Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos, Pwllheli, Dolgellau
  • Dull astudio:
    Llawn amser
  • Hyd:

    1-2 flynedd

Gwnewch gais
×

Lefel AS/A Astudiaethau Crefyddol

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Dolgellau
Pwllheli
Llandrillo-yn-Rhos

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Hoffech chi ddeall rhagor am grefydd, moeseg ac athroniaeth? Mae'r cwrs hwn yn addas ar gyfer amrediad eang o fyfyrwyr sydd am astudio'r meysydd hyn, gan fynd i'r afael â materion personol, moesol, moesegol a chyfoes yr un pryd. Bydd yn eich paratoi ar gyfer byd gwaith ac ar gyfer Addysg Uwch, gan roi i chi wybodaeth fanwl yn ogystal â sgiliau eang o ran meddwl yn feirniadol a rhesymu.

Mae'r cwrs yn cynnig fframwaith ar gyfer ystyried amrywiaeth o bynciau, yn cynnwys y berthynas rhwng crefydd a diwylliant, yn ogystal â gwerthoedd moesol unigolion, cymunedau ffydd a chymdeithasau.

Byddwch hefyd yn dysgu sgiliau fel rhesymu ynghylch materion sy'n gysylltiedig â gwerthoedd, agweddau a gweithredoedd, yn ogystal â dod i gasgliadau cyfrifol ynghylch damcaniaethau a materion moesol.

UG Uned 1 - Cyflwyniad i Astudiaeth o Grefydd

Cristnogaeth, crefydd swyddogol y Deyrnas Unedig, fydd yn cael ei astudio yma. Byddwch yn dysgu am rai o hanfodion y ffydd ac yn datblygu nid yn unig eich dealltwriaeth ond eich meddwl critigol yn ogystal wrth ymdrin â natur Duw, awdurdod Y Beibl a hunaniaeth grefyddol ag ati.

UG Uned 2 - (Rhan A)

Cyflwyniad i Grefydd a Moeseg - sut dylid ymdrin â dilemâu moesol yw prif nodwedd yr uned yma wrth i dair damcaniaeth foesegol gael eu hastudio - dyma syniadau gwahanol ar sut i wneud penderfyniad moesol. Cymhwysir y damcaniaethau i faterion sy'n ein hwynebu pob dydd e.e. Ystyrir os yw erthylu, ewthanasia, rhyw tu allan i briodas, arfau niwclear ac arbrofi ar anifeiliaid yn iawn neu ddim. Rhoddir sylw yn arbennig i'r modd caiff y materion hyn eu gweld gan Gristnogion.

UG Uned 2 - (Rhan B)

Cyflwyniad i Athroniaeth Crefydd - A yw Duw yn bodoli? Pam fod drygioni yn y byd? Dyma'r math o gwestiynau sy'n cael eu gofyn yma. Byddwch yn ogystal yn cael y cyfle i ystyried dilysrwydd profiadau crefyddol fel troedigaeth a gweledigaethau.

U2 Uned 3 - Astudiaeth o Grefydd

Byddwch yn parhau yma i astudio Cristnogaeth i fwy o ddyfnder gan gynnwys ymdriniaeth o'r Beibl fel Gair Duw ac Iesu Grist fel y gwir Feseia. Byddwch yn ystyried gwerth oesol i bethau hanesyddol - ai dyn yn perthyn i'w gyfnod yn unig oedd Iesu?

U2 Uned 4 - Crefydd a Moeseg

Byddwch yn parhau yma i astudio Crefydd a Moeseg i fwy o ddyfnder gan gynnwys astudiaeth o amrywiol ddamcaniaethau moesegol, cymhwyso i faterion fel mudo a'r gosb eithaf ac yn ymdrin â chwestiwn ewyllys rydd.

U2 Uned 5 - Athroniaeth Crefydd

A oes y fath beth a gwyrthiau? Ai niwrosis yw cred grefyddol?

Parhau i ofyn y math yma o gwestiynau a wneir yma. Byddwch yn cael cyfle i fynd i'r afael ag iaith grefyddol ac ystyried dadleuon anffyddwyr yn erbyn cred grefyddol.

Gofynion mynediad

Wyt ti'n bwriadu gwneud cais i ddilyn cwrs Lefel A? Dewisa 'Gwneud Cais' ar gyfer unrhyw un o'r pynciau mae gen ti ddiddordeb yn ei astudio. Gelli nodi dy ddau bwnc Lefel A arall wrth wneud y cais ar-lein.

Ceir gridiau o'r pynciau Safon Uwch sy'n cael eu cynnig ar bob campws yn yr adran Lefel A ar y wefan.

I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen:

  • 6 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf
  • TGAU gradd B mewn Astudiaethau Crefyddol. Os na astudiwyd Astudiaethau Crefyddol ar lefel TGAU, yna bydd angen TGAU gradd B mewn Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf

Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.

Mae dilyniant i Lefel A yn ddibynnol ar eich perfformiad yn eich arholiadau AS.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Dysgu yn y dosbarth
  • Darlithoedd
  • Cyflwyniadau
  • Gwaith grŵp
  • Ymchwil

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU a/neu
  • Bagloriaeth Cymru
Bagloriaeth Cymru

Mae Bagloriaeth Cymru'n gymhwyster gwerthfawr a astudir yn aml ochr yn ochr â chwrs llawn amser.

Caiff y cymhwyster, sy'n werth hyd at 120 pwynt UCAS, ei raddio A*–E a bydd yn rhoi i chi sgiliau personol a sgiliau busnes trosglwyddadwy. Mae prifysgolion a chyflogwyr yn ei ystyried yn gymhwyster gwerthfawr.

Yn rhan o'r cymhwyster, byddwch yn dysgu am Ddinasyddiaeth Fyd-eang, Mentergarwch a Chyflogadwyedd, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned ac yn mynd ar brofiad gwaith.

Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Ailsefyll TGAU

Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.

Mathemateg a Chymraeg/Saesneg

Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Asesiad

Mae'r rhaglen yn seiliedig ar arholiad a chaiff ei hasesu drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Aseiniadau
  • Asesiadau dan reolaeth
  • Cyflwyniadau

Dilyniant

Beth bynnag a gewch, Lefel A lawn neu Lefel AS, bydd gennych gymhwyster gwerthfawr a fydd o gymorth i chi fynd yn eich blaen. Byddwch yn cael pwyntiau UCAS a gallwch wneud cais am amrywiaeth o gyrsiau Addysg Uwch mewn llawer o sefydliadau.

Ymhlith y cyrsiau gradd y gallwch wneud cais iw dilyn mae Astudiaethau Crefyddol, Athroniaeth a Diwinyddiaeth, a llawer mwy. Ystyrir Astudiaethau Crefyddol yn bwnc traddodiadol, ac felly mae gan brifysgolion feddwl uchel ohono.

Maer cwrs hefyd yn eich paratoi ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd y gallwch eu dilyn ar unwaith neu ar l cyfnod mewn Addysg Uwch.

Mae Astudiaethau Crefyddol yn addas ar gyfer amryw o alwedigaethau, yn cynnwys swyddi ym maes gwaith datblygu, gwaith yn y gymuned a gofal cymdeithasol. Ar ben hynny, bydd y sgiliau a ddysgir ar y cwrs yn arbennig o werthfawr mewn amrywiol feysydd fel y gyfraith, newyddiaduraeth a gwleidyddiaeth ac ar gwrs hyfforddi athrawon.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 3

Dwyieithog:

Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:

  • Dolgellau
  • Pwllheli