • Dull astudio:
    Llawn amser
  • Hyd:

    1-2 flynedd

Gwnewch gais
×

Lefel AS/A Seicoleg

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Dolgellau
Llangefni
Pwllheli
Llandrillo-yn-Rhos
Llandrillo-yn-Rhos

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Hoffech chi ddysgu rhagor am sut a pham bod pobl ac anifeiliaid yn meddwl, yn teimlo ac yn ymddwyn? Ar y cwrs, cewch gyflwyniad i Seicoleg a fydd yn baratoad gwerthfawr ar gyfer Addysg Uwch. Bydd y wybodaeth a gewch hefyd yn ddefnyddiol mewn amrywiaeth o yrfaoedd mewn sawl maes, yn cynnwys addysg, iechyd, busnes, manwerthu a sectorau eraill.

Diffiniad o Seicoleg yw astudiaeth wyddonol o'r meddwl ac o ymddygiad. Bydd seicolegwyr yn defnyddio amryw o ddulliau arbrofol ac anarbrofol, a chi (yr unigolyn unigryw) yw testun eu hastudiaeth. Ar y cwrs, cewch gip ar y ddisgyblaeth gyffrous hon, yn ogystal â meithrin sgiliau meddwl yn feirniadol, sgiliau llythrennedd, sgiliau rhifedd a sgiliau eraill. Nid oes gofyn i chi gael gwybodaeth flaenorol o seicoleg, ond byddai hynny'n fantais.

Gallwch ddilyn y cwrs yn rhan o raglen astudio lawn amser, ar y cyd â phynciau Lefel AS eraill, neu o bosibl gyda chyrsiau Lefel 3 eraill.

Gall myfyrwyr hŷn hefyd ddilyn y cwrs yn rhan-amser.

Gofynion mynediad

Wyt ti'n bwriadu gwneud cais i ddilyn cwrs Lefel A? Dewisa 'Gwneud Cais' ar gyfer unrhyw un o'r pynciau mae gen ti ddiddordeb yn ei astudio. Gelli nodi dy ddau bwnc Lefel A arall wrth wneud y cais ar-lein.

Ceir gridiau o'r pynciau Safon Uwch sy'n cael eu cynnig ar bob campws yn yr adran Lefel A ar y wefan.

I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen:

  • 6 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf
  • TGAU gradd B mewn pwnc Gwyddonol. TGAU gradd B mewn Mathemateg neu Rifedd a TGAU gradd B mewn Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf

Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.

Mae dilyniant i Lefel A yn ddibynnol ar eich perfformiad yn eich arholiadau AS.

Cyflwyniad

Mae'r cwrs yn cael ei gyflwyno fel a ganlyn:

  • Gwaith grŵp
  • Dysgu yn yr ystafell ddosbarth
  • Cefnogaeth Tiwtorial
  • Ymweliadau addysgol
  • MOODLE (amgylchedd dysgu rhithwir)

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU a/neu
  • Bagloriaeth Cymru
Bagloriaeth Cymru

Mae Bagloriaeth Cymru'n gymhwyster gwerthfawr a astudir yn aml ochr yn ochr â chwrs llawn amser.

Caiff y cymhwyster, sy'n werth hyd at 120 pwynt UCAS, ei raddio A*–E a bydd yn rhoi i chi sgiliau personol a sgiliau busnes trosglwyddadwy. Mae prifysgolion a chyflogwyr yn ei ystyried yn gymhwyster gwerthfawr.

Yn rhan o'r cymhwyster, byddwch yn dysgu am Ddinasyddiaeth Fyd-eang, Mentergarwch a Chyflogadwyedd, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned ac yn mynd ar brofiad gwaith.

Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Ailsefyll TGAU

Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.

Mathemateg a Chymraeg/Saesneg

Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Asesiad

Cewch eich asesu fel a ganlyn:

  • Dau arholiad allanol y flwyddyn, ym mis Mehefin
  • Gwaith cartref rheolaidd, prosiectau ymchwil ymarferol ac arholiadau ffug
  • Nid oes gwaith cwrs a asesir yn allanol.

Dilyniant

Beth bynnag a gewch, Lefel A lawn neu Lefel AS, bydd gennych gymhwyster gwerthfawr a fydd o gymorth i chi fynd yn eich blaen. Byddwch yn cael pwyntiau UCAS a gallwch wneud cais am amrywiaeth o gyrsiau Addysg Uwch mewn llawer o sefydliadau.

Os dewiswch barhau i astudio Seicoleg, gallech wneud cais i ddilyn cwrs gradd yn y pwnc. Bydd y sgiliau a ddysgwch ar y cwrs hefyd yn ddefnyddiol os byddwch am weithio ym maes personl, newyddiaduraeth, y cyfryngau a diwydiannau eraill.

Gallech hefyd ystyried dilyn cwrs Addysg Uwch mewn pynciau perthnasol, fel cwrs hyfforddiant athro neu gwrs meddygaeth, nyrsio, gofal iechyd, gwaith cymdeithasol neu gwnsela. Mae cyrsiau addas yn rhai or meysydd hyn ar gael yn Grŵp Llandrillo Menai.

Gwybodaeth campws Bangor

Seicoleg yw'r astudiaeth o ymddygiad. Mae dulliau ymchwil a sut mae seicolegwyr yn casglu eu data yn rhan integrol o'r cwrs. Ymdrinnir gydag ymddygiad dynol mewn perthynas gyda dylanwad cymdeithasol, cof, gwybyddiaeth a gwahaniaethau unigol yn y flwyddyn gyntaf gyda seicoleg fforensig gwybyddiaeth a'r gyfraith ac agweddau o ddatblygiad plentyndod yn cael eu hastudio yn A2.

Gwybodaeth uned

Blwyddyn 1 (AS)

PSYB1 - Cyflwyno Seicoleg

Mae'r modiwl hwn yn cael ei rannu yn dair adran orfodol:

Dulliau Allweddol - Edrych ar y prif bersbectifau seicolegol gan gynnwys cyfraniadau ymddygiadol a gwybyddol a bioseicoleg sy'n canolbwyntio ar seicoleg ffisiolegol a sail enetig ymddygiad.

Datblygiad Rhyw – Yma byddwn yn astudio cysyniadau o ryw, esboniadau am y datblygiad o hunaniaeth rhyw megis esboniadau biolegol a chymdeithasol.

Dulliau Ymchwil – Bydd gwahanol fathau o ddulliau ymchwil yn cael eu hastudio gan gynnwys dulliau ansoddol a meintiol a chryfder a gwendidau dulliau arbrofol a heb fod yn arbrofol.

PSYB2 – Seicoleg Gymdeithasol. Seicoleg Wybyddol, Gwahaniaethau Unigol

Rhennir y modiwl hwn yn dair adran:

Seicoleg Gymdeithasol

  • Dylanwad Cymdeithasol
  • Hyrwyddiad cymdeithasol ac effaith presenoldeb eraill ar berfformiad tasg
  • Beth yw cydymffurfiad?
  • Pam fod rhai unigolion a chymdeithasau yn cydymffurfio tra bod eraill yn parhau yn ymreolaethol?
  • Beth yw ufudd-dod a phwy sy'n ufuddhau?
  • Beth yw goblygiadau ufudd-dod mewn bywyd go iawn?
  • Materion moesegol a methodolegol.

Seicoleg Wybyddol – yn yr uned hon byddwch yn astudio'r Cof ac anghofio drwy edrych ar gydrannau nifer o fodelau gan gynnwys y model aml-stôr o gof a'r gwahanol esboniadau dros anghofio, gan gynnwys pydredd ac ataliad.

Gwahaniaethau Unigol – Yn yr uned hon byddwch yn astudio, esbonio, a gwerthuso triniaethau ar gyfer ffobiâu ac anhwylderau gorfodaeth obsesiynol

Blwyddyn 2 (A2)

PSYB3-Datblygiad Plentyn ac Opsiynau:

Rhennir y modiwl hwn yn dair adran:

Datblygiad y Plentyn - Bydd hyn yn cynnwys astudio gwaith Piaget, Vygotsky, a Bruner.

Gwybyddiaeth a'r Gyfraith – Yma bydd myfyrwyr yn astudio effaith gwybyddiaeth ar y gyfraith gan gynnwys technegau adnabod wyneb, dadlau dibynadwyedd tystiolaeth tyst llygad, a'r ddadl Cof Ffug.

Seicoleg Fforensig – Bydd myfyrwyr yn edrych ar ddiffiniadau o drosedd a damcaniaethau ymddygiad troseddol a thriniaethau therapïau cyfredol.

PSYB4 - Bydd Ymagwedd, Dadleuon a Dulliau mewn Seicoleg yn cynnwys meysydd megis ewyllys rhydd a lleihadaeth a phersbectifau dyneiddiol, biolegol, ymddygiadol, gwybyddol a seico ddadansoddol. Byddwch yn astudio dulliau ymchwil gan gynnwys ystadegau casgliadol.

Gwybodaeth campws Dolgellau

Hoffech chi ddysgu rhagor am sut a pham bod pobl ac anifeiliaid yn meddwl, yn teimlo ac yn ymddwyn? Ar y cwrs, cewch gyflwyniad i Seicoleg a fydd yn baratoad gwerthfawr ar gyfer Addysg Uwch. Bydd y wybodaeth a gewch hefyd yn ddefnyddiol mewn amrywiaeth o yrfaoedd mewn sawl maes, yn cynnwys addysg, iechyd, busnes, manwerthu a sectorau eraill.

Diffiniad o Seicoleg yw astudiaeth wyddonol o'r meddwl ac o ymddygiad. Bydd seicolegwyr yn defnyddio amryw o ddulliau arbrofol ac anarbrofol, a chi (yr unigolyn unigryw) yw testun eu hastudiaeth. Ar y cwrs, cewch gip ar y ddisgyblaeth gyffrous hon, yn ogystal â meithrin sgiliau meddwl yn feirniadol, sgiliau llythrennedd, sgiliau rhifedd a sgiliau eraill. Nid oes gofyn i chi gael gwybodaeth flaenorol o seicoleg, ond byddai hynny'n fantais.

Gallwch ddilyn y cwrs yn rhan o raglen astudio lawn amser, ar y cyd â phynciau Lefel AS eraill, neu o bosibl gyda chyrsiau Lefel 3 eraill. Bydd ein staff yn fwy na pharod i'ch helpu i lunio rhaglen a fydd yn ateb eich gofynion orau. Gall myfyrwyr hŷn hefyd ddilyn y cwrs yn rhan-amser.

Gwybodaeth uned

Ar y cwrs hwn, cewch gyflwyniad i'r prif ddulliau a ddefnyddir ym maes Seicoleg, gan ddysgu am rai o'r cymhlethdodau sy'n gysylltiedig ag ymddygiad pobl ac am sut mae'r meddwl dynol yn gweithio. Hefyd, cewch ddysgu am ddulliau ymchwilio ymarferol a fydd yn eich galluogi i gyflawni prosiectau bychain yn ystod y cwrs.

Y Cwrs Lefel AS

Mae'r cwrs, sy'n para blwyddyn, yn cynnwys dau fodiwl. Yn y modiwl cyntaf, cewch gyflwyniad i'r prif ddulliau y bydd seicolegwyr yn eu defnyddio, yn cynnwys y dulliau Biolegol, Ymddygiadol, Seicodeinamig a Gwybyddol. Bydd hyn yn rhoi sail gadarn i chi fynd ymlaen i astudio'r pwnc.

Yn yr ail fodiwl, byddwch yn parhau i gael cyflwyniad i'r ddisgyblaeth, gan ganolbwyntio ar ddeg astudiaeth graidd ym maes Seicoleg. Bydd y rhain yn enghreifftiau o ymchwil a wnaed gan seicolegwyr ac sydd wedi cael effaith sylweddol yn y maes. Ymhlith y pynciau a astudir, bydd dysgu anifeiliaid i siarad, y cwestiwn a fydd pobl yn fodlon ufuddhau dan unrhyw amgylchiadau ac effeithiau derbyn unigolion sydd yn eu hiawn bwyll i ysbyty seiciatrig.

Yn ystod eich blwyddyn AS, byddwch yn dysgu sut i gynnal eich ymchwil seicolegol eich hun. I wneud hyn, bydd gofyn i chi gynnal cyfweliadau byr, trefnu holiaduron, cynnal arbrofion ac arsylwi. Byddwch yn sefyll arholiad ar waith yr ail fodiwl.

Y Cwrs Lefel A2

Os byddwch yn cwblhau eich cymhwyster AS yn llwyddiannus, cewch symud ymlaen i'r cwrs A2. Bydd y cwrs hwn hefyd yn para blwyddyn ac yn cynnwys dau fodiwl. Yn y trydydd modiwl, canolbwyntir ar ehangu'ch gwybodaeth o ddulliau ymchwilio. Yn ogystal â pharhau i wneud gwaith ymchwil, byddwch yn dysgu sut i ddadansoddi'ch canlyniadau, gan ddefnyddio amrywiaeth o dulliau ystadegol disgrifiadol a chasgliadol a ddefnyddir gan seicolegwyr proffesiynol. Mae'r modiwl hwn hefyd yn cynnwys astudio seicoleg fel pwnc gwyddonol.

Yn y pedwerydd modiwl, cewch gyfle i edrych ar amrediad o bynciau ym maes Seicoleg. Gall y pynciau y byddwch yn eu hastudio gynnwys Y Cof a damcaniaethau ynghylch Cysgu a Breuddwydio. Byddwch hefyd yn astudio rhai o'r prif ddadleuon ym maes Seicoleg heddiw e.e. ai bioleg neu'r amgylchedd sy'n pennu ymddygiad. Yn olaf, byddwch yn ystyried sut y defnyddir Seicoleg yn y byd go iawn e.e. drwy edrych ar beth sy'n achosi salwch seiciatrig fel Iselder a Sgitsoffrenia a sut mae y cyflyrau hynny.

Gwybodaeth campws Pwllheli

Gwybodaeth ar gyfer yr unedau

Blwyddyn 1 (Lefel AS)

Mae'r cwrs yn cael ei ddysgu dros blwyddyn (Medi - Mehefin), ac mae'n cynnwys dau fodiwl. Caiff pob modiwl ei asesu ar wahân (arholiadau allanol) ac mae'r marciau yn cael eu hadio at ei gilydd i roi eich gradd AS.

Uned 1: Seicoleg: Gorffennol i Presennol

Mae sawl ffordd i esbonio ymddygiad dynol. Yn yr uned hon byddwch yn astudio theorïau, therapïau ac astudiaethau'r ymagwedd Fiolegol, Seicodynamig, Ymddygiadol, Positif a Gwybyddol.

Uned 2: Seicoleg: Defnyddio Cysyniadau Seicolegol

Adran A - Dadl Cyfoes

Adran B - Egwyddorion Ymchwil

Adran C - Cymhwyso dulliau ymchwil i senario newydd

Blwyddyn 2 (Lefel A)

Os ydych yn llwyddo yn eich arholiadau AS, byddwch yn symud ymlaen i astudio seicoleg A2. Mae'r cwrs yn cael ei ddysgu dros blwyddyn (Medi - Mehefin), ac mae'n cynnwys dau fodiwl arall. Bydd y marciau o'r modiwlau hyn yn cael ei ychwanegu at eich marciau AS i roi eich gradd A2.

Uned 3: Seicoleg: Goblygiadau yn y byd real

Uned 4: Seicoleg: Dulliau Ymchwil Cymhwysol

Gwybodaeth campws Y Rhyl

Gwybodaeth uned

Blwyddyn 1 (AS)

Bydd y cwrs AS yn para blwyddyn (Medi – Mehefin), ac mae'n cynnwys dau fodiwl. Caiff y modiwlau eu hasesu ar wahân a chyfunir y marciau i gyfrifo eich gradd AS. Byddwch yn dysgu sut i wneud eich ymchwil seicolegol eich hun, a bydd gofyn i chi gynnal cyfweliadau byr, trefnu holiaduron, cynnal arbrofion ac arsylwi.

PY1: Ymagweddau mewn Seicoleg: Gellir egluro ymddygiad pobl mewn sawl ffordd. Yn yr uned hon, byddwch yn astudio'r dulliau Biolegol, Seicodeinamig, Ymddygiadol a Gwybyddol o wneud hynny. Ym mhob achos, byddwch yn asesu'r modd y rhoddir y dull ar waith mewn damcaniaeth ac mewn therapi e.e. defnyddiwyd y dull Seicodeinamig i egluro personoliaeth ac i greu therapi ar sail dadansoddi breuddwydion.

PY2: Astudiaethau Craidd a Dulliau Ymchwilio Cymhwysol: Mae'r modiwl hwn yn cynnwys cyflwyniad i seicoleg, a chanolbwyntir ar ddeg ymchwil sydd wedi cael dylanwad mawr yn y maes. Ymhlith y pynciau a astudir, bydd effeithiau derbyn unigolion sydd yn eu hiawn bwyll i ysbyty seiciatrig, a'r cwestiwn a fydd pobl yn ufuddhau dan unrhyw amgylchiadau.

Blwyddyn 2 (A2)

Os byddwch yn cwblhau eich cymhwyster AS yn llwyddiannus, cewch symud ymlaen i'r cwrs A2. Bydd yn cwrs hwn hefyd yn para blwyddyn ac yn cynnwys dau fodiwl. Ychwanegir y marciau a gewch yn y modiwlau hyn at eich marciau AS er mwyn cyfrifo'ch gradd derfynol.

PY3: Dulliau ymchwilio a phynciau llosg ym maes ymchwil: Yn y modiwl hwn, canolbwyntir ar ehangu'ch gwybodaeth o ddulliau ymchwilio. Yn ogystal â pharhau i wneud gwaith ymchwil, byddwch yn dysgu sut i ddadansoddi'ch canlyniadau gan ddefnyddio dulliau ystadegol a ddefnyddir gan seicolegwyr proffesiynol. Byddwch hefyd yn astudio seicoleg fel pwnc gwyddonol ac yn ystyried y mater moesegol o ddefnyddio pobl ac anifeiliaid wrth wneud ymchwil.

PY4: Materion dadleuol, pynciau a chymwysiadau: Yn y modiwl hwn, byddwch yn edrych yn fanylach ar bynciau seicolegol allweddol. Gall y pynciau y byddwch yn eu hastudio gynnwys: Y Cof (sut y byddwn ni'n cofio, a pham y byddwn ni'n anghofio?), Seicoleg Annormal (y pethau sy'n achosi anhwylderau iechyd meddwl a'r dulliau a ddefnyddir i'w trin), a Seicoleg Fforensig (y rhesymau dros droseddu, a'r modd y caiff troseddwyr eu trin a'u cosbi). Hefyd, byddwch yn astudio rhai o'r prif ddadleuon ym maes seicoleg e.e. ai bioleg neu amgylchedd sy'n pennu ymddygiad.

Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos

Gwybodaeth am yr Uned

Blwyddyn 1 (AS)

Hyd y cwrs AS yw blwyddyn (Medi - Mehefin), ac mae'n cynnwys dau fodiwl. Caiff pob modiwl ei asesu ar wahân ac mae'r marciau yn cael eu cyfuno i roi eich gradd AS gyffredinol. Byddwch yn dysgu sut i fynd ati i wneud eich gwaith ymchwil seicolegol eich hun. Bydd gofyn i chi gynnal cyfweliadau ar raddfa fach, dosbarthu holiaduron, cynnal arbrofion ac arsylwadau.

Uned 1: Seicoleg: Ddoe a Heddiw

Mae sawl ffordd i esbonio ymddygiad dynol. Yn yr uned hon byddwch yn astudio dulliau Biolegol, Seicodeinamig, Ymddygiadol, Gwybyddol a chadarnhaol. Ym mhob achos, byddwch yn asesu eu cymhwysiad at un theori ac un therapi. Er enghraifft, mae'r ymagwedd Seicoddeinamig wedi cael ei ddefnyddio i esbonio personoliaeth a hefyd i ddatblygu dadansoddiad breuddwydion fel dull o therapi.

Uned 2: Seicoleg: Defnyddio Cysyniadau Seicolegol

Adran A - Dadl Gyfoes

Adran B - Egwyddorion Ymchwil

Adran C - Cymhwyso Dulliau Ymchwil i Senario Nofel

Blwyddyn 2 (ar gyfer 2016/17)

Ar ôl pasio eich Lefel AS, gallwch barhau â'ch astudiaeth Seicoleg ar lefel A2. Mae lefel A2 yn cael ei addysgu dros flwyddyn, ac mae'n cynnwys dau fodiwl arall. Bydd y marciau o'r modiwlau hyn yn cael eu cyfuno at farciau lefel AS i ddyfarnu eich gradd gyffredinol.

Uned 3: Seicoleg: Goblygiadau yn y Byd Go Iawn

Uned 4: Seicoleg: Dulliau Ymchwil Cymhwysol

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 3

Dwyieithog:

Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:

  • Dolgellau
  • Pwllheli