Lefel AS/A Cymdeithaseg (Rhan-amser)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llangefni
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    1-2 flynedd

Cofrestrwch
×

Lefel AS/A Cymdeithaseg (Rhan-amser)

Rhan amser

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Hoffech chi ddeall rhagor am fethodoleg a safbwyntiau cymdeithasegol?

Mae'r cwrs hwn yn addas ar gyfer amrediad eang o fyfyrwyr o wahanol gefndiroedd a grwpiau oedran sydd am astudio'r meysydd hyn. Bydd yn eich paratoi ar gyfer byd gwaith ac ar gyfer Addysg Uwch. Bydd hefyd yn rhoi i chi'r sgiliau sy'n hanfodol i ymchwilio'n feirniadol i hunaniaeth cymdeithasau, sefydliadau ac unigolion.

Gofynion mynediad

I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen:

  • 6 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf
  • TGAU gradd B yn un o'r Dyniaethau neu TGAU gradd B mewn Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf. TGAU gradd C mewn Mathemateg neu Rifedd

Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.

Mae dilyniant i Lefel A yn ddibynnol ar eich perfformiad yn eich arholiadau AS.

Cyflwyniad

Mae'r cwrs yn cael ei gyflwyno fel a ganlyn:

  • Gwaith grŵp
  • Dysgu yn yr ystafell ddosbarth
  • Cefnogaeth Tiwtorial
  • Ymweliadau addysgol
  • MOODLE (amgylchedd dysgu rhithwir)

Asesiad

Caiff y cwrs ei asesu drwy gyfwng arholiadau allanol fis Ionawr (unedau SY1 ac SY3) a fis Mehefin (unedau SY2 ac SY4).

Dilyniant

Beth bynnag a gewch, Lefel A lawn neu Lefel AS, bydd gennych gymhwyster gwerthfawr a fydd o gymorth i chi fynd yn eich blaen.

Byddwch yn cael pwyntiau UCAS a gallwch wneud cais am amrywiaeth o gyrsiau Addysg Uwch mewn llawer o sefydliadau. Ymhlith y cyrsiau gradd y gallwch wneud cais i'w dilyn mae Cymdeithaseg, Troseddeg, Y Gyfraith, Astudiaethaur Cyfryngau, Gwleidyddiaeth, Athroniaeth, a llawer mwy.

Mae'r cwrs hefyd yn eich paratoi ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd y gallwch eu dilyn ar unwaith neu ar ôl cyfnod mewn Addysg Uwch. Gallech gael gyrfa yn y meysydd canlynol - newyddiaduraeth, y cyfryngau, yr heddlu, y gyfraith, gwleidyddiaeth, nyrsio, iechyd a gofal cymdeithasol, addysg a llywodraeth leol.

Gwybodaeth campws Bangor

Disgrifiad cwrs

Ar y cwrs hwn, medrwch ddysgu sut mae cymdeithasau wedi eu strwythuro a sut maent yn gweithio, a sut mae unigolion a grwpiau yn rhyngweithio. Mae'n darparu dealltwriaeth lawn o feddwl a dulliau cymdeithasegol a'r cyfle i ddatblygu ystod o sgiliau.

Gwybodaeth uned

Blwyddyn AS

Uned G671: Archwilio Cymdeithasoli, Diwylliant a Hunaniaeth

• Ffurfiad diwylliant, y broses o gymdeithasoli, rôl cymdeithasoli wrth greu hunaniaeth.

• Archwilio'r broses ymchwil, archwilio'r defnydd o ddata meintiol ac ansoddol – dulliau casglu a dadansoddi yng nghyd destun ymchwil, archwilio'r defnydd o ddulliau cymysg yng nghyd-destun ymchwil.

Uned G672: Pynciau mewn Cymdeithasoli, Diwylliant a Hunaniaeth – Un pwnc o blith:

• Cymdeithaseg y teulu – cysyniadau allweddol a thueddiadau allweddol o fewn y teulu, rôl y teulu mewn cymdeithas, amrywiaeth teuluol, rolau, cyfrifoldebau a pherthynas aelodau o'r teulu â'i gilydd.

• Cymdeithaseg iechyd - cysyniadau allweddol ac adeiladwaith cymdeithasol iechyd a salwch, patrymau ac esboniadau am iechyd gwael mewn cymdeithas.

• Cymdeithaseg crefydd – cysyniadau allweddol a natur gyfnewidiol mudiadau crefyddol mewn cymdeithas, crefydd a safle cymdeithasol, cryfder crefydd mewn cymdeithas.

• Cymdeithaseg ieuenctid – cysyniadau allweddol ac adeiladwaith cymdeithasol ieuenctid, rôl diwylliant /isddiwylliant ieuenctid mewn cymdeithas, y berthynas rhwng ieuenctid ac isddiwylliant, profiad pobl ifanc mewn addysg.

Blwyddyn A2

Uned G673: Pŵer a Rheolaeth – Un pwnc o:

• Cymdeithaseg trosedd a gwyriad, diffinio a mesur trosedd a gwyriad, tueddiadau, patrymau ac esboniadau dros drosedd a gwyriad, rôl erledigaeth asiantaethau rheolaeth gymdeithasol wrth greu trosedd a gwyriad , datrysiadau i'r broblem o drosedd.

• Cymdeithaseg addysg, strwythur a threfniadaeth y system addysg, rôl a swyddogaeth addysg mewn cymdeithas,cyflawniad addysgolgwahaniaethol, y berthynas rhwng addysg a'r economi, addysg a pholisi cymdeithasol.

• Cymdeithaseg y cyfryngau torfol – diffinio ac ymchwilio'r cyfryngau torfol, cynllunio'r newyddion, cynrychiolaeth grwpiau cymdeithas, effaith y cyfryngau ar gymdeithas.

• Cymdeithaseg pŵer a gwleidyddiaeth – diffinio ac archwilio gweithredu gwleidyddol mewn cymdeithas, cymryd rhan mewn ac ymddangosiad mudiadau cymdeithasol newydd, patrwm cyfnewidiol gweithredu gwleidyddol, ideolegau gwleidyddol a'u perthynas gyda gweithredu gwleidyddol, natur a dosbarthiad grym gwleidyddol mewn cymdeithas.

Uned G674: Archwilio Anghyfartaledd a Gwahaniaeth Cymdeithasol

• Anghyfartaledd a gwahaniaeth cymdeithasol, wedi ei ddarlunio gan yr astudiaeth o ryw, dosbarth, ethnigrwydd, oedran

• Archwilio ymchwil cymdeithasegol ar anghyfartaledd a gwahaniaeth cymdeithasol – pryderon ymarferol, materion theori.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Rhan amser

Lefel: 3

Dwyieithog:

n/a