Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Abergele, Bangor, Llangefni, Llandrillo-yn-Rhos, Pwllheli, Y Rhyl, Dolgellau
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    12 mis

Gwnewch gais
×

Cymwysterau Asesu

Cyrsiau Byr

Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r cymwysterau hyn yn addas ar gyfer pobl sydd eisoes mewn swydd, neu'n meddwl dechrau swydd ym maes asesu yn y gweithle neu asesu galwedigaethol.

Bydd y cymhwyster hwn yn cynnig cyfle i bobl sydd yn cynnal asesiadau yn eu sefydliad i ddatblygu a gwella eu harferion yn gystal ag ennill cymhwyster proffesiynol ar gyfer y gwaith.

Gofynion mynediad

Mae'r cyrsiau hyn yn addas ar gyfer pobl sydd yn gweithio ym maes addysgu achrededig ac addysgu heb ei achredu (ble mae pobl yn asesu perfformiad ond ddim yn asesu ar gyfer cymhwyster).

Cyflwyniad

  • diwrnod cynefino
  • rhaglen asesu unigol o'ch dealltwriaeth a'ch sgiliau

Asesiad

Byddwch yn cael ei asesu drwy amrywiaeth o:

  • ymarferion yn seiliedig ar theori
  • tystiolaeth ymarferol

Mae dulliau asesu yn cynnwys:

  • arsylwi
  • tystiolaeth llygad dystion
  • cyfweliadau a thrafodaeth
  • cwestiynau ysgrifenedig ac ar lafar
  • aseiniadau
  • prosiectau
  • astudiaethau achos

Dilyniant

Bydd y cymwysterau yn eich cynorthwyo i fynd ymlaen i fod yn:

  • Asesydd Cymwysedig
  • Hyfforddwr

Gall Aseswyr fynd ymlaen i ddilyn cyrsiau Sicrhau Ansawdd Mewnol Lefel 4

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Byr

Lefel: N/A

Maes rhaglen:

  • Arbenigol/Arall

Dwyieithog:

n/a