Cymdeithas Cyfrifwyr Siartredig (ACCA)
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Online
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
13 modiwl, gyda phob un yn para 10-12 wythnos. Rhaid hefyd cwblhau modiwl ar-lein ar Foeseg a Sgiliau Proffesiynol.
Cymdeithas Cyfrifwyr Siartredig (ACCA)Proffesiynol
Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.
Disgrifiad o'r Cwrs
Dyfernir y cymhwyster ACCA gan Gymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig, sef y corff byd-eang ar gyfer cyfrifwyr proffesiynol. Mae'r llwybr astudio effeithiol hwn yn galluogi i gynrychiolwyr ddilyn gyrfa werthfawr mewn cyfrifeg, rheolaeth a chyllid.
Mae'r cymhwyster wedi'i gynllunio i addysgu gwybodaeth cyfrifo, sgiliau a safonau ac ymddygiad proffesiynol a fydd yn rhoi cyfle i'r ymgeiswyr adeiladu gyrfa lwyddiannus ar draws unrhyw sector.
Gofynion mynediad
Bydd angen i chi feddu ar gymhwyster cyfrifydda at Lefel 4 e.e. Technegydd AAT, neu radd berthnasol. Dylech fod yn gweithio yn y sector cyfrifyddiaeth, gan fod y cymhwyster yn gofyn am wybodaeth ymarferol a chymhwysiad.
Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.
Cyflwyniad
Caiff cyrsiau ACCA eu darparu ar-lein
Mae pob modiwl yn cynnwys rhwng 60 ac 80 awr o sesiynau cynefino, tiwtorialau, weminarau a sesiynau adolygu.
Y tu allan i'r gwersi mae cefnogaeth ar gael drwy gyfarfodydd ar-lein, e-bost a thros y ffôn.
Asesiad
Ym mhob modiwl byddwch yn sefyll un arholiad, fydd yn cael ei gynnal yn ystod cyfnodau arholiadau ACCA sef ym mis Mawrth, Mehefin, Medi a Rhagfyr. Cynghorir ymgeiswyr i wirio dyddiadau'r cyfnodau arholiadau hyn ar wefan ACCA. Bydd yr union ddyddiadau'n cael eu cadarnhau gan y coleg ar ddechrau pob modiwl.
Dilyniant
Mae'r cymhwyster proffesiynol hwn yn darparu cyfleoedd mewn amrywiaeth eang o sectorau lle mae cyfrifydda a rheoli ariannol yn hanfodol i berfformiad y sefydliad. Bydd datblygiad proffesiynol pellach yn dibynnu ar eich gyrfa unigol a gofynion y sector yr ydych yn gweithio ynddi.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Proffesiynol
Lefel:
4-6
Maes rhaglen:
- Business and Management
Dwyieithog:
n/aBusiness and Management
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau: